Croeso i'r tudalennau llyfrgell ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr. Ni yw eich Llyfrgellwyr ar gyfer y Coleg Gwyddoniaeth a gallwn eich helpu gyda'r canlynol:
Mae croeso i chi e-bostio, sgwrsio'n fyw neu drefnu apwyntiad i siarad â ni.
Eich Llyfrgellwyr - Erika, Stephen, Susan, & Elen.
Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. Edrychwch ar ein tudalen we i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
A wnaethoch chi golli eich sesiwn cyflwyniad i'r Llyfrgell?
A ydych chi wedi anghofio beth wnaethom trafod yn y sesiwn?
Bydd y tiwtorial hon yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddefnyddio'ch Llyfrgell, yn edrych ar pynciau fel sut i ddefnyddio'r ffotogopiwr a sut i ddarganfod llyfrau ar gyfer eich cwrs. Os oes angen rhagor o help arnoch yna defnyddiwch y sgwrs fyw Holi Llyfrgellydd neu ebostiwch.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.