Croeso i ganllaw'r llyfrgell ar gyfer myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr. Eich Llyfrgellwyr yn Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd ydym ni a gallwn eich cynorthwyo i:
Mae croeso i chi e-bostio, sgwrsio'n fyw neu drefnu apwyntiad i siarad â ni.
Eich Llyfrgellwyr - Erika, Stephen, Izzy, Gillian & Elen.
Dyma restr o adnoddau defnyddiol i'ch helpu i ddechrau ar eich cwrs, a gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau drwy ddefnyddio'r tabiau ar frig y sgrin.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich llyfrgellwyr, a byddant yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y llyfrgell, ar-lein ac ar y campws. Gallwch chi weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyfan drwy glicio ar bob un o'r blychau isod. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi wybodaeth ymarferol dda am sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch chi ddewis a dethol pa bynciau rydych chi am eu hystyried o'r opsiynau isod. Ni waeth sut rydych chi'n dewis dysgu, gallwch chi bob amser fynd yn ôl a defnyddio'r cwrs hwn pryd bynnag y bydd angen cwrs gloywi arnoch.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.