Skip to Main Content

Gwyddor Barafeddygol: Llyfrau ac e-lyfrau

This page is also available in English

Dod o hyd i lyfr gan ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell

Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr. 

Mae'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ar Gampws Parc Dewi Sant ar y llawr cyntaf. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.

Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.

E-lyfrau newydd

Rhifau Galw

Mae'r rhan fwyaf o lyfrau (a chyfnodolion) Gwyddor Barafeddygol wedi'u cadw dan rifau galw Q a R ar Lefel 1 a 2 Adain y Dwyrain yn Llyfrgell Parc Singleton.

  • QM Anatomeg
  • QP Ffisioleg
  • R847 Addysg Barafeddygol 
  • RB113 Pathoffisioleg
  • RC Meddygaeth Fewnol 
  • RC86-88.9 Meddygaeth Argyfwng
  • RC86.7 Dadebru 

iFind, catalog y Llyfrgell

Chwiliad Uwch

Llyfrau newydd ar gyfer Gwyddorau Iechyd

Methu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano?

Darlleniadau allweddol

Casgliadau e-lyfrau