I gyrchu Mendeley Online, bydd angen i chi gofrestru gyda Mendeley. Bydd cofrestru’n creu eich Llyfrgell Mendeley Online yn awtomatig. I allforio cyfeiriadau i Word, rhaid i chi osod Mendeley Cite. Mae’r dudalen hon yn cynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio Mendeley ar gael yn llyfrau gwaith Mendeley Online a fideos cyfarwyddiadau Mendeley. Mae Mendeley Online yn cydamseru â fersiwn bwrdd gwaith Mendeley.
Ewch i http://www.mendeley.com
Pan fyddwch chi'n cofrestru am Mendeley, rydym yn argymell peidio â defnyddio cyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe. Efallai y cewch neges gwall sy'n dechrau "It looks like you are trying to sign in using your institution’s Shibboleth account."
Bydd angen i chi lawrlwytho offeryn dyfynnu Mendeley.
Clickiwch Download Mendeley Cite.
Mae modd defnyddio’r ddau fersiwn a’u cysoni â’i gilydd.
Os oes gennych gyfeiriadau’n barod yn un o’ch llyfrgelloedd, byddai’n ddefnyddiol gwylio’r fideo o’r tiwtorial isod i sicrhau na chewch unrhyw wrthdrawiadau.