Skip to Main Content

Ffiseg

This page is also available in English

iFind, Catalog y Llyfrgell

Chwiliad Uwch

Dod o hyd i'ch llyfrau

Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr. 

Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.

Lleoliadau Llyfrau yn Llyfrgell Parc Singleton

Mae mwyafrif y llyfrau a chyfnodolion a ddefnyddir gan fyfyrwyr Ffiseg yn bennaf ar y nod dosbarth QC ar Lefel 3 Dwyrain Llyfrgell Parc Singleton.  Rhai enghreifftiau o nodau dosbarth a phenawdau pwnc defnyddiol:

Nod Dosbarth Penawdau Pwnc Lleoliad
QB Serryddiaeth Lefel 3 Dwyrain
QC Ffiseg Lefel 3 Dwyrain

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Casgliadau E-Lyfrau

Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data e-lyfrau. Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Pwnc o'r gwymplen.

Cliciwch yma am gronfeydd data e-lyfrau

LibraryPlus

LibraryPlus - Cefnogaeth ychwanegol i'ch astudiaethau 

Rydym wedi cynllunio'n arbennig nifer o wasanaethau, o'r enw LibraryPlus, sy'n gallu gwneud eich bywyd fel myfyriwr yn hawsach.

Pwy sy'n gallu defnyddio LibraryPlus? Pob myfyriwr, yn enwedig:

  • Myfyrwyr rhan-amser
  • Myfyrwyr bellter
  • Myfyrwyr yn y gweithle
  • Myfyrwyr sydd ar leoliad (e.e. Gwyddor Iechyd)
  • Myfyrwyr Anabl
  • Gofalwyr​

Ewch i'r wefan LibraryPlus am fwy o wybodaeth

Eich rhestr ddarllen

Link to iFind Reading

Mae'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunydd adolygu. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen eich modiwl drwy chwilio iFindReading neu fynd i adran rhestr ddarllen Canvas.