Mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio'n gynyddol wrth raddio prifysgolion, felly mae'n bwysig ei hyrwyddo. Mae nifer dyfyniadau yn un o'r mesurau a ddefnyddir wrth raddio ymchwil. Nid yw'n berffaith ond mae'n cyfrif am 30% o'r sgôr ar gyfer Tabl Prifysgolion y Byd The Times ac 20% o'r sgôr ar gyfer Tabl Prifysgolion y Byd QS.
Y flaenoriaeth, wrth gwrs, yw cynhyrchu ymchwil da ac nid oes gwarant y bydd unrhyw un o'r syniadau isod yn cynyddu diddordeb yn eich gwaith. Serch hynny, maent yn effeithiol ar gyfer rhai pobl, felly dewiswch y rhai sy'n debygol o weithio i chi a rhowch gynnig ar wneud eich ymchwil yn fwy gweladwy.
Cydweithio
- Mae papurau â sawl awdur yn tueddu i gael eu dyfynnu'n amlach, yn enwedig os gallwch ddefnyddio cydweithwyr rhyngwladol cryf neu bobl adnabyddus yn eich maes. Mae cydweithio ar draws disgyblaethau yn denu nifer mawr o ddyfyniadau'n aml hefyd. Mae awgrymiadau ar gydweithio yn yr erthygl hon yn Science.
Awgrymiadau Ysgrifennu
- Dewiswch deitl da. Ymddengys fod teitlau ar ffurf cwestiwn yn denu llai o ddyfyniadau na mathau eraill o deitl. Mae'r erthygl hon ar Impact Blog yr LSE yn cynnig syniadau.
- Ailadroddwch ymadroddion allweddol yn eich crynodeb oherwydd y bydd hyn yn helpu peiriannau chwilio i ddod o hyd i'ch erthygl. Ond cofiwch eich bod yn ysgrifennu ar gyfer pobl a bydd angen i'r crynodeb ddenu pobl i ddarllen rhagor.
- Mae erthyglau â llawer o gyfeiriadau'n tueddu i ddenu nifer mawr o ddyfyniadau. Mae'n dderbyniol dyfynnu eich gwaith eich hun fel rheol ar yr amod ei fod yn berthnasol.
Dewis y cyfnodolyn iawn
- Mewn llawer o bynciau, mae'n bwysig dewis cyfnodolyn ag effaith uchel. Bydd ein tanysgrifiad i Journal Citation Reports yn caniatáu i chi asesu hyn ar gyfer y cyfnodolion rydych yn eu hystyried a chymharu cyfnodolion yn eich maes. Mae Scopus yn cynnig gwasanaeth tebyg hefyd.
- Ein canllaw i asesu ffactorau effaith
Gallwch hefyd ystyried nodau'r cyfnodolyn, ei gwmpas, pa mor adnabyddus yw'r bwrdd golygu ac a yw'n cael ei fynegeio yn y cronfeydd data mawr ar gyfer eich pwnc. Fel arfer, bydd manylion nod, cwmpas a golygyddion cyfnodolyn i’w cael ar wefan y cyfnodolyn.
- Un ffordd o weld pa mor eang mae cyfnodolyn yn cael ei ddefnyddio yw drwy edrych pa brifysgolion sy’n tanysgrifio iddo. Mae sawl prifysgol yn rhan o’r catalog undeb JISC Library Hub Discover, sy’n gallu darparu’r wybodaeth hon.
-
Optimeiddio eich ymchwil ar gyfer peiriannau chwilio
- Dewiswch allweddeiriau da pan gewch gyfle i wneud hyn, naill ai o fewn eich erthygl neu mewn unrhyw storfa y byddwch yn ei chyflwyno iddi. Defnyddiwch y termau poblogaidd cyfredol os ydynt yn briodol a meddyliwch sut gallai pobl chwilio am eich erthygl.
- Gall y cyngor hwn gan Elsevier fod yn ddefnyddiol.