Skip to Main Content

Cymraeg: Llyfrau

This page is also available in English

Llyfrau

 

Defynyddio catalogy y llyfrgell i ddod o hyd i lyfrau

I ddod o hyd i leoliad y llyfr yr ydych ei angen, defnyddiwch ein catalog llyfrgell, iFind.  Wrth chwilio am lyfr penodol rydym yn argymell defynddio cyfenw'r awdur ac un neu ddau o eiriau alllweddol y teitl.  Yna gallwch hidlo trwy glicio ar "Testun llawn ar-lein" i ddod o hyd i e-lyfr.  Mae hefyd yn ddefnyddiol dewis "Llyfrau a mwy" yn hytrach na chwilio "Popeth".

Mae canllaw i iFind o dan y testun hwn.  

Chwiliad Uwch

Lleoliadau Llyfrau

Mae'r rhan fwyaf o lyfrau a chylchgronau printiedig am lenyddiaeth Gymraeg a'r iaith Gymraeg ar Lefel 2 Gorllewin. PB sy'n dechrau rhif galw'r llyfrau. Mae gan nifer o gylchgronau rifau galw sy'n dechrau PB2101.

Mae llyfrau eraill am Gymru yn y Casgliad Cymreig nesaf i PB ar Lefel 1 Gorllewin. W/ sy'n dechrau rhif galw'r llyfrau.  Mae gan lyfrau am hanes Cymru rifau galw yn dechrau W.DA.

Mae llyfrau am lenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg   (e.e. Dylan Thomas) ar Lefel 1 gyda rhifau galw sy'n dechrau PR, lle mae'r rhan fwyaf o lyfrau am lenyddiaeth Saesneg.

Mae'r llyfr rydw i eisiau wedi'i fenthyg

Gofyn am lyfr

Mae llyfrau ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig oni bai bod defnyddiwr arall yn gofyn amdanynt. Os yw'r llyfr rydych chi ei eisiau ar fenthyg mae'n bwysig iawn eich bod chi'n mewngofnodi i iFind ac yn gofyn am y llyfr. Cofiwch wirio'ch e-bost yn rheolaidd rhag ofn y gofynnwyd am lyfrau rydych chi'n eu benthyg.

e-Llyfrau

Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n e-lyfrau drwy iFind. Mae ein e-lyfrau ar gael drwy: Proquest, EBSCO. Bydd y tabiau hyn yn dweud ychydig yn rhagor i chi am y tair prif gronfa ddata. I logio i mewn, defnyddiwch eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol.