Gallwch ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am lyfrau ac e-lyfrau. Mae iFind yn gweithio fel peiriant chwilio ac yn cymharu'ch termau chwilio â'r eitemau sydd ar gael i chi drwy'r llyfrgell.
Os na welwch yr hyn rydych yn chwilio amdano, cliciwch ar y tab Hanfodion Llyfrgell i gysylltu â'r tîm.
Mae rhestr ddarllen eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunyddiau adolygu. Gallwch ddod o hyd i’ch rhestr ddarllen drwy chwilio yn iFindReading neu drwy fynd i adran rhestrau darllen ar Canvas.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell i chwilio am lyfrau ac adnoddau eraill.
Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran am Ddefnyddio'r Llyfrgell. Bydd yn eich helpu i ddod o hyd i'r llyfrau mae eu hangen arnoch chi. Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am Restrau Darllen, Benthyca Eitemau ac E-lyfrau.
Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen.