Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Anghydfodau Diwydiannol a Streiciau

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Anghydfodau Diwydiannol a Streiciau

Large group of people with protest signs.Mae Archifau Richard Burton yn ffynhonnell wych ar gyfer astudio anghydfodau diwydiannol a streiciau, yn enwedig yn y diwydiant mwyngloddio. Mae casgliadau Maes Glo De Cymru yn cwmpasu'r rhan fwyaf o'r anghydfodau mawr a llai o faint, o safbwynt y gweithiwr drwy eu deunyddiau undeb llafur. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cofnodion swyddogol a phapurau ariannol Undeb Cenedlaethol y Glowyr (a sefydliadau undeb cysylltiedig eraill )
  • Casgliadau personol
  • Ffotograffau
  • Toriadau newyddion

Mae'r Archifau hefyd yn cadw casgliadau busnes sy'n aml yn cofnodi digwyddiadau o'r fath, a'r effaith ar y cwmni.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

Streic Gyffredinol 1926

Ym 1926 daeth Comisiwn Brenhinol i'r casgliad bod angen ad-drefnu diwydiant glo Prydain. Roedd perchnogion pyllau yn bwriadu torri cyflogau glowyr ac estyn oriau gwaith, ac roedd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr wedi brwydo yn erbyn y cynigion hyn gyda’r slogan ‘Not an hour on the day. Not a penny off the pay’. Ar 30 Ebrill 1926, cafodd y glowyr a wrthododd y toriadau eu cloi allan a daeth meysydd glo Prydain i stop.

Galwodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) ar bob undebwr llafur i streicio a, rhwng 3 a 12 Mai, daeth y rhan fwyaf o weithlu Prydain allan ar streic i gefnogi'r glowyr. Ar 12 Mai, dychwelodd yr undebau eraill i'r gwaith wrth i'r TUC gytuno ar delerau gyda'r Llywodraeth. Gwrthododd Ffederasiwn y Glowyr y cynigion a pharhaodd y glowyr gyda’r streic am chwe mis nes i newyn eu gorfodi yn ôl i'r gwaith.

Group of men, women and children with two pots and an urn.

Staff Pwyllgor Ffreutur Dyffryn yn ystod Streic Gyffredinol 1926 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/44)

Llyfrau Cofnodion

  • Deunydd cyfrinfeydd megis llyfrau cofnodion neu gofnodion ariannol, e.e. llyfr arian parod Cyfrinfa Cambrian sy'n manylu ar dâl streic a chofrestr o ddynion a oedd yn cael eu bwydo mewn ffreuturau cymorth ac aelodau a oedd â hawl i dalebau bwyd (Cyf. SWCC/MNA/NUM/L/20)
  • Cofnodion y Gymdeithas Les, e.e. cofnodion Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr Abergorci (Cyf. SWCC/MNB/I/3) a Chronfa Trallod Maesteg (Cyf. SWCC/MNA/I/21)

Casgliadau Personol

  • Bryn Williams (Cwm): yn cynnwys cofnodion Cyfrinfa Cwm Llanilltud yn ymwneud yn bennaf â streicio piced a’i draethawd ar gyfer cystadleuaeth Eisteddfod y Glowyr, ‘My experiences at the picket line’ (Cyf. SWCC/MNA/PP/126)
  • D.J. Williams: yn cynnwys bwletinau’r Streic Gyffredinol a gyhoeddwyd gan Gyngres Undebau Llafur yr Alban a Chyngor Masnach a Llafur Dunfermline (Cyf. SWCC/MNB/PP/60)
  • Edgar Evans: deunydd yn ymwneud â Chyngor Gweithredu Bedlinog gan gynnwys llyfr cofnodion a cherdyn aelod, 1926-1929 (Cyf. SWCC/MNA/PP/24)
  • H.D. Williams: llythyr drafft at 'The Miner' ar streic 1926 (Cyf. SWCC/MNB/PP/63/13)

Deunydd Arall

  • Cofnodion Sefydliad Addysgol Maes yr Haf: fe’i sefydlwyd ym 1927 mewn ymateb i broblemau diweithdra a thlodi yn y Rhondda yn ystod y Streic Gyffredinol ac ar ei hôl. Yn cynnwys adroddiadau blynyddol, erthyglau, taflenni a phamffledi (Cyf. SWCC/MNA/I/24
  • Papurau Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) gan gynnwys Cyfrif Cronfa Gymorth Ffederasiwn Glowyr De Cymru (Cyf. SWCC/MNB/NUM/2/15)
  • Papurau newydd gwleidyddol: argraffiadau o’r Mid-Sussex Times a The British Gazette am y streic, 8 Mai 1926 (Cyf. 2013/23)

Oriel - Streic Gyffredinol 1926

Large group of police standing and seated by pit head.

