Mae EndNote Basic (online) ar gael am ddim i bawb ond tra eich bod yn y Brifysgol, cewch fynediad at ystod o arddulliau cyfeirnodi ychwanegol, gan gynnwys y rhai y mae’r Brifysgol wedi’u cymeradwyo. Bydd EndNote Basic yn caniatáu i chi rannu grŵp o gyfeiriadau sy’n gallu bod yn ddefnyddiol wrth weithio gydag eraill. |
Dewiswch o blith y rhestr isod i ganfod sut i fewnforio cofnodion o’r cronfeydd data yr ydych yn eu defnyddio.
Os oes gennych y meddalwedd cywir wedi’i osod, dylech weld y bar offer hwn yn Word a fydd yn caniatáu i chi weithio gyda’ch cyfeiriadau EndNote. Os nad oes gennych hyn, ewch i mewn i EndNote a chwiliwch am y ddolen download installers ar waelod y sgrin.
Efallai yr hoffech wylio’r fideo hwn ar ddefnyddio Endnote gyda Word.
Mae tri o’r arddulliau a gymeradwywyd gan Abertawe ar gael yn EndNote online - APA 7th Swansea, MHRA Swansea a Vancouver Swansea. Yn anffodus nid yw Oscola yn gweithio’n dda gydag EndNote online.
Os na welwch yr arddull yr ydych am ei ddefnyddio yn ymddangos yn Word, ewch i EndNote online a chliciwch ar y tab Format. Cliciwch ar Select Favorites ac ychwanegwch yr un yr ydych am ei ddefnyddio at eich rhestr ffefrynnau. Bydd angen i chi gau ac ailagor Word i gael yr arddull newydd.