Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Adloniant a Hamdden

This page is also available in English

Ffynonellau ar gyfer Hanes Adloniant a Hamdden

Mae'r casgliadau yn yr Archifau yn cadw cryn dipyn o ddeunyddiau sy'n ymwneud ag adloniant a hamdden, yn enwedig mewn perthynas â maes glo de Cymru. Gellir dod o hyd i'r dogfennau hyn mewn amryw o gasgliadau, yn ogystal ag mewn casgliad annibynnol sy'n ymwneud â theatr, ac maen nhw’n cynnwys:

  • neuaddau lles a sefydliadau
  • theatrau a sinemâu
  • cerddoriaeth a dawnsio
  • eisteddfodau, galâu a theithiau diwrnod

Cerddoriaeth

Llun o adran Cymdeithas Gorawl Ystalyfera a'r Cylch o Gôr Cymru yn sefyll y tu allan i Neuadd Frenhinol Albert ym Mherfformiad Brenhinol y Jiwbilî Frenhinol, 1935 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/16)

Corau
Math o gerddoriaeth yw corau a gysylltir yn aml â Chymru, yn enwedig felly gorau meibion, ac mae traddodiad canu corawl yn ymddangos yn y casgliadau, megis:

  • llun o adran Cymdeithas Gorawl Ystalyfera a'r Cylch o Gôr Cymru yn sefyll y tu allan i Neuadd Frenhinol Albert ym Mherfformiad Brenhinol y Jiwbilî Frenhinol, 1935 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/16)
  • rhaglen ar gyfer Cyngerdd Fawr Jiwbilî Côr Cydweithredol Canolbarth Y Rhondda, 1952 (Cyf. SWCC/MND/137/2/42/5) 
  • Cofrestr presenoldeb côr Gwaun-cae-gurwen?, 1954-1960  (Cyf. SWCC/MNA/I/18/C/25)

Bandiau Jazz
Mae'r casgliadau'n cynnwys nifer o luniau o fandiau jazz a grëwyd i godi arian ac ysbryd pobl yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad rhwng y rhyfeloedd.

Llun o Fand Jazz Tredegar mewn gwisg ffansi, enillwyr pencampwriaeth Band Jazz Cwm Rhymni, 1926 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/48)

Seindorfau Pres ac Arian
Mae'r casgliadau'n dal nifer o luniau a phapurau eraill sy'n ymwneud â seindorfau pres ac arian cymunedol, gan gynnwys:


Seindorf Bres Gwaun-cae-gurwen: Crëwyd y seindorf ym 1862 gan grŵp o ddynion lleol, llawer ohonyn nhw’n lowyr. Cyfrannodd pob aelod at gost set o offerynnau ail law. Erbyn 1898 roedd y seindorf yn cystadlu mewn cystadleuaethau ac yn ystod degawd cyntaf yr 20fed ganrif cawsant lwyddiant mawr. Cafodd y seindorf lwyddiant mewn cystadleuaethau pencampwriaethau Prydeinig, gan ennill eu hadran am y tro cyntaf ym 1934. Diddymwyd y seindorf ym 1955, ond crëwyd seindorf newydd ym 1956 ac aethon nhw yn eu blaenau i gael llawer o lwyddiannau mewn cystadleuaethau.

’Disgrifiad o’r Casgliad: Vincent Evans (Gwaun-cae-gurwen) (Cyf. SWCC/MNA/PP/31)

Dawnsio

Dawns myfyrwyr yn Nhŷ’r Undeb, 1960au © John Maltby
(Cyf. UNI/SU/AS/4/1/6/16)

Mae cyfeiriadau at ddawnsfeydd yn ymddangos trwy'r casgliadau i gyd, megis:

  • casgliad o gardiau dawns yng Nghasgliad Ruby Graham (ganwyd Joseph) (Cyf. UNI/SU/PC/5/2)
  • llun o grŵp dawns o blant a oedd yn ffoaduriaid yng Nghymru yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)
  • gwahoddiad i ddawns yn Neuadd Les Fforest-fach er budd Cymdeithas Nyrsio Fforest-fach, 1935 yng Nghasgliad Eddie Thomas (Cyf. SWCC/MNA/PP/112/3) 

