Skip to Main Content

Meddygaeth: Chwilio am lenyddiaeth

This page is also available in English

Creu strategaeth chwilio

Mae'r dudalen hon yn disgrifio'r 4 prif gam i chwiliad llenyddiaeth llwyddiannus.  Mae cyngor a chymorth ychwanegol bob amser ar gael gan eich llyfrgellwyr. Gweler ein manylion cyswllt ar yr hafan.  Mae'n bosib y byd y nodiadau a'r dolenni isod yn ddefnyddiol hefyd.

Creu strategaeth chwilio

"Read Chapter 4 - How do I search for relevant literature?"

"Read Chapter 7 - The principles of research" 

"Read Chapter 4 - Finding and critiquing literature"

"Read Chapter 2 - Searching the literature"

 

 "Read chapter 5 - Searching and reviewing the literature"

 

"Read Chapter 4 - How do I search for literature?"

Chwiliadau llenyddiaeth llwyddiannus

Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau.  Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:

  • Diffinio'ch allweddeiriau
  • Gosod cyfyngiadau (h.y. dyddiad cyhoeddi, iaith)
  • Ble rydych yn bwriadu chwilio? (cronfeydd data, gwefannau etc)
  • Cofnodi eich canlyniadau

Fe welwch ychydig o benodau llyfrau a all eich helpu chi o ran datblygu eich strategaeth chwilio ar y tudalennau hyn.

Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau.  Mae'n cynnwys:

  • Llyfrau - Rydym yn argymell eich bod yn dechrau gyda rhestr ddarllen eich modiwl yn Canvas i ddod o hyd i destunau allweddol ar gyfer eich pwnc.
  • Erthyglau mewn cyfnodolion - Medline yw eich prif gronfa ddata i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion.
  • Llenyddiaeth Lwyd - yn y bôn, popeth nad yw'n cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn, er enghraifft, trafodion cynadleddau, dogfennau'r Llywodraeth, adroddiadau gan sefydliadau.

Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws.  Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc.  Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.

Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT).  Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad. 

DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd.  Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau.  Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.

Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw:  Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:

  • ddibynadwy
  • digon academaidd
  • diduedd

Mae yna nifer o lyfrau, penodau llyfrau a gwefannau rhagorol a all eich helpu chi o ran gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol. Fe welwch ychydig ar y tudalennau hyn.

PICO - arf ar gyfer adnabod eich termau cwestiwn a chwilio clinigol

Dechreuwch ystyried eich prif dermau chwilio drwy adnabod y cysyniadau allweddol yn eich cwestiynau ymchwil, yna ystyriwch gyfystyron, termau cysylltiedig, sillafiadau gwahanol, byrfoddau, termau mwy penodol a chyffredinol y byddai awdur neu awduron efallai wedi’u defnyddio i drafod pwnc.

Y teclyn PICO

Gall Claf/ Ymyrraeth/ Cymhariaeth / Canlyniad eich helpu i fframio eich cwestiwn ymchwil ac adnabod cysyniadau ar gyfer eich chwiliad meddygol/clinigol.

Os nad yw PICO yn gweithio ar gyfer eich chwiliad yna efallai yr hoffech ystyried fframwaith arall fel:

  • PICo - Poblogaeth, Diddordeb, Cyd-destun (Fersiwn wedi'i addasu ar gyfer cwestiynau ansoddol)
  • SPICE - Gosod; Safbwynt; Ymyrraeth/Diddordeb, Ffenomen; Cymhariaeth; Gwerthusiad.
  • SPIDER - Sampl; Ffenomen o Ddiddordeb; Dylunio; Gwerthusiad; Math o ymchwil.

Neu peidiwch â defnyddio fframwaith a gwahanwch eich pwnc yn gysyniadau chwilio gwahanol.

 e.g. Haint a gafwyd yn yr ysbyty

Felly gall eich termau allweddol gynnwys; Haint a gafwyd yn yr ysbyty/Traws-heintiad

Golchi dwylo

Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys golchi dwylo/hylendid dwylo

Datrysiadau eraill

Felly efallai bydd eich termau allweddol wrth chwilio yn cynnwys rhwbiad alcohol/offer glanweithdra/rhwbiad dwylo/gel dwylo

Lleihau lledaeniad heintiau 

Felly gallwch gynnwys eich gostyngiad yn eich chwiliad. Er hynny, ystyriwch yn ofalus gan y gallwch ganfod deunydd perthnasol heb ychwanegu gostyngiad i’ch chwiliad wrth chwilio am erthyglau sy’n cynnwys haint a geir yn yr ysbyty a golchi dwylo a datrysiadau eraill.

Sut byddwch yn gwerthuso'ch canfyddiadau'n feirniadol

"Read Chapter 1 - Introduction to Critical Appraisal"

"Read Chapter 5 - How do I critically appraise the literature?"

"Read chapter 6 - Critical appraisal of the literature"

"Read Chapter 2 - How you can think more critically about information that is readily available"

"Read Chapter 7 - The principles of research" 

"Read Chapter 4 - Finding and critiquing literature"

"Read Chapter 2 - Searching the literature" 

"Read Chapter 6 - How do I know if the evidence is convincing and useful?"