Mae Prifysgol Abertawe yn ffodus i gael nifer o gasgliadau llyfrgell, archifau ac amgueddfeydd sylweddol a ddefnyddir i gefnogi ymchwil, dysgu ac addysgu. Maent yn agored i fyfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion a’r cyhoedd cyffredinol i edrych arnynt a’u defnyddio.
Mae’r tîm Casgliadau Arbennig yn gofalu am y casgliadau unigryw a gwahanol hyn sydd yn cynnwys archifau, llyfrau prin, hanes llafar, posteri, baneri, a llyfrgelloedd sefydliadau glowyr. Gellir ymweld â’r casgliadau yn Archifau Richard Burton a’r Casgliad Llyfrau Prin yn Llyfrgell Parc Singleton a Llyfrgell Glowyr De Cymru ar Gampws Hendrefoelan.
Mae Archifau Richard Burton yn dethol ac yn diogelu’r holl gofnodion o werth hanesyddol a grëwyd neu a ddaeth i feddiant y Brifysgol ac maent yn gwneud yn siŵr bod y cofnodion hyn yn hygyrch i bawb. Mae ein casgliadau ar gael i fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr allanol i’w gweld yn ein hystafell ddarllen. Maent yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar hanes diwydiannol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt.
Pam defnyddio’r archifau?
Un o’r casgliadau a gynhelir yn yr Archifau yw casgliad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Fel rhan o ail flwyddyn ei gwrs ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Researching and Re-telling the Past: Swansea Student Union History Project’, defnyddiodd Sion Durham y casglaid yn ei ymchwil. Gwyliwch y ffilm isod i glywed Sion yn disgrifio sut roedd yn medru archwilio hanes unigryw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe drwy ffynonellau di-rif a gynhelir yn yr Archifau.
Gallwch ddarllen rhagor am gasgliad Undeb y Myfyrwyr a’r prosiect drwy ddarllen y blog hwn.
Er mwyn darganfod mwy am yr holl gasgliadau eraill sydd gennym, ymwelwch â’n gwefan.
________________________
Blog Archifau Richard Burton
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn llyfrgell ymchwil yn cynnwys ffynonellau cynradd ac eilaidd sydd yn berthnasol i hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yn ne Cymru ddiwydiannol. Hefyd bydd yn darparu gwasanaethau llyfrgell ar gyfer myfyrwyr ar safle pentref myfyrwyr Hendrefoelan.
Mae ein casgliadau ymchwil yn cynnwys llawer o adnoddau anarferol a gwerthfawr. Maent yn cynnwys llyfrau, pamffledi, posteri, toriadau o bapurau newydd a recordiadau sain hanes llafar am ddigwyddiadau hanesyddol o bwys megis: y Chwyldro yn Rwsia; y Rhyfel Byd Cyntaf; y cyfnod rhwng rhyfeloedd; Cynghrair y Cenhedloedd; Rhyfel Cartref Sbaen; twf ffasgaeth yn Ewrop; yr Ail Ryfel Byd (yn rhyngwladol a’r “ffrynt cartref” ill dau), Streic y Glowyr 1984-85 a llawer iawn mwy.
Gellir ymchwilio i’n casgliadau o lyfrau drwy ddefnyddio catalog llyfrgell Prifysgol Abertawe iFind. Gellir benthyg rhai llyfrau, ond bydd y mwyafrif yn gyfeirlyfrau y gellir eu gweld yn y llyfrgell yn unig.
Er mwyn eich cyflwyno i rai o’n daliadau amrywiol ac unigryw, ceir ychydig o lyfryddiaethau cryno isod sydd yn tanlinellu rhai o’r teitlau sydd gennym, gan gynnwys eu lleoliad yn Llyfrgell y Glowyr.
Gellir darganfod rhagor o wybodaeth am ein casgliadau ymchwil ar ein gwefan.
_____________________________
Blog Llyfrgell Y Glowyr De Cymru