Skip to Main Content

Meddygaeth: Cyfeirnodi APA (7fed arg.)

This page is also available in English

Rheoli'ch cyfeiriadau

Mae amrywiaeth eang o offer ar gael am ddim i'ch helpu gyda dyfynnu a chreu rhestrau o gyfeiriadau, ond does dim un ohonynt yn berffaith. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gyfarwydd â hanfodion Cyfeirnodi a'r pwyntiau allweddol i fod yn ymwybodol ohonynt.

Dyma ychydig o offer rydym yn eu hargymell

Am gyfeirnod cyflym rhowch gynnig ar y botwm dyfynnu yn Google Scholar (cliciwch ar y ddyfynod o dan y linc yn Scholar)

Uniondeb Academaidd

Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.

Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.

Cwestiynau a Holir yn Aml

Hanfodion Llyfrgell MyUni - Cyfeirnodi

Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen. 

Sut i fformatio eich rhestr gyfeiriadau (fideo 30 eiliad)