Aelodau o Heddluoedd Brighton, Dorset a Morgannwg a wasanaethodd mewn gwahanol ardaloedd yn ystod streic 1926 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/50)

Group of men, women and children with two pots and an urn.

Staff Pwyllgor Ffreutur Dyffryn yn ystod streic 1926 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/44)

Group of men with boot repair equipment, and some children..

Glowyr ar streic yn nepo trwsio esgidiau Nantyffyllon yn ystod y cyfnod cloi allan yn 1926 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/46)

Group of people, mostly made up of men.

Pwyllgor Cegin Cawl Castell-nedd yn ystod streic 1926 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/48)

Gorymdeithiau Newyn

Poster advertising a demonstration.

Rhwng 1921 a 1936, caeodd 241 o lofeydd yn ne Cymru a gostyngodd nifer y glowyr o 270,000 i 130,000. Dinistriodd effaith y dirwasgiad bob agwedd ar fywyd yn y maes glo, gan arwain at dair gorymdaith newyn o dde Cymru i Lundain ym 1927, 1934 a 1936. Dechreuodd Gorymdaith Newyn genedlaethol i Lundain ym mis Hydref 1932; cymerodd 2,500 o orymdeithwyr ran, o bob rhan o Brydain, gan gynnwys 375 o dde Cymru.

Cynhaliwyd yr Orymdaith Newyn olaf a’r un fwyaf cynrychiadol i adael de Cymru ym mis Hydref 1936 gyda 504 o orymdeithwyr. Roedd gan yr orymdaith gefnogaeth swyddogol Ffederasiwn Glowyr De Cymru a'r Blaid Lafur, gyda chyrff crefyddol a dinesig hefyd yn mynegi cefnogaeth.

Poster yn hysbysebu gwrthdystiad 'Red Sunday in Rhondda Valley' ar 18 Medi 1927 (Cyf. SWCC/PHO/ED/2/32)

W. Eddie Jones (Cwmbrân) 

Casgliad o ddeunydd sy'n gysylltiedig â Gorymdaith Newyn 1936 a diweithdra yn y 1930au. Mae'n cynnwys:

  • Llythyr oddi wrth W. Morgan o Gwmni 'A', Gorymdeithwyr Trefynwy yn Camberwell, yn disgrifio Gwrthdystiad Llundain, 10 Tachwedd 1936 (Cyf. SWCC/MNA/PP/67/5)
  • Cerdyn adnabod swyddogol Gorymdeithiwr, W E Jones o Bont-y-pŵl, 1936 (Cyf. SWCC/MNA/PP/67/9)
  • Llyfr nodiadau sy'n cynnwys nodiadau am yr orymdaith a 'Report and Diary of March to London', 25-29 Hydref 1936 (Cyf. SWCC/MNA/PP/67/9)

Disgrifiad o'r casgliad: E. Eddie Jones (Cwmbrân) (Cyf. SWCC/MNA/PP/67))

J.S. Williams (Dowlais)

Gwasanaethodd J S Williams ar Ddosbarth De Cymru Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr, ac roedd yn aelod o Fudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith a Mudiad Addysgol y Gweithwyr. Mae ei bapurau personol yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â’r Gorymdeithiau Newyn ym 1931, 1934 a 1936, yr oedd ganddo rôl weithredol ynddyn nhw i gyd. Mae'n cynnwys:

  • Mantolen o Gronfa Ganolog yr Orymdaith Newyn Genedlaethol, 1932 (Cyf. SWCC/MNB/PP/64/D/1)
  • Adroddiad Cyngor Gorymdeithwyr Bwrdeistref Merthyr; gan gynnwys cyfrifon Gorymdaith Newyn De Cymru, 1934 (Cyf. gSWCC/MNB/64/D/2)

Disgrifiad o'r casgliad: J.S. Williams (Dowlais) (Cyf. SWCC/MNB/PP/64))

Anghydfodau’r Diwydiant Tunplat

Old Castle Tinplate Company Limited 

Mae adroddiadau Cyfarwyddwyr, llyfrau cofnodion a chofnodion cyflog yn manylu ar weithredu diwydiannol ac anghydfodau undebol o safbwynt y cwmni, gan gynnwys cyfnodau cloi allan ym 1874, 1894 a 1895.

Ar raddfa lai, mae'r casgliad hefyd yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â streic gan grŵp o fechgyn rholio oer ym 1899. Cerddodd Amos James allan ar ôl cael ei anwybyddu ar gyfer dyrchafiad (yn ôl pob tebyg oherwydd ei ddiffyg gallu). Ymunodd rhai o'r bechgyn rholio oer eraill ag ef i'w gefnogi. Mae'r cofnodion yn y casgliad yn cynnwys adroddiad fesul dydd  o'r anghydfod, cytundeb y bechgyn i ddychwelyd i'r gwaith ac ymddiheuriad a lofnodwyd gan Amos James. Roedd yn ofynnol i'r bechgyn dalu am golled elw’r Old Castle Tinplate Company ac am achosion llys.

