Skip to Main Content

Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu: Canfod Llyfrau

This page is also available in English

Canfod llyfrau a DVDs

Mae’r mwyafrif o lyfrau Astudiaethau Cyfryngau wedi’u lleoli ar Lefel 1 Gorllewin o Lyfrgell Singleton.  Gallwch ddod o hyd i’r llyfrau rhwng P90 a P96.  Mae’r mwyafrif o lyfrau ar ffilm o dan PN.  Mae DVDs wedi’u lleoli mewn casgliad ar wahân ar Lefel 2 Gorllewin.  

P90-P96          Astudiaethau Cyfryngau                    Lefel 1 Gorllewin

PN                  Astudiaethau Ffilm a’r Cyfryngau       Lefel 1 Gorllewin

I ddod o hyd i leoliad llyfr, DVD neu eitem arall, defnyddiwch iFind, ein catalog llyfrgell.  Os ydych angen cymorth i ddod o hyd i eitemau, gofynnwch i’r staff wrth ddesg y llyfrgell.  Efallai bydd y canllawiau isod o gymorth i chi hefyd.

Defnyddio iFind

Wrth ddefnyddio iFind i chwilio am lyfr penodol rydym yn argymell defnyddio cyfenw’r awdur ac un neu ddau o eiriau allweddol o’r teitl.

e-Llyfrau

Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n e-lyfrau drwy iFind. Mae ein e-lyfrau ar gael drwy tair brif wefan: Proquest,VLeBooks ac EBSCO. Bydd y tabiau hyn yn dweud ychydig yn rhagor i chi am y tair prif gronfa ddata. I logio i mewn, defnyddiwch eich rhif myfyriwr 6 digid fel eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol. 

Llyfrgelloedd eraill

Efallai y dewch o hyd i eitemau o ddiddordeb (e.e. llyfrau am farchnata, cysylltiadau cyhoeddus a’r cyfryngau cymdeithasol) yn Llyfrgell y Bae.  Os ydych eisiau benthyg eitemau o lyfrgelloedd eraill, gofynnwch wrth ddesg y llyfrgell rydych yn ei defnyddio.  Gallwch hefyd wneud cais trwy iFind (bydd yr eitemau ar gael i chi eu casglu'r diwrnod ar ôl i chi wneud y cais ar ddyddiau’r wythnos).