Mae'r gronfa ddata hon yn darparu manylion llyfryddiaethol (gan gynnwys crynodebau) ar gyfer erthyglau mewn cyfnodolion, ar amrywiaeth mawr o bynciau, gan gynnwys Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Seicoleg, Cymdeithaseg, Economeg, Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Hiliol, Gwaith Cymdeithasol ac Addysg. Mae'n cynnwys cofnodion mwy na 500 o deitlau cyfnodolion a gyhoeddir mewn 16 gwlad wahanol, gan gynnwys y DU a'r UD.
Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 3 miliwn o gyfeiriadau llyfryddiaethol at erthyglau mewn cyfnodolion, ynghyd â llyfrau, adolygiadau a detholiad o benodau sy'n dyddio'n ôl i 1951. Mae'n unigryw oherwydd ei bod yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddeunydd rhyngwladol ac yn cynnwys dros 100 o ieithoedd a gwledydd. Caiff mwy na 2,800 o gyfnodolion eu mynegeio'n rheolaidd ac mae tua 7,000 o lyfrau'n cael eu cynnwys bob blwyddyn.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae APA PsycINFO yn darparu deunydd ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys bron i 4 miliwn o ddyfyniadau o 2500 o deitlau cyfnodolion. Hwn yw'r adnodd mwyaf sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae naw deg naw y cant o'r deunydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Mae CCI Oedolion wedi’i greu gyda ac ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill. Nod cyffredinol y safle yw gwella safonau ymarfer drwy sicrhau bod gan ymarferwyr yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fod yn hyderus wrth wneud penderfyniadau ac asesiadau; gwybod am y canllawiau, arfer da, ymchwil, deddfwriaeth a chyfraith achos diweddaraf; ac ehangu eu sylfaen wybodaeth drwy waith achos.
Mae CCI Plant wedi’i greu gyda ac ar gyfer gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Nod cyffredinol y safle yw gwella safonau ymarfer drwy sicrhau bod gan ymarferwyr yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fod yn hyderus wrth wneud penderfyniadau ac asesiadau; gwybod am y canllawiau, arfer da, ymchwil, deddfwriaeth a chyfraith achos diweddaraf; ac ehangu eu sylfaen wybodaeth drwy waith achos.
Mae Eldis yn wasanaeth gwybodaeth ar-lein sy'n cynnwys mynediad am ddim i ymchwil amrywiol, ddiweddar a pherthnasol ar faterion datblygu rhyngwladol. Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 40,000 o grynodebau ac mae'n rhoi dolenni am ddim i ddogfennau ymchwil a pholisïau testun llawn gan dros 8,000 o gyhoeddwyr. Mae modd ei chwilota neu ei bori gan ddefnyddio Topics neu Country Profiles.
Mae’r Health Management Information Consortium yn cynnwys manylion erthyglau a llyfrau ynghylch rheoli gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol, polisi cymdeithasol a gofal cymunedol.
Sefydliad ymchwil cymdeithasol arloesol oedd Mass Observation a sefydlwyd yn 1937 i gofnodi bywyd beunyddiol ym Mhrydain. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn cynnwys deunydd gwreiddiol a gasglwyd gan Mass Observation rhwng 1937 a 1967, gan gynnwys dyddiaduron a holiaduron a anfonwyd i mewn gan ei banel o wirfoddolwyr ac ymchwil a gasglwyd gan ymchwilwyr cyflogedig ar ffurf adroddiadau Ffeil a chasgliadau Pwnc.
Fe’i lansiwyd ym 1981 gan Brifysgol Sussex fel ailenedigaeth yr Arsylwad Torfol gwreiddiol ym 1937, a’i nod oedd cofnodi hanes cymdeithasol Prydain drwy recriwtio gwirfoddolwyr i ysgrifennu am eu bywydau a’u barn. Yn dal i dyfu, mae’n un o’r ffynonellau pwysicaf sydd ar gael am ddata cymdeithasol ansoddol yn y DU. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys y cyfarwyddiadau (holiaduron) a anfonwyd gan yr Arsylwad Torfol yn y 1980au a’r 1990au a’r miloedd o ymatebion iddynt gan gannoedd o Arsylwyr Torfol. Mae’r pynciau a drafodir yn amrywio’n fawr, o’r personol iawn (rhyw, teulu) i fywyd pob dydd (siopa, gwyliau) i faterion byd-eang.
ProQuest Central yw'r adnodd erthyglau cyfnodolion mwyaf ar gael. Mae'r gronfa yn dod â chronfeydd data cyflawn ynghyd o feysydd mawrion megis Busnes, Iechyd a Meddyginiaeth, Ieithoedd a Llenyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ogystal â theitlau craidd ym meysydd y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio, Hanes, Crefydd, ac Athroniaeth. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys miloedd o bapurau newydd testun llawn o bob rhan o'r byd.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Cronfa ddata am ddim gan y Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol (SCIE). Social Care Online yw cronfa ddata fwyaf helaeth y DU o wybodaeth am ofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol. Mae’n darparu crynodebau a rhai dogfennau testun llawn, erthyglau cyfnodolion, llyfrau, adroddiadau gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol a sefydliadau gwirfoddol a phapurau ymchwil. Cofrestrwch a chreu cyfrif am ddim er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r gronfa ddata.
Mae’r safle hwn yn cynnwys casgliad mawr o gyhoeddiadau Seneddol Prydain o’r 18fed, 19eg a’r 20fed ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys trafodion, adroddiadau, biliau a chofrestrfeydd seneddol. Mae’n cwmpasu holl feysydd polisi cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a thramor. Mae hefyd nawr yn cynnwys y casgliad digidol cyntaf o Bapurau Seneddol Tŷ’r Arglwyddi o’r 19eg ganrif.
Mae Cydweithrediad Campbell yn rhwydwaith ymchwil rhyngwladol. Mae’n creu adolygiadau systematig mewn addysg, trosedd a lles cyfiawnder a chymdeithasol ar effeithiau ymyriadau cymdeithasol. Chwiliwch yng nghronfa ddata Llyfrgell Campbell i gael mynediad at deitlau, protocolau.