Skip to Main Content

Cyhoeddi ac ymchwilio effaith: Mesur Effaith

This page is also available in English

Bibliometreg ac altmetreg

 

Mae bibliometreg yn cyfeirio at ddadansoddi llenyddiaeth ymchwil yn seiliedig ar ddyfyniadau. 

Gellir defnyddio bibliometreg i ddangos gwerth ymchwil i'ch sefydliad a chyrff ariannu, i adnabod meysydd ymchwil a gwendid, i adnabod cyfnodolion pwysig ac i adnabod meysydd ymchwil newydd. Gellir ei defnyddio i ddod o hyd i gydweithredwyr neu gystadleuwyr posibl. Hefyd fe’i defnyddir mewn tablau megis Tabl Prifysgolion y Byd The Times a thablau QS a chan rai paneli yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil. Felly beth bynnag yw'ch barn ar fetrigau, mae'n werth canfod beth sydd wedi'i gofnodi amdanoch chi.  

Sylwer bod y pynciau yr ymdrinnir â hwy'n amrywio - er enghraifft, yn draddodiadol nid yw'r Celfyddydau a'r Dyniaethau wedi'u cynnwys mewn mynegeion dyfyniadau.

Scopus / Scival

Ar hyn o bryd mae gan Scopus Scival gan Elsevier y cytundeb i ddarparu gwybodaeth am ddyfyniadau ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a thablau The Times Higher a QS.  Mae Scopus yn gronfa ddata erthyglau ac mae Scival yn offeryn sy'n defnyddio'r data gan Scopus i ganiatáu cymhariaeth rhwng prifysgolion ac ymchwilwyr. Hefyd gellir defnyddio Scopus i ddod o hyd i gydweithredwyr ac edrych ar gyllid. Bydd angen eich cyfrinair prifysgol arnoch i gyrchu Scopus oddi ar y campws ac mae Scival ar gael i’w ddefnyddio ar y campws yn unig.

Scopus | Ffynonellau wedi'u mynegeio yn Scopus | Metrigau Scopus.

Meincnodi eich hun gyda Scival |Dadansoddi adran gyda Scival | Arweinlyfr i Fetrigau Scival | Defnyddio Scival i ganfod Effaith Economaidd

Web of Science / Journal Citation Reports / Incites

Web of Science oedd y gronfa ddata gyntaf i gynnig chwilio dyfyniadau yn ogystal â chwilio ar sail allweddeiriau. Clarivate Analytics sydd bellach yn berchen ar y set hon o offer a oedd yn wreiddiol gan y Sefydliad Gwybodaeth Wyddonol. Mae'r data’n cynhyrchu'r Impact Factor, sef un o'r metrigau mwyaf adnabyddus, sydd ar gael yn Journal Citation ReportsMae Incites yn offeryn dadansoddi sy'n defnyddio data gan y Web of Science i ddarparu gwybodaeth debyg i Scival. Bydd angen eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair yn y Brifysgol arnoch i gyrchu Web of Science oddi ar y campws. I ddefnyddio Journal Citation Reports ac Incites bydd angen i chi gofrestru o gyfrifiadur ar y campws.

Cyfeirnod cyfeirnod | Journal Citation Reports | Fideos hyfforddi Incites  

Google Scholar / Publish or Perish

Gan y caiff Google Scholar ei greu heb lawer o ymyrraeth gan bobl, nid yw'r data mor ddibynadwy â'r ddwy system uchod ac ni chaiff ei ddefnyddio mewn tablau ayyb. Fodd bynnag, ar gyfer pynciau nad yw Scopus na WOS yn ymdrin â hwy, gall roi rhywfaint o fewnwelediad i bwy sy'n eich dyfynnu a gall godi cyfeiriadau at lyfrau a deunydd arall nad yw'n dod o gyfnodolion. Os crëwch Broffil Google Scholar, bydd yn olrhain dyfyniadau ar eich cyfer. Mae darn o feddalwedd am ddim ar gael - Publish or Perish gan Harzing, a all eich helpu i godi a dadansoddi dyfyniadau mewn Google Scholar.

Publish or Perish llawlyfr

H Index

Efallai eich bod wedi clywed am y mynegai-h, a ddatblygwyd gan Jorge E Hirsch yn UCSD. Ei nod yw mesur cynhyrchiant ac effaith ymchwilydd ac mae'n seiliedig ar eu papurau a ddyfynnir yn helaeth.

Mae gan ymchwilydd fynegai h os oes gan h o'i bapurau o leiaf h dyfyniad yr un, ac nad oes gan eu papurau eraill fwy na h dyfyniad yr un. 

Bwriad y fformiwla hon yw mynd i'r afael â phroblemau dulliau cyfrif dyfyniadau eraill sy'n gallu bod ar sgiw o ganlyniad i nifer fawr o gyhoeddiadau neu gan awdur sy'n gysylltiedig ag un papur hynod ddylanwadol. 

Gellir dod o hyd i’r mynegai H yn Scopus, Web of Science a thrwy broffiliau Google Scholar, er y byddwch siŵr o fod yn sylwi bod y canlyniadau'n wahanol gan eu bod yn seiliedig ar setiau data gwahanol - sy'n broblem gyda metrigau!

Altmetrigau

Mae Altmetrigau yn fetrigau newydd sy'n seiliedig ar gyfryngau cymdeithasol. Maent yn fwy uniongyrchol na dyfyniadau ond hefyd yn fwy agored i "hapchwarae". Yn ôl darparwyr altmetrigau, y ffordd orau o feddwl amdanynt yw fel dangosyddion o ymgysylltiad a sylw. Efallai y byddwch eisiau ystyried altmetrigau oherwydd y gallech:

  • Ddarganfod pwy allai fod yn siarad am eich ymchwil ar-lein
  • Darganfod beth sy'n cael ei ddweud am ymchwil debyg yn eich maes (gyda’r nod o‘u diddori yn eich ymchwil eich hun neu werthuso'i heffaith)
  • Casglu tystiolaeth o ymchwil / effaith naill ai ar lefel bersonol neu ar lefel prosiect. Mae altmetrigau'n mesur sylw (nid ansawdd), sydd hefyd yn wir gyda chyfrifiadau dyfyniadau traddodiadol, felly dylid rhoi'r wybodaeth mewn cyd-destun lle'n bosibl.
Ble y gallwch ddod o hyd i altmetrigau?  Mae nifer o ddarparwyr masnachol ond mae nifer ar gael am ddim hefyd: