Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn ymfalchïo yn y casgliad mwyaf o wrthrychau hynafol o’r Aifft sydd yng Nghymru ac mae’n gasgliad pwysig yn y DU, gan ddenu sylw academaidd a chyhoeddus ar draws y DU ac yn bellach.
Ym 1971, cyrhaeddodd 92 cawell o wrthrychau Abertawe dan nawdd Gwyn Griffiths (Coleg y Brifysgol, Abertawe) a David Dixon (Coleg y Brifysgol Llundain) a oedd yn rhan o gasgliad Syr Henry Wellcome gynt. Prynodd Syr Henry Wellcome lawer o eitemau mewn ocsiynau o gasgliadau Robert de Rustafjaell, Gayer-Anderson, Berens a MacGregor ac eraill. Ar y campws gelwid y casgliad yn “Amgueddfa Wellcome ym Mhrifysgol Abertawe” (lleolir yr Amgueddfa Wellcome go iawn yn Llundain) tan iddo symud i’w orielau newydd, at y pwrpas ym 1998.
Mae’r casgliad bellach yn cynnwys dros 5000 o arteffactau o’r Aifft yn bennaf. Ceir arteffactau o gloddfeydd yn Amarna, Armant, Mostagedda, Esna, ayb. Hefyd ceir arteffactau a roddwyd gan unigolion preifat, o Amgueddfa Prydain, Amgueddfa Frenhinol Caeredin, Amgueddfeydd ac Orielau Cymru Caerdydd ac Amgueddfa ac Oriel Gelf Frenhinol Albert.
Daw mwyafrif y gwrthrychau o’r Hen Aifft ond hefyd ceir casgliad pwysig o eitemau eraill gan gynnwys crochenwaith o Hen Roeg a Rhufain a darnau arian.
Mae’r deunydd o’r Aifft yn hanu o’r cyfnod tua 100,000 C.C. – 500 OC yn bennaf, mewn dwy oriel ac yn cynnwys gemwaith sydd yn dyddio o gyfnod Tutankhamun, arfau a chrocodeil mymiedig.
Y Ganolfan Eifftaidd | Amgueddfa Hynafiaethau'r Aifft | Prifysgol Abertawe | Parc Singleton | Abertawe | SA2 8PP
Ffon: (01792) 295960 | E-bost: egyptcentre@abertawe.ac.uk