Fel arfer, cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, er enghraifft bob wythnos, bob mis neu bob chwarter, ac mae pob rhifyn yn cynnwys casgliad o erthyglau gan awduron gwahanol sydd fel arfer yn trafod yr ymchwil diweddaraf. Gallwch ddod o hyd i'r holl gyfnodolion rydym yn tanysgrifio iddynt drwy ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell.
Bydd yn bwysig iawn defnyddio cyfnodolion yn eich astudiaethau, oherwydd y byddant yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol, o ansawdd uchel. Trwy ddefnyddioerthyglau mewn aseiniadau bydd yn dangos eich bod wedi darllen yn eang am eich pwnc. Y brif ffordd o ddod o hyd i erthyglau am eich pwnc yw defnyddio cronfa ddata lyfryddiaethol. Yn y bôn, casgliad o wybodaeth neu ddata wedi'i drefnu yw cronfa ddata. Mae Prifysgol Abertawe'n talu am fynediad i gannoedd o gronfeydd data o safon uchel i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth orau a diweddaraf ar gyfer eich ymchwil. Mae'r prif gronfeydd data rydym yn eu hargymell wedi'u rhestru isod ond cofiwch y bydd cynnwys pob cronfa ddata'n wahanol, felly mae'n well defnyddio mwy nag un gronfa ddata i sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth mae ei hangen arnoch!