Byd Theatr

Llun o olygfa o'r llwyfan yn Neuadd Goffa a Sefydliad Pontyberem, tua 1927 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/4/17/1)

Mae cofnodion llawer o'r cymdeithasau lles, sefydliadau a chyrff eraill, ynghyd â chasgliadau personol, yn adnodd cyfoethog er mwyn ymchwilio i fyd theatr. Yn ogystal â meddu ar wybodaeth am berfformiadau drama a gynhaliwyd mewn adeiladau parhaol, mae gan y casgliadau wybodaeth hefyd am fath arall o adeilad, sef y 'theatr gludadwy'. Ymhlith y mathau o gofnod a geir yn y casgliadau y mae:

  • rhaglenni ac eitemau eraill sy’n ymwneud â Theatr Fach Abertawe yng Nghasgliad Ethel Ross. Roedd gan Ethel Ross ddiddordeb drwy gydol ei hoes mewn theatr amatur, yn enwedig felly yn Theatr Fach Abertawe (Cyf. LAC/96)
  • gweithredoedd teitl sy’n ymwneud â Theatr y Palas, Abertawe, yng Nghasgliad Trafnidiaeth De Cymru (Cyf. LAC/10/2/3/1)
  • posteri ac eitemau eraill sy’n ymwneud ag adloniant a hamdden yng Nghasgliad Abertawe Ralph Wishart (Gwerthwr Llyfrau) (Cyf. LAC/125)

Casgliad Byd Theatr
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â Theatr Fach Abertawe rhwng 1933 a 1965; Cynyrchiadau Prifysgol Cymru Abertawe; y theatr yn Llundain rhwng 1825 a thua 1948; theatrau taleithiol rhwng 1821 a thua 1980; 'Y Theatr Gludadwy' 1880-1949; Dylan Thomas a'i gysylltiad â byd theatr 1932-1934; cynyrchiadau teledu; eitemau amrywiol heb ddyddiad (tua’r 18fed ganrif) a 1905-1967. I gael mwy o wybodaeth am y casgliad ewch i’r catalog ar-lein.
Catalog: Casgliad Byd Theatr (Cyf. LAC/106)

Pennawd o'r rhaglen ar gyfer perfformiad Theatr Olympaidd Ebley er budd dioddefwyr Trychineb Tondu, 1892 (Cyf. LAC/106/E/12)

Galeri - Cerddoriaeth, Dawns, Theatr

Rhaglen ar gyfer perfformiad Theatr Olympaidd Ebley er budd dioddefwyr Trychineb Tondu, 1892 (Cyf. LAC/106/E/12)

Rhaglen ar gyfer perfformiad Theatr Olympaidd Ebley er budd dioddefwyr Trychineb Tondu, 1892 (Cyf. LAC/106/E/12)

Tocyn ar gyfer 'Dawns Gwlanen' i ddathlu agoriad Neuadd Les Ystradgynlais ddydd Gwener 13 Gorffennaf 1934 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/I/41/49b)

Tocyn ar gyfer 'Dawns Gwlanen' i ddathlu agoriad Neuadd Les Ystradgynlais ddydd Gwener 13 Gorffennaf 1934 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/I/41/49b)

Dawns Myfyrwyr yn Nhŷ’r Undeb, 1960au © John Maltby (Cyf. UNI/SU/AS/4/1/6/16)

Dawns Myfyrwyr yn Nhŷ’r Undeb, 1960au © John Maltby (Cyf. UNI/SU/AS/4/1/6/16)

Rhan o boster yn hysbysebu perfformiad yn Theatr Blaenafon (Cyf. LAC/106/E/15)

Rhan o boster yn hysbysebu perfformiad yn Theatr Blaenafon (Cyf. LAC/106/E/15)

Llun o aelodau o grŵp dawns ffoaduriaid o Wlad y Basg a aeth ar daith yng nghymoedd Cymru, tua 1937-1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)

Llun o aelodau o grŵp dawns ffoaduriaid o Wlad y Basg a aeth ar daith yng nghymoedd Cymru, tua 1937-1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)

