iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Mae'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunydd adolygu. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen eich modiwl drwy chwilio iFindReading neu fynd i adran rhestr ddarllen Canvas.
Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Lleoliadau Llyfrau yn Llyfrgell Parc Singleton
Mae mwyafrif y llyfrau a chyfnodolion am lenyddiaeth Gymraeg a'r iaith Gymraeg ar y nod dosbarth PB ar Lefel 2 Gorllewin Llyfrgell Parc Singleton. Mae llyfrau eraill am Gymru yn y Casgliad Cymreig nesaf i PB ar Lefel 2 Gorllewin. W/ sy'n dechrau rhif galw'r llyfrau. Mae gan lyfrau am hanes Cymru rifau galw yn dechrau W/DA. Mae llyfrau am lenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg (e.e. Dylan Thomas) ar Lefel 1. Rhai enghreifftiau o nodau dosbarth a phenawdau pwnc defnyddiol:
Nod Dosbarth | Penawdau Pwnc | Lleoliad |
P | Ieithyddiaeth | Lefel 1 Gorllewin |
PR | Llenyddiaeth Saesneg | Lefel 1 Gorllewin |
PS | Llenyddiaeth America | Lefel 3 Dwyrain |
W/PR | Llenyddiaeth Eingl-Gymreig | Lefel 2 Gorllewin |
Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data e-lyfrau. Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Pwnc o'r gwymplen.
LibraryPlus - That extra support for your studies
We offer a number of specially designed services, known as LibraryPlus, aimed at making your student life easier.
Who can use LibraryPlus? All students, with particular emphasis on:
Go to the LibraryPlus webpage for more information