Os ydych yn cyrchu MarketLine oddi ar y campws, bydd angen i chi glicio 'Shibboleth' ar y dudalen mewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Os ydych chi’n cyrchu Mintel oddi ar y campws, bydd yn rhaid i chi glicio ‘Federated login’ ar y dudalen fewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Cyfyngir ar fynediad at LSEG Workspace. Os oes angen i chi ddefnyddio’r adnodd hwn, gofynnwch i gydlynydd eich modiwl neu oruchwyliwr eich traethawd estynedig e-bostio tîm y llyfrgell yn SoMLibrary@abertawe.ac.uk
I chwilio papurau newydd, cliciwch ar Newyddion yn y bar offer ar y brig. Neu gallwch chi glicio ar “Pob Math o Gynnwys” a dewis Newyddion cyn chwilio.
Gallwch ddefnyddio S&P Global i lawrlwytho data drwy Excel. I wneud hyn, bydd angen i chi ddefnyddio gwasanaeth mynediad cyfrifiaduron o bell y Brifysgol. Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r cyfrifiadur o bell, ewch i’r ‘Unified Desktop’ ac yna’r Ysgol Reolaeth, ‘Specialist Apps’ a chlicio ar yr eicon o’r enw ‘SNL-Excel Plugin’.
Cyfyngir ar fynediad at LSEG Workspace. Os oes angen i chi ddefnyddio’r adnodd hwn, gofynnwch i gydlynydd eich modiwl neu oruchwyliwr eich traethawd estynedig e-bostio tîm y llyfrgell yn SoMLibrary@abertawe.ac.uk
Mae Orbis M&A yn cynnwys Cyfuniadau a Chaffaeliadau, Cynigion Cyhoeddus Cychwynnol a deliadau cyfalaf menter gyda chysylltiadau â gwybodaeth ariannol fanwl am y cwmnïau.
Mae FactSet yn cynnig data ar lefelau cwmni, diogelwch, digwyddiadau, marchnadoedd a macro-economaidd.
Mae angen i chi ofyn i’ch darlithydd/cydlynydd eich modiwl gysylltu â FactSet ar eich rhan i greu cyfrif. Pan fydd y cyfrif wedi’i greu, gellir cyrchu FactSet drwy borwr yn https://my.apps.factset.com/. Os ydych chi am ddefnyddio’r ychwanegyn FactSet yn Excel i lawrlwytho data, mae 12 o derfynellau yn y Labordy Cyllid (Ystafell 269) yn yr Ysgol Reolaeth.