Skip to Main Content

Ieithoedd Modern, Cyfieithu ac Astudiaethau Dehongli: Almaeneg

This page is also available in English

Dechrau gyda'r catalog

iFind yw’r prif fodd i chwilio am yr adnoddau a ddarparwyd gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe. Gallwch ddefnyddio’r cyfleuster chwilio isod neu fynd ato yn uniongyrchol drwy dudalen hafan y Llyfrgell neu eich tudalen MyUni

Os hoffech ragor o help i ddefnyddio iFind cliciwch ar y tabiau Canllaw uchod. 

Chwiliad Uwch

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddefnyddio ein catalog yn fwy effeithiol. 

Mae’r tiwtorialau isod yn cynnwys:

  • Opsiynau chwilio
  • Awgrymiadau chwilio
  •  Deall eich canlyniadau
  • Mewngofnodi i iFind  (i ofyn am eitemau, adnewyddu a gwirio pa eitemau sydd gennych ar fenthyciad)
  • Arbed chwiliadau a rhybuddion
  •  Ffefrynnau iFind

Mae Llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gweithredu System Adnewyddu Awtomatig sy'n golygu y bydd eitemau sydd ar fenthyg o'r llyfrgell yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig nes eu bod yn cael eu dychwelyd. Oni ofynnir amdanynt!

Felly, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gwneu cais am y llyfrau rydych chi eu heisiau os ydyn nhw allan ar fenthyg.  

Os na wnewch chi, nid oes gan y llyfrgell unrhyw ffordd o wybod bod eu hangen arnoch a byddant yn parhau i aros gyda'r darllenydd sydd ganddo ar hyn o bryd.  

Ar ôl i chi ofyn am eitem, bydd yn cael ei alw'n ôl i chi a gallwch ei chasglu o'r Ddesg Wybodaeth cyn gynted ag y bydd yn ôl yn y Llyfrgell.

Os nad yw’r adnodd rydych ei angen yn y Llyfrgell gall ein Gwasanaeth Cyflenwi Dogfen chwilio amdano o lyfrgell arall i chi.

Os hoffech awgrymu eitem i'w phrynu gan y Llyfrgell, cyflwynwch gais i ni ei ystyried.

Adnoddau Allweddol ar gyfer Almaeneg

Mae llyfrau a chyfnodolion sy’n berthnasol i Almaeneg yn rhannau amrywiol o’r llyfrgell. Mae’r rhan fwyaf yn y lleoliadau hyn:

  Pwnc Ystod rhif galwad  Lleoliad
  Hanes, Cymdeithas a Diwylliant Almaen DD Lefel 2 Gorllewin
  Iaith Almaeneg PF Lefel 1 Gorllewin
  Ffilm PN1993 Lefel 1 Gorllewin
  Llenyddiaeth Almaeneg PT Lefel 3 Dwyrain

 

Isod mae sampl o Gasgliadau e-Lyfrau allweddol ar gyfer Almaeneg. 

Am y rhestr gyfan defnyddiwch y blwch Adnoddau Pwnc.

Mae’r holl gyfnodolion a dalwn amdanynt wedi’u rhestru ar iFind, catalog y llyfrgell. (defnyddiwch y blwch uchod) 

Os oes gennych gyfeirnod ar restr ddarllen e.e. gallwch fynd yn syth i iFind a gwneud chwiliad ‘Teitl Cyfnodolyn’ am y cyfnodolyn.

Mae iFind hefyd yn cynnwys manylion am erthyglau unigol – cliciwch ar y tab Erthyglau a mwyi chwilio am rhain. Os ydych eisiau chwilio am erthyglau ar bwnc penodol dewiswch ‘unrhyw le yn y cofnod’. Os ydych eisiau chwilio am erthygl benodol, dewiswch ‘yn y teitl’ a rhowch deitl yr erthygl. Gallwch hefyd chwilio am erthyglau gan awdur penodol. Dewiswch ‘fel awdur/creawdwr’ i wneud hyn.

DS: Bydd eich canlyniadau yn cynnwys erthyglau o bapurau newydd ynghyd â chyfnodolion.

 Hyd yn oed os ydych yn defnyddio iFind i leoli erthyglau cyfnodolion ar bwnc neu gan awdur penodol, os ydych eisiau cynnal chwiliad mwy trwyadl mae’n well defnyddio cronfeydd data electronig.

Mae rhai o’r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra mae eraill (e.e. MLA Bibliography ac Web of Science) yn cynnwys dyfyniad yn unig (neu gofnod) a chrynodeb o’r erthygl. Yn yr achos hwn gwelwch ddolen ‘iGetIt’ lle gallwch glicio arno i weld os yw’r erthygl hon gennym yma.

Rhestrir ychydig o’r prif gronfeydd data ar gyfer chwilio am erthyglau cyfnodolion isod. 

Am y rhestr gyflawn defnyddiwch y blwch Adnoddau Pwnc.

I ddefnyddio’r rhan fwyaf o gronfeydd data ar ac oddi ar y campws mae angen i chi ddefnyddio eich manylion mewngofnodi Prifysgol Abertawe.

Ceir papurau newydd diweddar (3 mis diwethaf yn unig) fel Die Zeit, ar y Rac Newyddion ar Lefel 4 Gorllewin (yr Oriel).

Am ôl-rifynnau a detholiad ehangach o bapurau newydd ieithoedd tramor defnyddiwch y cronfeydd data isod. 

Isod mae sampl o ffynonellau we defnyddiol ar gyfer Almaeneg.

Dod o hyd i erthyglau mewn cylchgronau ar gyfer y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Gallwch roi cynnig ar yr ymarfer ar-lein hwn i wella’ch sgiliau chwilio ac arfer chwilio am erthyglau cyfnodolion.

Adnoddau Pwnc ar gyfer Almaeneg

Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data sy'n berthnasol i Ffrangeg.  

Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Math o gronfa ddata o'r gwymplen Pob Math o Gronfa Ddata.

Adnoddau Pwnc ar gyfer Almaeneg

Os ydych chi'n profi problem wrth gyrchu ein Adnoddau Pwnc, edrychwch ar ein tudalennau Statws Gwasanaeth ISS i weld a yw'r broblem eisoes wedi'i hadrodd.  

Os nad oes, defnyddiwch y Ddesg Wasanaeth i roi gwybod i ni.

Llyfrau Cyfeiriadol

Mae llyfrau cyfeirio yn ddefnyddiol yn benodol wrth ddechrau chwilio am wybodaeth ar bwnc. Mae ein Casgliad Cyfeiriadol y Neuadd Astudio yn cynnwys llawer o weithiau cyferion defnyddiol ar gyfer Almaeneg, er enghraifft:

Dictionary of German Biography  CT1053 DIC


Mae’r rhan fwyaf o eiriaduron iaith cyffredinol Almaeneg yng Nghasgliad Cyfeirio y Neuadd Astudio ar rifau galw gan ddechrau â PF.

Mae geiriaduron busnes yn HB, HD a HF1002.

Mae geiriaduron ar wyddoniaeth a thechnoleg yn Q a T