Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe fynediad am ddim i’r archifau papur newydd isod yn ychwanegol at y safleoedd sydd ar gael yn unrhyw le arall ar y Rhyngrwyd. Mae dolenni i’r holl adnoddau papur newydd a danysgrifiwn (yn ychwanegol i rai adnoddau am ddim ar y we) yn iFind. Cliciwch ar y tab Adnoddau Pwnc i weld rhestr lawn o’r adnoddau newyddion a phapurau newydd a danysgrifiwn.
Llun drwy garedigrwydd Mass Observation Online
Mae Archif Hanesyddol y Mirror yn darparu mynediad i destun llawn (ffacsimili tudalen lawn) y Mirror a Sunday Mirror o 1903 i 2000.
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Mae Archif The Times yn cynnwys papur newydd The Times yn ei gyfanrwydd, o'i ddechrau ym 1785 hyd at 2019, gan gynnwys erthyglau, ffotograffau, llythyron a hysbysebion.
Mae’r safle UKPressOnline yn rhoi mynediad i destun llawn (ffacsimilïau tudalen lawn) i'r Daily Express o 1900 hyd heddiw. Mae’n cynnwys hefyd y Sunday Express a Daily Star (o 2000 hyd heddiw) a Star Sunday (o 2002 hyd heddiw). Gellir gweld pob rhifyn fel y byddai wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol (ynghyd â ffotograffau, lluniau, hysbysebion etc.).
Mae casgliad y 19th Century British Library Newspapers yn cynnwys cyfresi llawn o 70 papur newydd a ddetholwyd gan y Llyfrgell Brydeinig i gynrychioli Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n cynnwys papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol, a gall fod yn hynod ddefnyddiol os ydych yn ymchwilio i hanes lleol neu deuluol.
Mae’r cynnig yn rhoi mynediad at destun llawn papurau newydd, gwefannau newyddion a blogiau gan gyhoeddwyr blaenllaw drwy’r byd. Mae’n cynnwys ffeil wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, gan ddarparu mynediad at erthyglau, colofnau, erthyglau golygyddol, coflithoedd a nodweddion a gyhoeddwyd ym mhob papur. Mae’r papurau newydd mawr yn cynnwys y New York Times, Wall Street Journal, Chicago Tribune, Washington Post, USA Today, Los Angeles Times, Boston Globe, The Guardian a llawer mwy o deitlau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Mae’r Picture Post Historical Archive yn archif gyflawn o rifynnau’r Picture Post, o’r rhifyn cyntaf ym 1938 i’r olaf ym 1957 - y cyfan wedi’i drosi i fformat digidol mewn lliw. Mae Picture Post yn rhoi cipolwg difyr iawn ar fywyd ym Mhrydain o’r 1930au i’r 1950au, gyda miloedd o ffotograffau o bobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin.
Gwasanaeth e-bapurau newydd llyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe yw PressReader. Mae’n rhoi mynediad at restr gynyddol o 8,000+ o bapurau newyddion a chylchgronau cynnwys llawn. Mae’n cynwys The Guardian, The South Wales Evening Post a’r Cymro. Os ydych eisoes yn aelod o lyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, bydd gennych fynediad awtomatig i’r gwasanaeth hwn – bydd angen i chi lawrlwytho ap PressReader o’ch siop apiau. Os nad ydych yn aelod o’r llyfrgelloedd cyhoeddus, gallwch gyflwyno cais i ymuno ar-lein. Cliciwch ar y ddolen PressReader uchod am fwy o wybodaeth.