Handwritten declaration.

Datganiad gan Amos James, 9 Medi 1899 (Cyf. LAC/87/D/8)

Streic y Glowyr 1984-1985

Group of people holding a large red banner.Roedd Streic y Glowyr rhwng 1984 a 1985 yn un o'r anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw a welodd Prydain erioed. Y catalydd oedd cyhoeddiad y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) ar 6 Mawrth 1984 ei fod yn bwriadu torri’r capasiti cenedlaethol o 4 miliwn tunnell a chau 20 pwll gan golli 20,000 o swyddi. Roedd y streic a barodd flwyddyn yn cynnwys caledi a thrais wrth i gymunedau’r pyllau glo o dde Cymru i'r Alban frwydro i gadw eu pyllau glo lleol.

Cwmni a baner Cyfrinfa Glynrhedynog mewn gwrthdystiad yn Llundain yn ystod Streic y Glowyr 1984-1985, 24 Chwefror 1985. Hawlfraint Norman Burns (Cyf. SWCC/PHO/DIS/105)

  • Gohebiaeth, cofnodion, derbynebau a phapurau eraill yn ymwneud â chymorth yn ystod y streic, gan gynnwys Grŵp Cymorth Menywod Abergwynfi a Blaengwynfi; Pwyllgor Streic Rhydaman; Cronfa Fwyd Gwent; Grŵp Cefnogi Glowyr Castell-nedd a'r Cylch; a Chyngres Cymru i Gefnogi Cymunedau Glofaol (Cyf. SWCC/MND/25/1)
  • Papurau personol David Sutton: yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â Grŵp Cefnogi Glowyr Dyffryn Rhymni a gododd filoedd lawer o bunnoedd mewn arian parod a bwyd i deuluoedd glowyr a oedd ar streic (Cyf. SWCC/MNC/PP/28)
  • Cylchlythyrau, taflenni ac ati sy'n ymwneud â Streic y Glowyr 1984-5 (Cyf. SWCC/MND/8/1)
  • Deunydd cyfrinfeydd megis llyfrau cofnodion neu gofnodion ariannol sy'n cwmpasu cyfnod y streic e.e. Cyfrinfa Oakdale Navigation (Cyf. SWCC/MNC/NUM/l/25) a Chyfrinfa Penallta (Cyf. SWCC/MNC/NUM/L/27)
  • Papurau Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) gan gynnwys pamffled yn ymwneud â budd-daliadau a hawliau glowyr ar streic (Cyf. SWCC/MNC/NUM/3/19) a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol ac adroddiad y Gynhadledd Dirprwyon Arbennig, Tachwedd-Rhagfyr 1984 (Cyf. SWCC/MNC/NUM/373)

Four women wearing aprons and a child walking forward.

'We made them ourselves': “Souper women” Windhill a Woolley Edge, aelodau o Grŵp Gweithredu Gwragedd Glowyr Barnsley yn ystod streic 84-85. Hawlfraint Adrianne Jones [Cyf. DC3/6/1/120]