Llun o seindorf Cerddorion Perffaith Glowyr y Graig yn ystod streic lo 1926 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/36)

Llun o seindorf Cerddorion Perffaith Glowyr y Graig yn ystod streic lo 1926 (Cyf. SWCC/PHO/REC/2/36)

Detholiad o'r rhaglen ar gyfer sioe dalent 'Go-As-You-Please' Gilfach Goch (Cyf. SC/629)

Detholiad o'r rhaglen ar gyfer sioe dalent 'Go-As-You-Please' Gilfach Goch (Cyf. SC/629)

Chwaraeon

Gallwch chi weld manylion am yr amrywiaeth o gasgliadau yn Archifau Richard Burton y gellir eu defnyddio i ymchwilio i gyfleusterau, timau a gweithgareddau chwaraeon drwy fynd i’n Canllaw fesul Pwnc Chwaraeon.

Gemau chwaraeon a digwyddiadau cymdeithasol mewn rhaglen ar gyfer yr wythnos Ryng-golegol yn y 1920au (Cyf. UNI/SU/PC/5/3)

Ffynonellau Eraill ym Mhrifysgol Abertawe

Llyfrgell Glowyr De Cymru
Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru yn gartref i gasgliadau’r llyfrau printiedig a’r pamffledi, gan gynnwys llyfrgelloedd mwy na 60 o sefydliadau a neuaddau lles o bob cwr o’r maes glo. Yn ogystal â hyn, mae adnoddau eraill yn cynnwys recordiadau hanes llafar Casgliad Maes Glo De Cymru. Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru hefyd yn cadw nifer o faneri canghennau glowyr a fyddai wedi cael eu cludo yn ystod galâu’r glowyr.

Llyfrau Prin a Chasgliadau Arbennig
Mae’r rhain yn cynnwys casgliad o fwy na 300 o faledi (y rhan fwyaf ohonyn nhw yn Gymraeg) a argraffwyd rhwng 1710 a dechrau'r 20fed ganrif. Mae pob un o'r rhain yn cael ei gatalogio ar wahân yn iFind Discover.

Sinema

Roedd y sinema yn ffurf boblogaidd o adloniant ac mae dyddiaduron Richard Burton (Cyf. RWB/1/1) yn cynnwys cyfeiriadau at y ffilmiau a welodd yn ei sinema leol yn Nhai-bach. Roedd neuaddau a sefydliadau lles glowyr a gweithwyr yn aml yn cynnwys cyfleusterau o'r fath a cheir cyfeiriadau at sinemâu a ffilmiau ar sawl ffurf:

  • rhaglen ar gyfer Sinema Neuadd y Gweithwyr, Ynys-hir ar gyfer mis Ebrill 1953 (Cyf. SWCC/MND/137/2/42/6)
  • cofrestr o berfformiadau ffilm ar gyfer Neuadd a Sefydliad Gweithwyr Nant-y-moel, sy'n cynnwys enwau'r ffilmiau a oedd yn cael eu dangos yn y sinema, 1957–1973 (Cyf. SWCC/MNC/NUM/I/6/16)
  • Cofnodion Pwyllgor Sinema Sefydliad Gweithwyr Tredegar, 1940-1956 (Cyf. SWCC/MNA/I/38/6)

Detholiad o fathodynnau, gan gynnwys un ar gyfer Clwb Sinema’r Fonesig Windsor (Cyf. SWCC/PHO/COL/77)

Neuaddau Lles a Sefydliadau

Datblygodd sefydliadau a neuaddau glowyr yng Nghymru o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn sgîl datblygiad y maes glo, cafwyd cynnydd mawr yn y boblogaeth ynghyd â galwadau newydd am fannau cyfarfod ar gyfer busnes y gangen (yr undeb), dosbarthiadau nos a hamdden gymunedol. Roedd y sefydliadau'n adlewyrchu rôl y gymuned yn gryf ac o ganlyniad daethon nhw’n ganolbwynt bywyd cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol y pentref a'r ardal lofaol.


Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, cofnodion aelodaeth, rheolau a phapurau sy'n ymwneud â gweithgareddau cymunedol, gan gynnwys sefydliadau a neuaddau lles, yn eu plith:

Sefydliad a Llyfrgell Gweithwyr Glofa Llanhiledd: Cafodd y sefydliad hwn ei agor yn swyddogol ym mis Mai 1906 ac ef oedd conglfaen y gymuned yn Llanhiledd, Gwent. Ymhlith yr amwynderau oedd ar gael i’r aelodau roedd llyfrgell, ystafell ddarllen a neuadd ddawns, yn ogystal â phwll nofio ar y llawr isaf. Bu’r Sefydliad yn rhentu sinema ‘The Playhouse’ cyn ei phrynu ym 1944. Yn ddiweddarach agorwyd ystafell filiards, bar a siop fetio yn yr adeilad.
Catalog: Sefydliad a Chofnodion Llyfrgell Gweithwyr Glofa Llanhiledd (Cyf. SWCC/MND/148)

Llun o Lyfrgell Sefydliad Glowyr Oakdale, 1945 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/4/9)

Gwibdeithiau

Pier a Rheilffordd y Mwmbwls a Chwmni Trafnidiaeth De Cymru
Mae gan y casgliadau nifer sylweddol o eitemau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth yn ardal Abertawe yn ogystal â chofnodion sy'n ymwneud â hanes Pier y Mwmbwls. Ceir gweithredoedd teitl, gohebiaeth a phapurau eraill sy’n manylu ar ddatblygiad y Pier a'r gweithgareddau a ddigwyddodd yno. Am hanes byr o'r pier a Chwmni Trafnidiaeth De Cymru ewch i Ailymweld â Phier y Mwmbwls 
Catalog: Cofnodion Cwmni Trafnidiaeth De Cymru (Cyf. LAC/10) 
Disgrifiad o’r Casgliad: Cofnodion Rheilffordd y Mwmbwls (Cyf. LAC/85) 

Mae gan gasgliadau eraill wybodaeth am deithiau diwrnod, megis:

  • 'Rule' a dalennau cerddoriaeth eraill ar gyfer taith staff Baldwins' i Windsor a Llundain, 1936 (Cyf. LAC/24/J/11)
  • llun a dynnwyd gan Raissa Page ar gyfer 'Day out, Brighton', tua 1985 (Cyf. DC3/11/1/1)
  • mae cofrestr Deddf Ffatrïoedd a llyfr tystysgrifau John Player and Sons Cyf. yn cynnwys manylion am wyliau gwaith a oedd yn cyd-daro â Ffair Llangyfelach 1868-1878 (Cyf. LAC/92/P/66)

Galeri – Gwibdeithiau ac Ymweliadau

Llun o’r ‘Maes’ ym Mhorthcawl, sy’n dangos pobl yn cerdded ar hyd yr arfordir (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/66)

Llun o’r ‘Maes’ ym Mhorthcawl, sy’n dangos pobl yn cerdded ar hyd yr arfordir (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/66)

Cofnod mewn llyfr poced bach sy’n rhoi manylion am anifeiliaid a welwyd mewn sioe deithiol ddydd Nadolig 1819 (Cyf. LAC/114/2)

Cofnod mewn llyfr poced bach sy’n rhoi manylion am anifeiliaid a welwyd mewn sioe deithiol ddydd Nadolig 1819 (Cyf. LAC/114/2)

Llun o oleudy’r Mwmbwls, tua 1909 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/46)

Llun o oleudy’r Mwmbwls, tua 1909 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/46)

Cerdyn post o olygfa ar draws y bont a'r parc yn Rhydaman (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/6)

Cerdyn post o olygfa ar draws y bont a'r parc yn Rhydaman (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/6)

Llun o faner Cangen Aber-craf yn cael ei chludo mewn gorymdaith yn ystod Gala Glowyr 1966 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/3/3)

Llun o faner Cangen Aber-craf yn cael ei chludo mewn gorymdaith yn ystod Gala Glowyr 1966 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/3/3)

Cofnod o ddyddiadur Amy Dillwyn, 1872-1917 (Cyf. 2012/11/6)

Cofnod o ddyddiadur Amy Dillwyn, 1872-1917 (Cyf. 2012/11/6)

