Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Lechyd a Meddygaeth

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Iechyd a Meddygaeth

Printed extract from report praising work of nurses.

Mae Archifau Richard Burton yn dal casgliadau amrywiol o'r cyfnod cyn creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac wedi hynny, sy'n berthnasol i hanes meddygaeth, iechyd a phroffesiynau cysylltiedig amrywiol. Mae'r rhain yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

  • sefydliadau, megis cymdeithasau nyrsio
  • rolau proffesiynol, gan gynnwys nyrsio ac ymarfer cyffredinol
  • meddyginiaethau a phresgripsiynau

Cofnod o adroddiad blynyddol a mantolen Cymdeithas Nyrsio Clydach, 1931 (cyf. LAC/92/R/6)

Mudiadau Gwirfoddol /Tanysgrifio

Cymdeithasau Llesiant a Meddygol

Yn enwedig cyn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gael ei sefydlu, roedd cymdeithasau llesiant a meddygol yn galluogi pobl i wneud darpariaeth ar gyfer gofal iechyd a chymorth. Gallai unigolion, dynion fel arfer, gyflwyno cais i gael eu derbyn fel aelodau, ac weithiau gallai hyn gynnwys eu gwragedd neu eu gwŷr a'u teuluoedd hefyd. Pe cawsent eu derbyn fel aelodau, byddent yn talu cyfraniad rheolaidd i'r gymdeithas, fel y gallent ofyn am gymorth nes ymlaen pe bai ei angen arnynt. Byddai gan y cymdeithasau reolau a rheoliadau, y byddai rhai ohonynt yn llywio penderfyniadau moesol yn ogystal â rhai meddygol.

  • Llyfr cofnodion Cymdeithas Feddygol Bedlinog, 1912-1912 a 1920-1932, a chytundebau yn penodi meddygon (cyf. SWCC/MNA/PP/119)
  • Tystysgrifau meddygol o Gyfrinfa Bodwigiad - Cambrian Hen Undod yr Odyddion, Hirwaun, 1927-1972 (cyf. SWCC/MNA/NUM/I/7/17)
  • Manylion budd-daliadau salwch ar gyfer Cyfrinfa Sibrwd Rhondda Undod Iforiaid Dewi Sant, 1892-1893 (cyf. SWCC/MNA/NUM/I/34/98) 
  • Gohebiaeth ynghylch hawliadau am fudd-daliadau salwch ar gyfer Cymdeithas Llesiant Glais Iforiaid Dewi Sant SWCC/MNA/NUM/I/34/159-160) 

Undebau Llafur

Bu Ffederasiwn Glowyr De Cymru, yn ddiweddarach Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru), yn trefnu ac yn cefnogi mathau gwahanol o ddarpariaeth iechyd, gan gynnwys ambiwlansys, nyrsio, ysbytai a chyfleusterau adsefydlu, gan gynnwys 'cartrefi' ym Mhorthcawl, Talygarn ger Pontyclun a Bournemouth. Mae enghreifftiau o Gasgliad Maes Glo De Cymru yn yr Archifau yn cynnwys:

  • Papurau ariannol sy'n ymwneud â didyniadau ar gyfer Cronfa Llesiant Cyfrinfa Coegnant, 1967-1969 (cyf. SWCC/MNA/NUM/L/23/60) a Chronfa Angladdau ac Ambiwlansys Coegnant, 1967-1969 (cyf. SWCC/MNA/NUM/L/23/62)
  • Gohebiaeth ynghylch treuliau meddygol, 1935-1938 (cyf. SWCC/MNA/NUM/3/5/21)
  • Gohebiaeth rhwng Cyfrinfa Oakdale Navigation a phwyllgorau rheoli ysbyty amrywiol ynghylch cyfleusterau ysbyty a sut maent yn effeithio ar y glowyr yn Oakdale, gan gynnwys copi o gynigion Bwrdd Ysbytai Cymru (1973) a chopi o adroddiad blynyddol Ysbyty Gweithwyr Oakdale (1939), 1939-1977 (cyf. SWCC/MNC/NUM/L/94)
  • Ffotograff o lowyr a staff y tu allan i Gartref Gorffwys y Glowyr Court Royal, Bournemouth, 1961 (cyf. SWCC/PHO/NUM/6/2)

Exterior of large residential building.