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

Casgliadau ffotograffig

  • Casgliad Martin Shakeshaft: mae ffotograffa  Martin Shakeshaft, sef ffotonewyddiadurwr a oedd yn rhoi sylw i streic 1984-1985, ar gael i'w gweld ar-lein, gan gynnwys oriel ffotograffau Strike84 ac arddangosfa trem yn ôl Look Back in Anger. Mae'r ffotograffau yn y casgliad yn cynnwys:
    •  
    • golygfeydd o wrthdystiadau lle mae menywod, plant a glowyr yn cymryd rhan
    • Margaret Thatcher yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol
    • Arthur Scargill yn rali'r glowyr yn Nhreorci ac yng Nghynhadledd y TUC yn Brighton
    • golygfeydd o drais y tu allan i weithfa glo golosg Orgreave
    • streicwyr yn picedu Gwaith Dur Port Talbot a Glofa Marine
    • glowyr ar streic yn codi glo o'r tomennydd
    • gwragedd glowyr yn paratoi pecynnau bwyd. (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)
  • Lluniau o’r streic o gasgliad personol Kim Howells: dros 150 o luniau’n dangos gwrthdystiadau, cyfarfodydd, dyletswydd picedu a dosbarthu bwyd i lowyr ar streic. Mae’r ffotograffau hefyd yn cynnwys cloriau cylchlythyrau a rhaglenni digwyddiadau a drefnwyd i godi arian a chefnogaeth i’r glowyr ar streic. (Cyf. SWCC/PHO/PC/9/3)
  • Albwm ffotograffau a gyflwynwyd i Lowyr De Cymru gan Gefnogwyr Southampton (Cyf.  SWCC/PHO/DIS/107)
  • Lluniau a dynnwyd gan y ffotograffydd proffesiynol o'r Iseldiroedd, Rob Huibers, yn y Rhondda, yn dangos tirweddau’r cymoedd, eu haneddeddau, y pyllau glo a’r glowyr, plant, grwpiau menywod yn gorymdeithio yn erbyn cau pyllau ac i gefnogi glowyr ar streic, ac ati. Mae'r cymunedau a ffotograffwyd yn cynnwys Maerdy, Blaenllechau a Glynrhedynog (Cyf. SC/713)
  • Casgliad Raissa Page: mae'r casgliad yn cynnwys lluniau a dynnwyd yn ystod y streic (Cyf. DC3/6), lle'r oedd y ffotograffydd dogfennol Raissa yn dilyn gorymdeithiau a gwrthdystiadau ledled Prydain. Maent yn cynnwys llawer o ddelweddau o fenywod yn ystod y streic gan iddi dreulio amser gyda grwpiau gwragedd y glowyr, ac maent hefyd yn cynnwys rhai lluniau a dynnwyd mewn pyllau a phentrefi pyllau ac o’u hamgylch yn ystod y cyfnod yn union ar ôl y streic (oddeutu 1985-1987). Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys cyfres o luniau o wrthdystiadau gwleidyddol, anghydfodau diwydiannol a gweithgarwch Undebau Llafur yn y DU (Cyf. DC3/24)

Oriel - Martin Shakeshaft, Streic y Glowyr 1984-1985

Empty chairs outside a colliery with a sign with a skull and crossbones on it.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Two men with sacks of potatoes and tins behind them.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Four people wearing mining helmets with a sign that says ‘coal for Britain not dole for miners’.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Outside of a coal mine.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Group of women holding a sign that says ‘The Maerdy Womens Support Group, your fight is our fight’.

Hawlfraint: Martin Shakeshaft (Cyf. SWCC/PHO/DIS/106)

https://martinshakeshaft.com/strike84/

Anghydfodau eraill y meysydd glo

Anghydfodau glowyr 1910-11, gan gynnwys Tonypandy

  • Copïau o erthyglau papur newydd o tua 1960 yn edrych yn ôl ar brofiadau William Henry Knipe fel heddwas ar ddyletswydd streic yn ystod Terfysgoedd Tonypandy (Cyf. SWCC/MNA/PP/70)
  • Ffotograffau o streicwyr, gwarchodlu’r heddlu ac ati (Cyf. SWCC/PHO/DIS/2-28)

Streiciau’r Glowyr 1972 a 1974

  • Ffotograffau o wrthdystiadau (Cyf. SWCC/PHO/DIS/87-93)
  • Toriadau papur newydd yn rhoi sylw i streic 1972 (Cyf. SC/65)
  • Papurau Bryn Williams ar streic 1972 (Cyf. SWCC/MNA/PP/126)
  • Gohebiaeth a phapurau Pwyllgor Streic Cyfrinfa Brynlliw, 1971-1972 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/L/17)
  • Papurau amrywiol ynghylch Streic y Glowyr 1974 (SC/67)
  • Cofnodion Undeb Cenedlaethol y Glowyr a deunydd arall o gyfnod streiciau 1972 a 1974 (cyfeiriadau amrywiol)

Oriel - Menywod a Phrotestio

Gwrthdystiad ym Medlinog yn erbyn 'undeb y bradwyr', 1936 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/74)

Ffotograff o wrthdystiad yng Nghwm Rhondda sy'n dangos dynion, menywod a phlant yn cludo baneri, Ebrill 1937 (Cyf. SWCC/PHO/DIS/77)

Ffotograff o fenywod yn protestio yn erbyn Margaret Thatcher yn ystod streic 1984/5. (Cyf. SWCC/DIS/106/39)

Hawlfraint Martin Shakeshaft 

‘Here we go for the women of the working class’ - mae gwragedd glowyr yn dod â Chynhadledd Genedlaethol Gyntaf Menywod yn erbyn Cau'r Pyllau Glo i ben, Sheffield, 17 Awst 1985 (Cyf. DC3/6/1/29)

Llun gan Raissa Page. Wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Ni ddylid ei gopïo heb ganiatâd, cysylltwch ag Archifau Richard Burton.

Deunydd arall ym Mhrifysgol Abertawe

  • Llyfrgell Glowyr De Cymru - pamffledi, recordiadau hanes llafar, fideos a phosteri o Gasgliad Maes Glo De Cymru, yn ymwneud â streiciau ac anghydfodau

Deunydd a gedwir mewn mannau eraill