iFind yw’r prif fodd i chwilio am yr adnoddau a ddarparwyd gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe. Gallwch ddefnyddio’r cyfleuster chwilio isod neu fynd ato yn uniongyrchol drwy dudalen hafan y Llyfrgell neu eich tudalen MyUni
Os hoffech ragor o help i ddefnyddio iFind cliciwch ar y tabiau Canllaw uchod.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddefnyddio ein catalog yn fwy effeithiol.
Mae’r tiwtorialau isod yn cynnwys:
Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gweithredu System Adnewyddu Awtomatig sy'n golygu y bydd eitemau sydd ar fenthyg o'r llyfrgell yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig nes eu bod yn cael eu dychwelyd. Oni ofynnir amdanynt!
Felly, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gwneu cais am y llyfrau rydych chi eu heisiau os ydyn nhw allan ar fenthyg.
Os na wnewch chi, nid oes gan y llyfrgell unrhyw ffordd o wybod bod eu hangen arnoch a byddant yn parhau i aros gyda'r darllenydd sydd ganddo ar hyn o bryd.
Ar ôl i chi ofyn am eitem, bydd yn cael ei alw'n ôl i chi a gallwch ei chasglu o'r Ddesg Wybodaeth cyn gynted ag y bydd yn ôl yn y Llyfrgell.
Os nad yw’r adnodd rydych ei angen yn y Llyfrgell gall ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfen chwilio amdano o lyfrgell arall i chi.
Os hoffech awgrymu eitem i'w phrynu gan y Llyfrgell, cyflwynwch gais i ni ei ystyried.
Mae llyfrau a chyfnodolion sy’n berthnasol i Ffrangeg yn rhannau amrywiol o’r llyfrgell. Mae’r rhan fwyaf yn y lleoliadau hyn:
Pwnc | Ystod rhif galwad | Lleoliad | |
---|---|---|---|
Hanes, Cymdeithas a Diwylliant Ffrainc | DC | Lefel 2 Gorllewin | |
Iaith Ffrangeg | PC2001-3761 | Lefel 1 Gorllewin | |
Ffilm | PN1993 | Lefel 1 Gorllewin | |
Llenyddiaeth Ffrangeg | PQ1-3999 | Lefel 1 Gorllewin |
Isod mae sampl o Gasgliadau e-Lyfrau allweddol ar gyfer Ffrangeg.
Am y rhestr gyfan defnyddiwch y blwch Adnoddau Pwnc.
Mae Proquest Ebook Central yn cynnig e-lyfrau awdurdodol mewn ystod eang o feysydd pwnc, ynghyd ag offer grymus i’ch cynorthwyo i ganfod, defnyddio a rheoli’r wybodaeth yr ydych ei hangen.
Mae Early European Books yn archif ddigidol o lyfrau a deunydd eraill a argraffwyd yn Ewrop, neu mewn ieithoedd Ewropeaidd, rhwng 1450 ac 1700. Mae’r casgliad yn cynnwys deunydd a gafwyd o lyfrgelloedd cenedlaethol yn Ffrainc, Yr Eidal, Denmarc a’r Iseldiroedd ynghyd â Llyfrgell Wellcome yn Llundain.
Mae’r holl gyfnodolion a dalwn amdanynt wedi’u rhestru ar iFind, catalog y llyfrgell.
Os oes gennych gyfeirnod ar restr ddarllen e.e. gallwch fynd yn syth i iFind a gwneud chwiliad ‘Teitl Cyfnodolyn’ am y cyfnodolyn.
Mae iFind hefyd yn cynnwys manylion am erthyglau unigol – cliciwch ar y tab Erthyglau a mwy i chwilio am rhain. Os ydych eisiau chwilio am erthyglau ar bwnc penodol dewiswch ‘unrhyw le yn y cofnod’. Os ydych eisiau chwilio am erthygl benodol, dewiswch ‘yn y teitl’ a rhowch deitl yr erthygl. Gallwch hefyd chwilio am erthyglau gan awdur penodol. Dewiswch ‘fel awdur/creawdwr’ i wneud hyn.
DS: Bydd eich canlyniadau yn cynnwys erthyglau o bapurau newydd ynghyd â chyfnodolion.
Hyd yn oed os ydych yn defnyddio iFind i leoli erthyglau cyfnodolion ar bwnc neu gan awdur penodol, os ydych eisiau cynnal chwiliad mwy trwyadl mae’n well defnyddio cronfeydd data electronig.
