Mae'r canllaw hwn yn amlygu adnoddau allweddol y llyfrgell a gwybodaeth ar gyfer eich pwnc. Gall eich tîm pwnc yn y Llyfrgell eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer aseiniadau neu ymchwil; cyrchu cyfnodolion a chronfeydd data; cyfeirnodi; a defnyddio meddalwedd llyfryddiaethol. Gallwch e-bostiwch, sgwrsio'n fyw neu drefnu apwyntiad er mwyn siarad â ni.
Eich Llyfrgellwyr - Alasdair, Allison, Giles, Philippa & Susan.
Mae ACM Digital Library yn blatfform ymchwil, darganfod a rhwydweithio sy'n cynnwys casgliad testun llawn o holl gyhoeddiadau ACM, casgliad o gyhoeddiadau testun llawn, wedi'u curadu ac wedi'u cynnal gan gyhoeddwyr penodol a chanllaw i lenyddiaeth gyfrifiadura ACM.
Mae IEEE Xplore yn gronfa ddata testun llawn sy'n rhoi mynediad i holl gyfnodolion a'r rhan fwyaf o bapurau cynhadledd yr IEEE - sy'n ddefnyddiol i fyfyrwyr peirianneg drydanol, cyfrifiadureg ac electroneg.
Mae INSPEC yn ymdrin â ffiseg, electroneg a pheirianneg drydanol, a chyfrifiadura. Mae hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddeunydd sy’n berthnasol i nanodechnoleg a deunyddiau. Mae’n cynnwys erthyglau o gyfnodolion a phapurau cynadleddau, yn ogystal â llyfrau, adroddiadau technegol a thraethodau pwysig. Mae’n gronfa ddata sydd wedi’i mynegeio’n dda, sy’n fan cychwyn da ar gyfer ffiseg, cyfrifiadura a pheirianneg drydanol.
Erthyglau o gyfnodolion gan y cyhoeddwr Elsevier. Mae chwiliad uwch yn cynnig yr opsiwn i chi ddewis cyfnodolion tanysgrifedig er mwyn i chi ganfod canlyniadau sydd ar gael i chi ar unwaith yn unig - defnyddiol ar gyfer dechrau ar bwnc.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell i chwilio am lyfrau ac adnoddau eraill.
Mae rhestr ddarllen eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunyddiau adolygu. Gallwch ddod o hyd i’ch rhestr ddarllen drwy chwilio yn iFindReading neu drwy fynd i adran rhestrau darllen ar Canvas.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.