Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Caiff Rhifau Galw eu defnyddio i helpu i ddod o hyd i lyfrau yn y Llyfrgell. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, e.e. Mae gan Atomeg Ddynol y rhif galw QM23. Mae'r rhif galw ar feingefn pob llyfr. Gwiriwch y cynlluniau llawr o gwmpas y Llyfrgell i ddod o hyd i adrannau penodol. Hefyd ceir mapiau a chynlluniau llawr ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau.
Ceir llyfrau ar Osteopatheg yn benodol o dan RZ241-RZ342. Hefyd ceir nifer o destunau a ddefnyddir gan osteopathiaid o dan RM701–RM725 (therapi â llaw), neu RC 1200 i RC1236 (Gwyddor Chwaraeon). Ceir y rhain oll ar Lefel 1 Adain y Dwyrain. Ceir llyfrau Anatomeg ar y llawr uwchben (Lefel 2).Defnyddiwch iFind, catalog y llyfrgell, i ddod o hyd i'r Rhif Galw ar gyfer teitlau penodol a meysydd pwnc.
Gallwch ddarllen llawer o e-lyfrau ar-lein hefyd. Caiff y rhain eu rhestru yn iFind, gan gynnwys dolenni i destunau llawn ar-lein.
Dyma rai rhifau galw ar gyfer testunau sy'n ymwneud ag Osteopatheg fel man cychwyn.
Testunau â Chyfeiriad Clinigol
Pwnc |
Rhif Galw |
Lleoliad |
---|---|---|
Prawf clinigol a chofnodi hanes |
RC76 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Gwyddor Chwaraeon a Meddygaeth |
RC1200-RC1236 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Anafiadau Chwaraeon (adsefydlu ac atal) |
RD97 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Technegau Tapio |
RC113 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Orthopaedeg |
RC731 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Asesiad Orthopaedeg |
RD734 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Trin Orthopaedeg |
RD736 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Merck Manual |
RM127 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Therapi â Llaw |
RM701-RM725 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Trin y Cefn |
RZ265 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Meddygaeth Osteopathig |
RZ241-RZ342 |
Adain y Dwyrain Lefel 1 |
Mae pedwar llawr yn y Llyfrgell, sydd wedi'i rhannu'n adain y dwyrain ac adain y gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. [Sylwer bod y Tŵr yn ardal staff yn unig.] Mae'r llyfrau a'r cyfnodolion i lawr y grisiau ar lefelau 1 a 2.
Anatomeg, Ffisioleg a Systemau’r Corff
Pwnc |
Rhif Galw |
Lleoliad |
---|---|---|
Anatomeg Ddynol |
QM23-QM31 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Cyhyrau Ysgerbydol |
QM151 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Niwroanatomeg |
QM451 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Anatomeg Arwyneb |
QM531 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Anatomeg y Pen a’r Gwddf |
QM535 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Ffisioleg Ddynol |
QP34-QP82 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Y System Gardiofasgwlaidd |
QP101 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Y System Anadlu |
QP121 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Y System Gyhyrysgerbydol, Biofecaneg a Symudiad Bodau Dynol |
QP301-QP303 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Niwrowyddoniaeth |
QP356 |
Adain y Dwyrain Lefel 2 |
Mae cofnod catalog pob llyfr yn iFind yn cynnwys dolen “darganfod” i ddangos cynllun llawr yr ardal berthnasol yn y llyfrgell.