Fel arfer, cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, er enghraifft bob wythnos, bob mis neu bob chwarter, ac mae pob rhifyn yn cynnwys casgliad o erthyglau gan awduron gwahanol sydd fel arfer yn trafod yr ymchwil diweddaraf. Gallwch ddod o hyd i'r holl gyfnodolion rydym yn tanysgrifio iddynt drwy ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell.
Bydd yn bwysig iawn defnyddio cyfnodolion yn eich astudiaethau, oherwydd y byddant yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol, o ansawdd uchel. Trwy ddefnyddioerthyglau mewn aseiniadau bydd yn dangos eich bod wedi darllen yn eang am eich pwnc. Y brif ffordd o ddod o hyd i erthyglau am eich pwnc yw defnyddio cronfa ddata lyfryddiaethol. Yn y bôn, casgliad o wybodaeth neu ddata wedi'i drefnu yw cronfa ddata. Mae Prifysgol Abertawe'n talu am fynediad i gannoedd o gronfeydd data o safon uchel i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth orau a diweddaraf ar gyfer eich ymchwil. Mae'r prif gronfeydd data rydym yn eu hargymell wedi'u rhestru isod ond cofiwch y bydd cynnwys pob cronfa ddata'n wahanol, felly mae'n well defnyddio mwy nag un gronfa ddata i sicrhau eich bod yn cael yr holl wybodaeth mae ei hangen arnoch!
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell i chwilio am lyfrau ac adnoddau eraill.
Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar ymchwilio. Dilyna’r ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal dy chwiliad. (Bydd angen i ti fewngofnodi i Canvas i gael y ddolen.)
Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen.
Cronfeydd data 'crynodebau a dyfyniadau' yw'r ddau adnodd hyn - golyga hyn eu bod yn cynnwys llawer o wybodaeth am erthyglau mewn cyfnodolion a chyhoeddiadau eraill. Maent yn ddefnyddiol ar gyfer dod o hyd i erthyglau yn ogystal ag olrhain dyfyniadau a metrigau eraill.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
SPORTDiscus with Full Text yw ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y byd o erthyglau o gyfnodolion ar gyfer chwaraeon a meddyginiaeth chwaraeon, gan gynnig testun llawn ar gyfer 550 o erthyglau.
Erthyglau o gyfnodolion gan y cyhoeddwr Elsevier. Mae chwiliad uwch yn cynnig yr opsiwn i chi ddewis cyfnodolion tanysgrifedig er mwyn i chi ganfod canlyniadau sydd ar gael i chi ar unwaith yn unig - defnyddiol ar gyfer dechrau ar bwnc.
Cronfa ddata gan yr American Psychological Society yw APA PsycARTICLES. Mae’n darparu mynediad at destunau llawn dros 100 o gyfnodolion sy’n ymdrin â gwyddoniaeth ymddygiadol a meysydd cysylltiedig.
Mae APA PsycINFO yn darparu deunydd ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae'n cynnwys bron i 4 miliwn o ddyfyniadau o 2500 o deitlau cyfnodolion. Hwn yw'r adnodd mwyaf sy'n arbenigo mewn llenyddiaeth a adolygir gan gymheiriaid ym meysydd gwyddor ymddygiad ac iechyd meddwl. Mae naw deg naw y cant o'r deunydd wedi'i adolygu gan gymheiriaid.
Mae Google Scholar yn chwilio am ddeunyddiau ysgolheigaidd. Fodd bynnag, nid yw’n glir beth sy’n cael ei fynegeio na sut felly dylid defnyddio Google Scholar ar y cyd â chronfeydd academaidd eraill am ganlyniadau mwy dibynadwy. Mae’n bwysig nodi bod Google Scholar yn cysylltu â pheth cynnwys tanysgrifenedig ar y campws. Gallwch alluogi’r nodwedd hon ar eich dyfais drwy fynd i Google Menu, Settings, Library links ac yna dewis Prifysgol Abertawe o’r dolenni mynediad ar gyfer y rhestr.
Mae Semantic Scholar yn ddeallusrwydd artiffisial wedi’i seilio ar beiriant chwilio ar gyfer cyhoeddiadau academaidd, gan gynnwys ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid. Mae’n ddefnyddiol i’w ddefnyddio ochr yn ochr â Google Scholar oherwydd bod y canlyniadau mae’n gallu eu cael yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i echdynnu ystyr o lenyddiaeth ymchwil yn amrywio. I ddechrau, ewch i semanticscholar.org a chwilio am bapur, awdur, pwnc neu air allweddol. Gallwch hidlo yn ôl maes, ystod o ddyddiadau, cynhadledd a mwy i fireinio’r canlyniadau chwilio yn ogystal â’u trefnu yn ôl perthnasedd neu ddiweddaredd.
Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.
O economeg a gwleidyddiaeth i lenyddiaeth ac athroniaeth, mae Oxford Handbooks yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ar draws y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau, a’r gyfraith.
ProQuest Central yw'r adnodd erthyglau cyfnodolion mwyaf ar gael. Mae'r gronfa yn dod â chronfeydd data cyflawn ynghyd o feysydd mawrion megis Busnes, Iechyd a Meddyginiaeth, Ieithoedd a Llenyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ogystal â theitlau craidd ym meysydd y Celfyddydau Gweledol a Pherfformio, Hanes, Crefydd, ac Athroniaeth. Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys miloedd o bapurau newydd testun llawn o bob rhan o'r byd.
Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae Medline yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Mae PubMed yn darparu mynediad am ddim i MEDLINE®, cronfa ddata yr NLM® o gyfeiriadau a chrynodebau mynegeio i ofal meddygol, nyrsio, deintyddol, milfeddygol, iechyd ac erthyglau cyfnodolion gwyddorau cyn-glinigol. Ychwanega gyfeiriadau newydd yn ddyddiol.
Cyhoeddwr yn y meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth sydd â phortffolio helaeth o gyfnodolion mynediad agored sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ein cyfnodolion yn ymdrin â phob maes o fewn bioleg, meddygaeth ac iechyd.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Mae llawer o’n cyfnodolion ar gael ar-lein, ar y campws ac oddi arno pan fyddwch yn defnyddio’ch enw defnyddiwr Prifysgol Abertawe a’ch cyfrinair. Dylai’r dogfennau isod eich helpu gyda rhai problemau cyffredin ond os na allwch gael gafael ar rywbeth y credwch ein bod yn tanysgrifio iddo, rhowch wybod i ni.