Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Hanes Teulu

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Teulu

Mae Archifau Richard Burton yn gartref i amrywiaeth o gasgliadau a allai fod yn berthnasol i ymchwil hanes teulu. Mae'r rhain yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

  • crefydd
  • addysg
  • bywyd gwaith a busnes

Gall ein casgliadau fod o gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth gefndirol am y cymunedau lle'r oedd eich cyndeidiau'n byw, a gallant gynnwys manylion am unigolion hefyd.

Rhan o siart achau addurnedig teulu de la Beche

Catholigiaeth Rufeinig - Priordy Dewi Sant, Abertawe

Priordy Dewi Sant yw'r eglwys Gatholig Rufeinig hynaf yn Abertawe. Fe'i hadeiladwyd ar safle eglwys gynharach a sefydlwyd tua 1808. Adeiladwyd eglwys newydd Dewi Sant gan y Tad Charles Kavanagh ym 1847, yn ogystal â'r ysgol Gatholig gyfagos ag Eglwys Dewi Sant. Daeth y rhan fwyaf o'r plwyfolion o ardal Greenhill, felly daeth hi'n hanfodol adeiladu eglwys yno ac agorwyd Eglwys San Joseff ym 1866. Ym 1873, daeth urdd fynachaidd Sant Benedict yn gyfrifol am y plwyf, a dyrchafwyd Eglwys Dewi Sant i statws Priordy Cenhadol. Ym 1875, daeth Eglwys San Joseff yn Genhadaeth annibynnol ac agorwyd eglwys newydd fwy sylweddol ym 1888. Heddiw mae'r genhadaeth wedi'i rhannu'n ddau rhanbarth, Dewi Sant a San Joseff.

Mae'r casgliad yn cynnwys:

  • cofrestri plwyf 1808-1982: bedyddiadau 1808-1910 (mynegai enwol, 1805-1950); priodasau 1840-1956 (mynegai enwol, 1930-1982); claddedigaethau 1859-1870
  • cofnodion gwasanaethau eglwys 1862-1982  
  • cofnodion Ysgol Dewi Sant 1855-tua 1983
  • deunydd sy'n berthnasol i blwyfi eraill megis Eglwys San Joseff, Greenhill 1870-1945 ac Eglwys ac Ysgol Illtud Sant, Danygraig tua 1870-1953

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y casgliad hwn ar y wefan MA Communicating History website a grëwyd gan fyfyrwyr MA o Brifysgol Abertawe. Mae'r wefan hon yn archwilio'r Eglwys, yr ysgol a'r addysg sy'n gysylltiedig â hi, straeon annisgwyl a llawer mwy.

Darn o'r dyddiadur cynharaf sy'n goroesi o hysbysiadau'r eglwys o wasanaethau Sul, 1862-1865 (Cyf. LAC/99/C/1)

Cylchdaith Fethodistaidd Abertawe a Gŵyr

Daeth Abertawe'n bencadlys y Gylchdaith Fethodistaidd Wesleaidd gyntaf yng Ngorllewin Morgannwg ym 1795. Roedd cymdeithasau Methodistiaid Gŵyr yn rhan o Gylchdaith Abertawe o 1795 tan 1864 pan sefydlwyd Cylchdaith Gŵyr ar wahân. Parodd y trefniant hwn tan 1907 pan adunwyd Gŵyr ac Abertawe. Ym 1940, dychwelodd Gŵyr i statws annibynnol ond ailymunodd ag Abertawe ym 1962. Mae'r cofnodion yn yr archif hon yn cynnwys cofnodion gweinyddol y Gylchdaith sy'n goroesi a rhai o'i chapeli cyfansoddol.

Mae'r casgliad yn cynnwys:

  • cofnodion gweinyddol, cofnodion cyfarfodydd, cofnodion ariannol, gohebiaeth, cylchlythyrau Cylchdaith Abertawe a Gŵyr, 1859-1990
  • Cofnodion Cylchdaith Gŵyr, gan gynnwys llyfrau cofnodion, cofnodion gweinyddol, cofnodion ariannol, cynlluniau pregethu'r gylchdaith a chofnodion amrywiol, 1850-1991
  • cofnodion capeli cyfansoddol amrywiol, 1843-1991

Ar gyfer cofrestri Cylchdaith Fethodistaidd Abertawe a Gŵyr, cysylltwch â Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg.

Diwydiant a Busnes

Gall cofnodion busnes a diwydiant ymddangos yn ffynonellau llai amlwg ar gyfer haneswyr teulu, ond gallant gynnwys cofnodion defnyddiol, megis cofrestri gweithwyr. Mae'r Casgliadau Archifau Lleol yn amrywiol ac maent yn cynnwys cofnodion busnes am y diwydiannau metelegol a pheirianneg, yn ogystal â busnesau eraill.

