Mae’r dudalen hon yn cynnwys adnoddau i helpu gyda’ch aseiniadau ac wrth wneud ymchwil. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu angen cymorth, e-bostiwch - artslib@swansea.ac.uk
Mae’n bwysig iawn gwneud cais am lyfrau rydych eu hangen os ydynt allan ar fenthyciad. Os na wnewch chi, efallai y bydd y sawl sydd wedi’u eu benthyca yn eu hadnewyddu.
Peidiwch ag anghofio edrych ar iFind am e-lyfrau os nad oes yna lyfrau print ar gael.
Mae llyfrau yn fan cychwyn gwych i chwilio am wybodaeth ar gyfer eich aseiniad, ond cofiwch hefyd edrych ar erthyglau mewn cyfnodolion a ffynonellau gwybodaeth dibynadwy eraill.
Cliciwch ar yr adran Adnoddau Allweddol uchod i gael gwybod y lleoedd gorau i chwilio am wybodaeth.
Efallai y credwch y gallwch gael yr holl wybodaeth yr ydych ei hangen o werslyfrau a gwefannau. Ond mae’n syniad da cynnwys erthyglau cyfnodolion yn eich ymchwil hefyd. Mae cyfnodolion yn ffynhonnell wych o wybodaeth ysgolheigaidd ar eich pwnc. Dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer canfod erthyglau cyfnodolion:-
Bydd y wefan Ask yn eich helpu i fod yn drefnus wrth gwblhau aseiniad. Teipiwch ddyddiad cyflwyno’r aseiniad a byddwch yn cael llinell amser i’ch helpu chi.
Allweddeiriau
Cynyddu nifer y canlyniadau
Lleihau nifer mawr o ganlyniadau
Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Mae angen i chi ystyried a yw eich ffynonellau'n:
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am yr wybodaeth rydych wedi dod o hyd iddi.
Pwy?
Pryd?
Pa fath o wybodaeth?
Mae gan gyfrifiaduron personol yn y llyfrgell feddalwedd arbenigol sy'n gallu eich helpu i gynllunio ac ysgrifennu eich aseiniadau. Dilynwch y ddolen isod i gael y manylion o'r hyn sydd ar gael ac i weld sut all technoleg eich cynorthwyo chi i gynllunio eich ymchwil, ysgrifennu eich aseiniadau a strwythuro eich gwaith. Nodweddion yn cynnwys opsiynau darllen yn uchel, teclynnau mapio'r meddwl a gwiriadau sillafu a gramadeg.