Skip to Main Content

Ieithoedd Modern, Cyfieithu ac Astudiaethau Dehongli: Astudiaethau Cyfieithu

This page is also available in English

Dechrau gyda'r catalog

iFind yw’r prif fodd i chwilio am yr adnoddau a ddarparwyd gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe. Gallwch ddefnyddio’r cyfleuster chwilio isod neu fynd ato yn uniongyrchol drwy dudalen hafan y Llyfrgell neu eich tudalen MyUni

Os hoffech ragor o help i ddefnyddio iFind cliciwch ar y tabiau Canllaw uchod. 

Chwiliad Uwch

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddefnyddio ein catalog yn fwy effeithiol. 

Mae’r tiwtorialau isod yn cynnwys:

  • Opsiynau chwilio
  • Awgrymiadau chwilio
  •  Deall eich canlyniadau
  • Mewngofnodi i iFind  (i ofyn am eitemau, adnewyddu a gwirio pa eitemau sydd gennych ar fenthyciad)
  • Arbed chwiliadau a rhybuddion
  •  Ffefrynnau iFind

Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gweithredu System Adnewyddu Awtomatig sy'n golygu y bydd eitemau sydd ar fenthyg o'r llyfrgell yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig nes eu bod yn cael eu dychwelyd. Oni ofynnir amdanynt!

Felly, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gwneu cais am y llyfrau rydych chi eu heisiau os ydyn nhw allan ar fenthyg.  

Os na wnewch chi, nid oes gan y llyfrgell unrhyw ffordd o wybod bod eu hangen arnoch a byddant yn parhau i aros gyda'r darllenydd sydd ganddo ar hyn o bryd.  

Ar ôl i chi ofyn am eitem, bydd yn cael ei alw'n ôl i chi a gallwch ei chasglu o'r Ddesg Wybodaeth cyn gynted ag y bydd yn ôl yn y Llyfrgell.

Os nad yw’r adnodd rydych ei angen yn y Llyfrgell gall ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfen chwilio amdano o lyfrgell arall i chi.

Os hoffech awgrymu eitem i'w phrynu gan y Llyfrgell, cyflwynwch gais i ni ei ystyried.

Adnoddau Allweddol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu

Mae llyfrau a chyfnodolion sy’n berthnasol i Astudiaethau Cyfieithu yn rhannau amrywiol o’r llyfrgell. Mae'r rhan fwyaf mewn rhifau galw P306 - P308 ar Lefel 1 Gorllewin.

Mae’r rhan fwyaf o eiriaduron iaith cyffredinol yng Nghasgliad Cyfeiriadol y Neuadd Astudio gyda’r nifer galw canlynol:

Saesneg PE279 - PE3727
Arabeg PJ6640
Tsieineaidd PL1145 – PL1488
Ffrangeg PC2075 – PC3747
Almaeneg PF3120-PF4327
Groegiaidd PA1139
Eidaleg PC1130-PC1977
Pwylaidd PG6640
Portiwgeaidd PC5145 – PC5335
Rwsiaid PG2127-PG2693
Sbaeneg PC4031 – PC4797
Cymraeg PB2190-PB2194

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae geiriaduron busnes yn HB61, HF1001 a HF1002.  Bancio a chyllid - HG151. Termau rheoli - HD30.15

Mae geiriaduron gwyddonol yn Q, R a T, (er enghraifft termau cyfrifiadureg yn QA76.15, termau biolegol - QH, peirianneg awyrennol - TL509, termau meddygol  - R121).

Mae geiriaduron cyfreithiol yn  K120, yn Llyfrgell y Gyfraith, Lefel 4 Dwyrain. 

Isod mae sampl o Gasgliadau e-Lyfrau allweddol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu. 

Am y rhestr gyfan defnyddiwch y blwch Adnoddau Pwnc.

Mae pecyn Cysgliad 3 (gwiriwr sillafu, gwiriwr gramadeg, thesawrws a geiriadur Cymraeg) ar gael ar y rhwydwaith myfyrwyr.

Cewch fynediad at hwn drwy ddangos Bwrdd Gwaith Prifysgol Abertawe Unedig  eicon ar eich bar tasgau) > ymestyn Apiau Cyffredin (drwy glicio ar y mewngofnodi o’i flaen) > a chlicio ar Cysgliad.

Mae’r holl gyfnodolion a dalwn amdanynt wedi’u rhestru ar iFind, catalog y llyfrgell. (defnyddiwch y blwch uchod) 

Os oes gennych gyfeirnod ar restr ddarllen e.e. gallwch fynd yn syth i iFind a gwneud chwiliad ‘Teitl Cyfnodolyn’ am y cyfnodolyn.