Pan oedd Leah Hewitt, myfyriwr o Brifysgol Abertawe, yn ymgymryd â lleoliad gwaith yn yr Archifau, daeth hi ar draws enghraifft ddiddorol o anghydfod diwydiannol yng nghofnodion taliadau a chyflogau Cwmni Tunplat Old Castle:

'Mae tystiolaeth o’r rhesymau dros streic 1898 gan fechgyn y felin rholio oer, ac adroddiad o ddydd i ddydd amdano, ynghyd â'u cytundeb i ddychwelyd i'r gwaith ac ymddiheuriad wedi'i lofnodi gan y bachgen a daniodd y streic. Digwyddodd y streic am fod Amos James wedi cael ei anwybyddu am ddyrchafiad unwaith eto oherwydd ei anallu. Condemniodd y gweithwyr eraill weithred y bechgyn, felly penderfynon nhw ddychwelyd i'r gwaith ond chafodd Amos Jones ddim ei ailgyflogi, felly aethant ar streic eto, ond dychwelon nhw i'r gwaith yn fuan wedyn. Canlyniad y sgarmes hon oedd y bu'n rhaid i'r bechgyn dalu am y gostyngiad yn elw Cwmni Tunplat Old Castle ac am yr achos llys. Ceir cofnod o streic arall gan fechgyn y felin rholio oer ym 1901, ond y cyfan sydd wedi'i gofnodi yw'r iawndal y bu'n rhaid i'r bechgyn ei dalu o ganlyniad i'w gwrthryfel.'

Datganiad gan Amos James, 9 Medi 1899 (Cyf. LAC/87/D/8)

Family History Gallery

Ffotograff o deulu tua 1900

Ffotograff o deulu tua 1900 (Cyf. SWCC/PHO/PC/12/1/6)

Nodiadau am hanes teulu Dillwyn

Nodiadau am hanes teulu Dillwyn (Cyf. LAC/26/A/9)

Aelodau o Grŵp Menywod Plaid Lafur Annibynnol Caerdydd yn ymgyrchu mewn Etholiad Trefol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, tua 1905

Aelodau o Grŵp Menywod Plaid Lafur Annibynnol Caerdydd yn ymgyrchu mewn Etholiad Trefol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, tua 1905 (Cyf. SWCC/PHO/PC/10/4)

Darn o raglen sioe ddoniau 'Go-As-You-Please' Gilfach Goch

Darn o raglen sioe ddoniau 'Go-As-You-Please' Gilfach Goch (Cyf. SC/629)

Ffederasiwn Glowyr De Cymru / Undeb Cenedlaethol y Glowyr

Mae Casgliad Meysydd Glo De Cymru'n cynnwys deunydd o lawer o hen siroedd Morgannwg, Sir Fynwy, Sir Gaerfyrddin a rhan o Dde Sir Benfro ac mae'n darparu darlun unigryw o fywyd cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yr ardal yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Fe'i cedwir rhwng yr archifau a Llyfrgell Glowyr De Cymru: 

  • cofnodion y prif undeb llafur, Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru), a'i ganghennau neu gyfrinfeydd (Archifau)
  • cofnodion sefydliadau eraill, gan gynnwys Sefydliadau Glowyr a Chymdeithasau Cydweithredol (Archifau)
  • casgliadau personol pobl a fu'n byw ac yn gweithio yn y Maes Glo (Archifau)
  • casgliad ffotograffig (Archifau)
  • recordiadau hanes llafar (Llyfrgell Glowyr De Cymru)
  • baneri (Llyfrgell Glowyr De Cymru)

Os oedd unigolyn yn aelod blaenllaw o'i gymuned neu undeb llafur, neu'n ymwneud â digwyddiad penodol, megis trychineb pwll glo, mae'n bosib y bydd deunydd yn cyfeirio ato yng Nghasgliad Meysydd Glo De Cymru. Gall y Casgliad fod yn ddefnyddiol iawn wrth ddarganfod gwybodaeth gefndirol am gymunedau Maes Glo De Cymru.

Cerdyn argraffedig i goffa'r 52 o lowyr a laddwyd yn Ffrwydrad Glofa Marine, sy'n cynnwys enwau a chyfeiriadau'r holl ddioddefwyr, 1 Mawrth 1927 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/J/12)

Cymdeithasau Cydweithredol

Bu presenoldeb cyson gan y Mudiad Cydweithredol yn ne Cymru ers y 1860au ac am fwy na chanrif, roedd ganddo wreiddiau dwfn mewn diwylliant lleol. Roedd y cymdeithasau'n ffenomen economaidd a chymdeithasol bwysig a chanddynt gysylltiadau agos â'r gymuned. Yn aml roedd ganddynt fywyd cymdeithasol a diwylliannol bywiog a byddent yn cynnal digwyddiadau a sefydliadau megis corau plant a chlybiau chwaraeon.

Gorslas Co-operative Society report and balance sheet for six months ended 10 November 1925
(Ref. SWCC/MND/137/2/32/2) 

Gallwch ddysgu rhagor am hanes cymdeithasau cydweithredol a’r deunydd a gedwir yn yr Archifau yn adran y Cymdeithasau Cydweithredol Deunyddiau Gwe'r Maes Glo, ac ar y wefan Wordpress a grëwyd gan fyfyrwyr MA Hanes ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o'u modiwl Communicating History.

Prifysgol Abertawe

Os oedd un o'ch cyndeidiau'n fyfyriwr neu'n aelod staff yn y Brifysgol, gall Casgliadau'r Brifysgol fod o ddiddordeb:

Edrychwch yng Nghanllaw Casgliadau'r Brifysgol am ragor o wybodaeth.

Ffotograff o'r Adran Ffiseg, 1925-26, myfyrwyr Anrhydedd (Cyf. 1996/14)

Ffynonellau Eraill

Adnoddau defnyddiol eraill yng Nghymru:

Ffynonellau Eraill ym Mhrifysgol Abertawe