'Day out, Brighton', tua 1985, llun a dynnwyd gan Raissa Page. Hawlfraint Adrianne Jones. (Cyf. DC3/11/1/1)

'Day out, Brighton', tua 1985, llun a dynnwyd gan Raissa Page. Hawlfraint Adrianne Jones. (Cyf. DC3/11/1/1)

Eisteddfodau a Galâu

Eisteddfod: Grŵp o ddynion o amgylch cadair gerfiedig (Cyf. SWCC/PHO/REC/3/16)

Yr Eisteddfod 
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dyddio'n ôl i 1176 pan gafodd ei chynnal am y tro cyntaf gan yr Arglwydd Rhys yn ei gastell yn Aberteifi. Mae hanes modern y sefydliad yn dyddio'n ôl i 1861 ac mae'r ŵyl wedi'i chynnal bob blwyddyn ers hynny, heblaw am 1914.
Dechreuodd Eisteddfod y Glowyr ym 1948 ym Mhorthcawl, lle y cafodd ei chynnal bob mis Hydref tan 2002. Ysgogodd yr Eisteddfod flynyddol ystod o weithgareddau diwylliannol ar adeg pan oedd dirywiad y diwydiant glo yn bygwth bodolaeth cynifer o gymunedau glofaol yn ne Cymru.
Ymhlith yr eitemau a gedwir yn y casgliadau y mae:

  • llun ffurfiol o aelodau Tîm Ambiwlans Glofa’r Graig, gyda thlws, yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1953 (Cyf. SWCC/PHO/COL/84)
  • rhaglen ar gyfer Eisteddfod Flynyddol Gyntaf y Blaid Lafur Annibynnol yn Aberpennar, 1909 (Cyf. SC/653)
  • 'My Experience at the Picket Line', sef traethawd gan Bryn Williams am ei brofiadau yn ystod streic 1972 yng nghystadleuaeth lenyddol Eisteddfod y Glowyr ym Mhorthcawl, 1973 (Cyf. SWCC/MNA/PP/126/11)
  • mantolen Eisteddfod Lles Glowyr Ystradgynlais, 1943 (Cyf. SWCC/MNA/I/41/B/14)

Galâu Glowyr
Yn wahanol i feysydd glo eraill Prydain, nid oes traddodiad hir o gynnal galâu yn ne Cymru. Cynhaliwyd y gala gyntaf ym mis Mehefin 1953 yng Nghaerdydd. Yn ystod y dyddiau cynnar, roedd y galâu’n achlysuron gwleidyddol iawn, gyda siaradwyr megis Aneurin Bevan yn bresennol ynddyn nhw. Yn y 1970au a'r 1980au, ymdebygai’r galâu i ddigwyddiadau cymdeithasol, gan gynnwys seindorfau pres, dawnsio gwerin ac arddangosfeydd celf a chrefft.
Ymhlith yr eitemau yn y casgliadau y mae:

  • crynodeb o araith (copi) gan Will Paynter a draddododd yng ngala Glowyr De Cymru, 1963 (Cyf. SWCC/MNA/NUM/L/21/57)
  • llun o ddawnswyr, yn ddynion a menywod, mewn gwisgoedd yng ngala Glowyr De Cymru 1961 (Cyf. SWCC/PHO/REC/3/27)
  • Gohebiaeth Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) sy’n ymwneud â diwrnod gala’r glowyr, gan gynnwys rygbi saith bob ochr, pêl-droed pump bob ochr a gorymdaith y gala, 1979-1988 (Cyf. SWCC/MNC/NUM/6/4)

Llun o faner Cangen Aber-craf yn cael ei chludo mewn gorymdaith yn ystod
Gala Glowyr 1966 (Cyf. SWCC/PHO/NUM/3/3)

Ffynonellau mewn mannau eraill

Yn ogystal â hyn, hwyrach y byddwch chi’n dymuno cysylltu ag archifau awdurdodau lleol yn ogystal â gwasanaethau prifysgol, elusennau a gwasanaethau eraill, gan ddibynnu ar eich diddordebau ymchwil. Mae gan yr Archifau Cenedlaethol wybodaeth ynghylch sut i ddod o hyd i archif yn y DU a thu hwnt.