Mae iFind hefyd yn cynnwys manylion am erthyglau unigol – cliciwch ar y tab Erthyglau amwyi chwilio am rhain. Os ydych eisiau chwilio am erthyglau ar bwnc penodol dewiswch ‘unrhyw le yn y cofnod’. Os ydych eisiau chwilio am erthygl benodol, dewiswch ‘yn y teitl’ a rhowch deitl yr erthygl. Gallwch hefyd chwilio am erthyglau gan awdur penodol. Dewiswch ‘fel awdur/creawdwr’ i wneud hyn.

DS: Bydd eich canlyniadau yn cynnwys erthyglau o bapurau newydd ynghyd â chyfnodolion.

Hyd yn oed os ydych yn defnyddio iFind i leoli erthyglau cyfnodolion ar bwnc neu gan awdur penodol, os ydych eisiau cynnal chwiliad mwy trwyadl mae’n well defnyddio cronfeydd data electronig.

Mae rhai o’r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra mae eraill (e.e. MLA Bibliography ac Web of Science) yn cynnwys dyfyniad yn unig (neu gofnod) a chrynodeb o’r erthygl. Yn yr achos hwn gwelwch ddolen ‘iGetIt’ lle gallwch glicio arno i weld os yw’r erthygl hon gennym yma.

Rhestrir ychydig o’r prif gronfeydd data ar gyfer chwilio am erthyglau cyfnodolion isod. 

Am y rhestr gyflawn defnyddiwch y blwch Adnoddau Pwnc.

I ddefnyddio’r rhan fwyaf o gronfeydd data ar ac oddi ar y campws mae angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Prifysgol Abertawe.

Ceir papurau newydd diweddar (3 mis diwethaf yn unig) fel  Le Monde, Die Zeit ac  El Pais, ar y Rac Newyddion ar Lefel 4 Gorllewin (yr Oriel).

Am ôl-rifynnau a detholiad ehangach o bapurau newydd ieithoedd tramor defnyddiwch y cronfeydd data isod.

Isod mae sampl o ffynonellau we defnyddiol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu.

Dod o hyd i erthyglau mewn cylchgronau ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Gallwch roi cynnig ar yr ymarfer ar-lein hwn i wella’ch sgiliau chwilio ac arfer chwilio am erthyglau cyfnodolion.

Adnoddau Pwnc ar gyfer Cyfieithu

Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data sy'n berthnasol i Ffrangeg.  

Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Math o gronfa ddata o'r gwymplen Pob Math o Gronfa Ddata.

Adnoddau Pwnc ar gyfer Cyfieithu

Os ydych chi'n profi problem wrth gyrchu ein Adnoddau Pwnc, edrychwch ar ein tudalennau Statws Gwasanaeth ISS i weld a yw'r broblem eisoes wedi'i hadrodd.  

Os nad oes, defnyddiwch y Ddesg Wasanaeth i roi gwybod i ni.

Llyfrau Cyfeiriadol

Mae llyfrau cyfeirio yn ddefnyddiol yn benodol wrth ddechrau chwilio am wybodaeth ar bwnc. Mae ein Casgliad Cyfeiriadol y Neuadd Astudio yn cynnwys llawer o weithiau cyferion defnyddiol ar gyfer Cyfieithu, er enghraifft:

Translation : an international encyclopedia of translation studies     P306 .U24 2004

The Encyclopedia of Language and Linguistics     P29 ENC2

Encyclopedia of Literary Translation into English     PN241.E56 ENC

Cyfieithiadau Cyfatebol

Gall chwilio am gyfieithiadau cyfatebol fod yn anodd, ac nid yw'n bosib bod yn hollol siŵr nad oes cyfieithiad ar gael. Isod ceir rhestr o wefannau i'ch helpu i chwilio:  

Mae teclyn chwilio manwl iFind yn eich galluogi i chwilio am ddeunydd fesul math, teitl, awdur ac iaith:  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae tudalennau Saesneg ar Wikipedia sydd ar gael mewn ieithoedd eraill yn cysylltu â'u fersiynau ieithyddol gwahanol, gan ddefnyddio dolenni rhwng ieithoedd (ar waelod y ddewislen ar y chwith). Os nad oes dolen rhwng ieithoedd, mae hynny'n dangos nad oes tudalen gyfatebol yn yr iaith honno.  

Chwiliwch hefyd gatalog ar-lein Llyfrgell y Gyngres. Dewiswch TITLE a NAME o'r ffurflen a chliciwch ar y botwm Add Limits er mwyn pennu'r iaith a'r math o ddeunydd.

Os ydych chi'n defnyddio Google Scholar, dylech chi gyfyngu'r canlyniadau i'r iaith o'ch dewis drwy glicio ar y coll geiriau > Settings > Languages.