Cerdyn post yn dangos tu blaen Cartref Gorffwys y Glowyr Talygarn (cyf. SWCC/PHO/NUM/6/11/2)

Cartref Gorffwys y Glowyr Talygarn

Ym 1923, prynodd Pwyllgor Llesiant Glowyr De Cymru y tŷ a'r tiroedd ger Pontyclun gan Wyndham Damar Clark, gan ei drawsnewid yn gartref gwella i lowyr ac yn ddiweddarach, yn gartref adsefydlu ar gyfer gweithwyr glo. Mae eitemau sy'n berthnasol i Dalygarn yn y casgliadau'n cynnwys:

  • Cyfres o gardiau post â golygfeydd o'r ochr ddeheuol, yr ochr ogleddol a'r teras; y lolfa; yr ystafell ysgrifennu a'r llyfrgell; y neuadd fwyta; y tŷ gwydr; y neuadd gyngherddau; y prif goridor; nenfwd wedi'i baentio; Talygarn Anti-Pessimists (difyrwyr?), tua 1923 (cyf. SWCC/PHO/NUM/6/11/2)
  • Tystysgrifau meddygol Cyfrinfa Caerau ar gyfer derbyn i gartrefi gorffwys Porthcawl a Thalygarn, 1909-1933.
  • Adroddiadau blynyddol, adroddiadau chwarterol llawfeddygon, cofnodion pwyllgor rheoli, agendâu a chylchlythyron a phapurau eraill a ddefnyddiwyd gan David 'Dai' Francis (cyf. SWCC/MNA/PP/35/24-33) yn ogystal â'r rhai a gedwir gan Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru) (cyf. SWCC/MNA/NUM/3/5/32)
  • Cofrestr cleifion, 1924-1936 (cyf. SWCC/MNA/NUM/3/5/31)

Nyrsio a Chymdeithasau Nyrsio

Mae gan yr Archifau amrywiaeth o eitemau sy'n berthnasol i nyrsio drwy gydol y casgliadau. Yn ogystal â deunydd sy'n ymwneud â chymdeithasau nyrsio, ceir nifer sylweddol o ffotograffau yng Nghasgliad Raissa Page sy'n ymwneud ag ysbytai, staff nyrsio a meddygon yn yr adran sy'n ymwneud ag iechyd meddygol.

Cymdeithasau Nyrsio

  • Cerdyn cyfraniadau yn perthyn i H W Currie, ar gyfer Cymdeithas Nyrsio Ardal Abercynon ac Ynysboeth, 20fed ganrif (cyf.SWCC/MNA/PP/9/4/1)
  • Adroddiad blynyddol a mantolen Cymdeithas Nyrsio Clydach, 1931 (cyf. LAC/92/R/6)

Casgliad Henry Leyshon (cyf. LAC/64)

Roedd Mr Henry Leyshon o Abertawe yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Nyrsio Ardal East Side 1906-1912. Sefydlwyd y gymdeithas ym 1905 pan benodwyd y nyrs ardal gyntaf. Yn ddiweddarach, bu Henry Leyshon yn Gadeirydd y Gymdeithas, 1913-1919, ac yn Drysorydd er Anrhydedd, 1914-1940. Mae'r casgliad yn cynnwys:

  • Adroddiadau blynyddol a chyfrifon Cymdeithas Nyrsio Ardal East Side, 1905-1940 (ac eithrio 1923) (cyf.LAC/64/7)
  • Crynodeb o waith a wnaed gan nyrsys ardal yn East Side Abertawe, 1905-1935 (cyf.LAC/64/8)

Meddyginiaethau gwerin, meddyginiaethau a phresgripsiynau

Gall archifau ddatgelu llawer am y meddyginiaethau gwerin a'r meddyginiaethau a ddefnyddid yn y gorffennol. Gall y rhain fod ar ffurf cofnodion fferyllwyr ac ymarferwyr meddygol eraill, yn ogystal â chofnodion anfeddygol, megis papurau eglwysi a chartrefi:

  • Llyfr adroddiadau Dr J Roberts, meddyg o Picton Villa, Abertawe, am archwiliadau meddygol at ddibenion yswiriant a nodiadau am bresgripsiynau meddygol, tua 1898-1920 (cyf. LAC/125/12)
  • Nodiadur fferyllol, tua 1875 (cyf. LAC/6/6)
  • Nodiadur wedi'i rwymo â memrwn yn cynnwys emynau, traethodau defosiynol, presgripsiynau meddygol ac eitemau eraill, tua 1808-1813, (cyf. LAC/99/H/1)
  • Meddyginiaeth werin ar gyfer clwyf y marchogion/haemoroidau o nodiadur o bregethau, tua 1900 (cyf. SWCC/MNC/PP/32/2)

Handwritten recipe for cold remedy.