Mae rhai o’r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra mae eraill (e.e. MLA Bibliography ac Web of Science) yn cynnwys dyfyniad yn unig (neu gofnod) a chrynodeb o’r erthygl. Yn yr achos hwn gwelwch ddolen ‘iGetIt’ lle gallwch glicio arno i weld os yw’r erthygl hon gennym yma.
Rhestrir ychydig o’r prif gronfeydd data ar gyfer chwilio am erthyglau cyfnodolion isod.
Am y rhestr gyflawn defnyddiwch y blwch Adnoddau Pwnc.
I ddefnyddio’r rhan fwyaf o gronfeydd data ar ac oddi ar y campws mae angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Prifysgol Abertawe.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae’r gronfa ddata hon yn crynhoi a mynegeio y llenyddiaeth ryngwladol mewn ieithyddiaeth a disgyblaethau perthnasol yn y gwyddorau iaith. Mae’r gronfa ddata yn gofalu am bob agwedd o’r iaith astudio gan gynnwys seineg, ffonoleg, morffoleg, cystrawen a semanteg. Mae dogfennau yn y mynegai yn cynnwys erthyglau cyfnodolion, adolygiadau llyfrau, llyfrau, penodau llyfrau, traethodau hir a phapurau gwaith.
Mae MLA International Bibliography yn rhoi manylion y rhan fwyaf o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau ar ieithoedd modern a'u llenyddiaeth (gan gynnwys Saesneg) o'r 1920au hyd y presennol. Mae hefyd yn cynnwys llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau am ieithyddiaeth, llên gwerin a ffilmiau. Nid yw'n cynnwys adolygiadau o lyfrau. Mae'n rhan o Wasanaeth Cronfa Ddata Proquest ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Ceir papurau newydd diweddar (3 mis diwethaf yn unig) fel Le Monde: sélection hebdomadaire, ar y Rac Newyddion ar Lefel 4 Gorllewin (yr Oriel).
Am ôl-rifynnau a detholiad ehangach o bapurau newydd ieithoedd tramor defnyddiwch y cronfeydd data isod.
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Isod mae sampl o ffynonellau we defnyddiol ar gyfer Ffrangeg.
Mae European Sources Online (ESO) yn gronfa ddata ar-lein sy’n rhoi mynediad at wybodaeth ar sefydliadau a gweithgarwch yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion pwysig i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. Mae ESO yn rhoi mynediad i filoedd o wefannau, dogfennau a chyhoeddiadau a ddetholwyd gan arbenigwyr o’r UE a sefydliadau rhyngwladol eraill, llywodraethau cenedlaethol, melinau trafod, sefydliadau rhanddeiliaid, papurau gwaith ayyb, erthyglau testun llawn o’r Financial Times ac European Voice. Ceir cofnodion llyfryddiaethol i werslyfrau academaidd allweddol ac erthyglau cyfnodol. Ceir hefyd gyfres o Ganllawiau Gwybodaeth wedi’u llunio gan Dîm Golygyddol ESO. Fe’i diweddarir yn ddyddiol.
Gallwch roi cynnig ar yr ymarfer ar-lein hwn i wella’ch sgiliau chwilio ac arfer chwilio am erthyglau cyfnodolion.
Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data sy'n berthnasol i Ffrangeg.
Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Math o gronfa ddata o'r gwymplen Pob Math o Gronfa Ddata.
Adnoddau Pwnc ar gyfer Ffrangeg
Os ydych chi'n profi problem wrth gyrchu ein Adnoddau Pwnc, edrychwch ar ein tudalennau Statws Gwasanaeth ISS i weld a yw'r broblem eisoes wedi'i hadrodd.
Os nad oes, defnyddiwch y Ddesg Wasanaeth i roi gwybod i ni.
Mae llyfrau cyfeirio yn ddefnyddiol yn benodol wrth ddechrau chwilio am wybodaeth ar bwnc. Mae ein Casgliad Cyfeiriadol y Neuadd Astudio yn cynnwys llawer o weithiau cyferion defnyddiol ar gyfer Ffrangeg
Mae’r rhan fwyaf o eiriaduron iaith cyffredinol Ffrangeg yng Nghasgliad Cyfeirio y Neuadd Astudio ar rifau galw gan ddechrau â PC.
Mae geiriaduron busnes yn HB, HD a HF 1002.
Mae geiriaduron ar wyddoniaeth a thechnoleg yn Q a T