Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar wefan y llyfrgell, gan gynnwys lleoliad ein llyfrgelloedd ac oriau agor. Hefyd mae gennym ganllawiau llyfrgell fesul pwnc sydd yna i’w pori os dymunwch. Yn y Canllawiau Llyfrgell hyn, a grëwyd gan ein tîm o Lyfrgellwyr Pwnc, ceir llawer o awgrymiadau a fydd yn eich helpu wrth chwilio am wybodaeth dda.
Pan ddechreuwch eich astudiaethau, gall ein Tîm Llyfrgell MyUni cyfeillgar eich helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y llyfrgell. Gweler eu gwefan am ragor o fanylion am y gwasanaethau y maent yn eu cynnig.
Gallwch gysylltu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol: MyUniLibrary@abertawe.ac.uk +44(0)1792 606400
Dyma ychydig o ganllawiau a thiwtorialau i’ch helpu i ddarganfod deunydd i’ch helpu gyda’ch aseiniadau. Bydd aseiniadau academaidd, megis ysgrifennu papurau, yn gofyn i chi chwilio am ffynonellau o safon, a’u gwerthuso.
Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau. Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:
Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau. Mae'n cynnwys:
Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws. Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc. Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.
Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT). Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad.
DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd. Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau. Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.
Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw: Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:
Ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch sut i ddechrau ysgrifennu'ch traethawd neu'ch aseiniad? Bydd gwefan y Pecyn Cymorth Goroesi Aseiniadau yn eich helpu i roi trefn ar eich meddyliau ac yn darparu canllawiau defnyddiol ar hyd y ffordd.Teipiwch ddyddiad dychwelyd eich aseiniad, a chewch linell amser i'ch helpu i gwblhau'ch aseiniad ar amser.
http://libguides.swansea.ac.uk/rheolaeth/ASK
Un o’r gwahaniaethau mwyaf rhwng Blwyddyn 13 a’r Brifysgol yw’r gofyn i chi ymchwilio’n fwy helaeth ar gyfer eich aseiniadau, a’u cyfeirnodi’n addas. Bydd gan fyfyrwyr blwyddyn gyntaf arddull gyfeirnodi i’w dilyn, a fydd yn seiliedig ar eich cwrs. Mae pedair arddull gyffredin:
Bydd ein Llyfrgelloedd ar agor i chi ddod mewn a’u defnyddio!
Ceir fideo isod sydd yn dangos sut i ymchwilio’n catalog ar-lein, o’r enw iFind. Gall iFind eich helpu i ddarganfod eitemau sydd gennym yn y Llyfrgell, megis llyfrau a chyfnodolion (cyfnodolion academaidd).
Gallwch fenthyg eitemau o’n Llyfrgell, ar yr amod bod gennych gerdyn llyfrgell o’r Llyfrgell Gyhoeddus neu o Lyfrgell eich Coleg. Gofynnwch iddynt hwy’n gyntaf, a gallant roi ffurflen i chi ddod â hi i'n Llyfrgell ni a fydd yn caniatáu i chi fenthyg. Edrychwch ar ein gwefan am Wybodaeth i Ymwelwyr â’r Llyfrgell am ragor o fanylion. Gallwch fenthyg hyd at 5 eitem fenthyg arferol ar y tro am gyfnod o 4 wythnos.