Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Darllenwch ein geiriau o gyngor yn yr adran hon ar sut i wneud y defnydd gorau o gynnal chwiliadau ar-lein. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”
Gall unrhyw un greu tudalennau gwe felly, cyn i chi gyfeirnodi gwefan, dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.
Dylech wirio:
Chwiliwch am gliwiau yn yr URL
Ydych chi’n cael trafferth wrth geisio dod o hyd i’r hyn sydd ei hangen arnoch chi ar Google?
Dyma rai geiriau o gyngor i’ch helpu i wella eich canlyniadau!
Ydych chi’n parhau i brofi trafferthion wrth geisio dod o hyd i ddigon o adnoddau academaidd ar Google?
Rhowch gynnig ar ddefnyddio Google Scholar sy’n chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae modd cysylltu Google Scholar â thanysgrifiadau Prifysgol Abertawe, ceir cyfarwyddiadau cyflawn yn y canllawiau isod.