Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf ym meysydd busnes, economeg a chyllid
Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe fynediad am ddim i’r archifau papur newydd isod yn ychwanegol at y safleoedd sydd ar gael yn unrhyw le arall ar y Rhyngrwyd. Mae dolenni i’r holl adnoddau papur newydd a danysgrifiwn (yn ychwanegol i rai adnoddau am ddim ar y we) yn iFind.
The Financial Times - un o sefydliadau newyddion busnes mwyaf blaenllaw'r byd. Mae'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei awdurdod, ei uniondeb a'i gywirdeb. Mae'n darparu newyddion, sylwadau, data a dadansoddiad hanfodol i'r gymuned fusnes fyd-eang.
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Mae’r safle UKPressOnline yn rhoi mynediad i destun llawn (ffacsimilïau tudalen lawn) i'r Daily Express o 1900 hyd heddiw. Mae’n cynnwys hefyd y Sunday Express a Daily Star (o 2000 hyd heddiw) a Star Sunday (o 2002 hyd heddiw). Gellir gweld pob rhifyn fel y byddai wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol (ynghyd â ffotograffau, lluniau, hysbysebion etc.).
Mae Welsh Newspapers Online yn cynnig mynediad am ddim i thua 120 o bapurau newydd Cymreig gan ddyddio’n ôl i 1919. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o The Cambrian rhwng 1804 a 1910.
Mae’r cynnig yn rhoi mynediad at destun llawn papurau newydd, gwefannau newyddion a blogiau gan gyhoeddwyr blaenllaw drwy’r byd. Mae’n cynnwys ffeil wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, gan ddarparu mynediad at erthyglau, colofnau, erthyglau golygyddol, coflithoedd a nodweddion a gyhoeddwyd ym mhob papur. Mae’r papurau newydd mawr yn cynnwys y New York Times, Wall Street Journal, Chicago Tribune, Washington Post, USA Today, Los Angeles Times, Boston Globe, The Guardian a llawer mwy o deitlau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Adnodd sy’n croes chwilio Casgliad Burney o’r 17eg-18fed Ganrif, Cyfnodolion y DU o’r 19eg Ganrif, Papurau Newydd y Llyfrgell Brydeinig, Picture Post ac Archif Ddigidol The Times.