Adnodd am ddim yw Mendeley sy’n gallu eich helpu i storio a threfnu’r cyfeiriadau rydych yn dod o hyd iddynt yn eich ymchwil. Yna gallwch ddefnyddio’r wybodaeth gyfeirio hon i gynnwys dyfyniadau a rhestr gyfeiriadau wedi’i fformatio’n llawn yn eich dogfennau Word.
Mae dau fersiwn o Mendeley ar gael - fersiwn bwrdd gawaith a fersiwn ar-lein. cysoni a'i gilydd.
Mae Elsevier yn newid o'r system hŷn sef Mendeley Desktop a Cite-o-Matic, i'r system newydd sef Mendeley Reference Manager a Mendeley Cite.
Mae dudalen yn cyfeirio at hen feddalwedd Mendeley Desktop. Fodd bynnag, ni fyddwch yn gallu lawrlwytho a gosod Mendeley Desktop mwyach o 1 Medi 2022.
Mae dau Adnodd Cyfeiriadu ar gael ar gyfer allbynnu dyfyniadau testun a rhestrau cyfeiriadu
Hefyd, mae Mewnforydd Gwe dewisol ar gael a luniwyd er mwyn casglu cyfeiriadau a dyfyniadau oddi ar wefannau.
Ceir Mendeley (y fersiwn bwrdd gwaith) yn yr adran Apiau Cyffredin ar gyfrifiaduron mynediad agored.
I lawrlwytho eich copi eich hun o Mendeley ewch i https://www.mendeley.com/download-desktop-new/.
Mae fersiwn o Mendeley ar gael ar gyfer y Macintosh. I lawrlwytho eich copi eich hun o Mendeley ewch i www.mendeley.com/download-desktop-new/macOS
Ewch i http://www.mendeley.com
Clickiwch "Create Account" a gofrestru a chwblhewch y ffurflen ar-lein.
Mae two fersiwn o Mendeley ar gael - fersiwn bwrdd gwaith a fersiwn ar-lein. Mae'r fersiwn ar-lein am ddim ac yn ddigon ar gyfer y rhan fwyaf o waith myfyrwyr
Mae modd defnyddio’r ddau fersiwn a’u cysoni â’i gilydd.
Os oes gennych gyfeiriadau’n barod yn un o’ch llyfrgelloedd, byddai’n ddefnyddiol gwylio’r fideo o’r tiwtorial isod i sicrhau na chewch unrhyw wrthdrawiadau.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.