'A much approved Recipe for a violent Cold' o 'The Pennsylvania Town and Country-Man’s Almanack' ar gyfer 1768 a gedwid gan William Dillwyn (cyf. LAC/26/B/7)

Oriel delweddau

Cover of printed programme for opening of Swansea Hospital.

Trefn gwasanaeth ar gyfer Seremoni Agoriadol Ysbyty Newydd Abertawe, 27 Hydref 1869 (cyf. LAC/17/1)

Printed order of service for the opening ceremony of Swansea New Hospital.

Trefn gwasanaeth ar gyfer Seremoni Agoriadol Ysbyty Newydd Abertawe, 27 Hydref 1869 (cyf. LAC/17/1)

Printed silk playbill advertising theatrical performance.

Poster ar gyfer Ebley's Olympic Theatre, Ebrill 1892 (cyf. LAC/106/E/22)

Printed leaflet.

‘Health Hints to Miners’ y Gymdeithas Addysg Iechyd Diwydiannol (ref. SWCC/MNC/17)

Illuminated dedication to Nurse James.

Cyflwyniad addurnedig i Nyrs James ar adeg ei hymddeoliad ym 1922, ar ôl bron 20 mlynedd o wasanaeth, gan weithwyr Glofeydd a Gweithfeydd Golosg Llanbradach.

Cover of printed report and accounts.

Adroddiad a chyfrifon Cymdeithas Nyrsio Ardal East Side ar gyfer 1910 (cyf. LAC/64/7)

Printed rules.

Rheolau Cymdeithas Nyrsio Ardal East Side, 1910

Oriel - Raissa Page

Two women discussing diet in GPs surgery.

Ffotograff gan Raissa Page: 'Surgery, Oxford "Health: discussing diet with patient as part of "health MOT".', 1987 (cyf. DC3/28/1/8)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Male hospital porter and female nurse moving hospital bed with male patient.

Ffotograff gan Raissa Page: "GB Hospital Porter", 1980au (cyf. DC3/28/1/37)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Female GP talking with older male patient in his home.

Ffotograff gan Raissa Page: "GP visiting pensioner (83) at home, Tower Hamlets" (cyf. DC3/28/1/49)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Three female nurses.

Ffotograff gan Raissa Page o nyrsys yn Ysbyty Homerton (cyf. DC3/28/1/29)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Doctors' marching and carrying banners during strike demonstration.

Ffotograff gan Raissa Page: "Doctors strike demo Jerusalem 13.4.83" (cyf. DC3/5/3/41)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton

Ymarfer Cyffredinol

Mae deunydd am gyflogaeth a gwaith meddygon, cyn cyfnod creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac wedi hynny ar gael yng nghasgliadau'r Archifau:

  • Cyfres o ffotograffau a dynnwyd gan Raissa Page o feddygon teulu yn gweithio yn eu meddygfeydd a'r tu allan iddynt (cyf. DC3/28/1/4-12) 
  • Cerdyn cyfraniadau yn perthyn i H W Currie ar gyfer ei feddyg, Dr W R Thomas, Abercynon, 1937 (cyf. SWCC/MNA/PP/9/4/2)
  • Cytundeb rhwng Pwyllgor Meddygol Bedlinog a Dr E L N Hopkins sy'n penodi Dr Hopkins yn Feddyg i gyflogeion Keen and Nettlefolds Ltd, 1908 (cyf. SWCC/MNA/PP/119/3)
  • Rhestrau ymweld/triniaeth Dr J M Wilson, mewn dyddiaduron meddygol o 1920, 1927-1928 (cyf. SWCC/MNB/PP/67/13-14)
  • Llythyron ynghylch penodi Dr H T Thomas yn feddyg i R T Crawshay, ynghyd â biliau meddygol, 1878-1879 (cyf. LAC/20/25)

