Mae'r Canllaw hwn yn dwyn ynghyd adnoddau a gwybodaeth allweddol i'ch helpu i lywio o amgylch yr adnoddau sy'n ymwneud â Gwyddor Chwaraeon.
Tîm Llyfrgell y Coleg Peirianneg yw Alasdair, Giles, Allison a Philippa
Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. Edrychwch ar ein tudalen we i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae rhestr ddarllen eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunyddiau adolygu. Gallwch ddod o hyd i’ch rhestr ddarllen drwy chwilio yn iFindReading neu drwy fynd i adran rhestrau darllen ar Canvas.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.