Ysbytai

Ceir mathau amrywiol o gofnodion mewn perthynas ag ysbytai a enwir a rhai anhysbys yn ne Cymru yn y casgliadau:

  • Mantolen ar gyfer Ysbyty Gweithwyr Powell Duffryn, Aberbargoed, 1938 (cyf. SWCC/MNA/NUM/I/32/1)
  • Cofnodion ariannol ar gyfer Ysbyty Aberpennar a Phenrhiwceiber, 1925-1948 (cyf.SWCC/MNB/I/7)
  • Trefn gwasanaeth ar gyfer agor Ysbyty Newydd Abertawe, 27 Hydref 1869 (cyf. LAC/15/1)
  • Posteri sidan yn hyrwyddo perfformiad o 'The Arabian Nights or a Day with Mother-in-Law' ac 'A Dead Shot' a datganiad er budd yr ysbyty bach, 1906 (cyf.LAC/106/E/16/1-2)
  • Llyfr cyfrifon rhoddion cronfa ysbyty ac ambiwlans Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru), ysbyty Cyfrinfa Crefftwyr Tondu, 1938-1963 (cyf. SWCC/MNC/NUM/L/32/7)
  • Adroddiadau blynyddol Ysbyty Cyffredinol Maesteg a'r Ardal, 1937, 1941 a 1944 yn nghasgliad Cyfrinfa Coegnant (cyf.SWCC/MNA/NUM/L/23/160)

Coloured postcard of hospital with ornate framing.

Llun o'r ysbyty, Abertawe, dechrau'r 20fed ganrif (cyf. SWCC/PHO/TOP/1/79/1)

Tramor

Yn y casgliadau yn yr Archifau, ceir dogfennau sy’n ymwneud â meddygaeth ac iechyd dramor, yn enwedig mewn perthynas â Rhyfel Cartref Sbaen. Mae'r eitemau'n cynnwys:

  • Cylchlythyr yn apelio am roddion ar gyfer Ysbyty Stalingrad newydd, er cof am y Cymry a fu farw yn Sbaen, tua 1944 (cyf. SWCC/MNB/PP/6/1)
  • Ffotograffau o streic meddygon yn Israel, 1983 (cyf. DC3/5/3/41)
  • Taflenni rhydd o doriadau papurau newydd amrywiol, wedi'u hysgrifennu gan J Williams Hughes, rhai yn ymwneud â'i brofiadau yn Rhyfel Cartref Sbaen fel aelod o Uned Ambiwlansys Cymru, 1936-1937 (cyf. SC/324)
  • Llythyron wedi'u hysgrifennu gan Douglas Hyde ynghylch Cymorth Meddygol i Sbaen a Chronfa Ambiwlansys Cymru, 1937 (cyf. SC/751)

Ambiwlansys

Yn yr Archifau ceir amrywiaeth o eitemau mewn perthynas â darparu a gweithredu ambiwlansys drwy gydol y casgliadau. Ceir eitemau mewn perthynas ag ambiwlansys glofeydd, yn ogystal â thimau achub, Ambiwlans Sant Ioan a mathau o wasanaeth ambiwlans.

Group of standing and seated men in ambulance uniform with list of names beneath.

Ambiwlans Sant Ioan

  • Llyfr cofnodion Is-adran Pontygwaith Brigâd Ambiwlans Sant Ioan, 1939-1949, gohebiaeth amrywiol 1944-1960, biliau a derbynebau amrywiol, 1944-1953 (cyf. SWCC/MNB/I/12)
  • Cerdyn cyfraniadau'n perthyn i H W Currie ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Sant Ioan, 1948 (cyf. SWCC/MNA/PP/9/4/6)
  • Ffotograff o dîm Ambiwlans Sant Ioan Creunant yn sefyll y tu allan i Neuadd ac Institiwt Cyhoeddus Pentref Creunant, 1939 (cyf.SWCC/PHO/REC/2/61)

Ffynonellau ym Mhrifysgol Abertawe

Baner glowyrHelp in time of need”: Llyfrgell Glowyr De Cymru