Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Mudo

This page is also available in English

Ffynonellau Astudio Mudo a Symudiad Pobl

Mae gan Archifau Richard Burton amrywiaeth eang o ffynonellau at ddiben astudio mudo i Gymru, o Gymru, o fewn Cymru a mannau eraill. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffoaduriaid o Ryfel Cartref Sbaen
  • myfyrwyr yn teithio ar gyfer addysg
  • pobl yn symud i achub ar gyfleoedd economaidd, megis y fasnach copr
  • sut roedd mudo'n cael ei ystyried

Ffotograff o weithwyr a oedd wedi mewnfudo o Sbaen o flaen gweithfeydd haearn Dowlais tua 1900 (Cyf. SWCC/PHO/TOP/33)

Mewnfudo i Abertawe a'r DU

Addysg

Mae'r casgliadau, yn enwedig Archifau'r Brifysgol, yn cynnwys cyfeiriadau at unigolion yn symud ar gyfer addysg. Mae enghreifftiau o'r casgliadau'n cynnwys:

  • ffotograff o "fyfyriwr cemeg o Dde Affrica, Swydd Amwythig (Concord College)", [Ysgoloriaeth Richard Turner], 1980au (Cyf. DC3/23/1/4)
  • rhestr o fyfyrwyr o dramor ar gyfer sesiwn 1937-38, Coleg Prifysgol Abertawe (Cyf. UNI/SU/AS/2/1/211)
  • 'Bwletin Newyddion Tramor' [Cyrsiau Gwyddorau Cymdeithasol], yng ngohebiaeth y Cofrestrydd, 1956 (Cyf. UNI/SU/AS/2/1/568)

Mae'r stori ddigidol isod yn defnyddio hanesion llafar ac eitemau eraill o gasgliadau'r Brifysgol i adrodd stori myfyrwyr rhyngwladol ar hyd y blynyddoedd.

Cofnodion eglwys

Mae Casgliad Priordy Dewi Sant yn taflu goleuni ar hanes yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn Abertawe o'r 19eg ganrif ymlaen. Priordy Dewi Sant yw'r eglwys Gatholig Rufeinig hynaf yn Abertawe, gan ddisodli adeilad eglwys cynharach a sefydlwyd tua 1808. Daeth y rhan fwyaf o'r plwyfolion o ardal Greenhill, cartref i gymuned fawr o Wyddelod. Daeth hi'n hanfodol adeiladu eglwys yn yr ardal honno, ac agorwyd eglwys San Joseff ym 1866. Gall dogfennau yn y casgliad ddangos cenedligrwydd y plwyfolion, a dyma rai mathau o gofnodion a allai fod o ddiddordeb:

  • cofrestri bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau (Cyf. LAC/99/A)
  • hysbysiadau eglwys (Cyf. LAC/99/C)

Rhan o hysbysiadau eglwys Priordy Dewi Sant, Abertawe, ynghylch ymddygiad James Quinn a ddisgrifiwyd fel 'a true Irishman and a good Catholic' (Cyf. LAC/99/C/1)

Allfudo o Gymru a'r DU

Ceir tystiolaeth o allfudo i wledydd eraill hefyd - gwirfoddol ac fel arall - yn y casgliadau. Dyma rai enghreifftiau:

  • llyfr poced bach y tybir ei fod yn eiddo i David Davies, Treboeth, sy'n cynnwys nodiadau am rwymo llyfrau, yn ogystal â bod yn ddyddiadur ar gyfer 1819-1820 a 1825. Dyma enghreifftiau o'r cofnodion a geir ynddo: ‘the Chilly Men intended to set off this day’ (7 Mehefin 1825), ‘W[illia]m Francis, W[illia]m Lewis, Charles Davies &c left Swansea for to sale for CHILLY to make copper' (8 Mehefin 1825) ac ‘I went to town to see the ship in which David William & D[avi]d Jones &c are going to Mexico’ (4 Mawrth 1825) (Cyf. LAC/114/2)
  • Mae Casgliad Evan Carruthers yn cynnwys papurau swyddogol a phersonol sy'n ymwneud ag allfudo Evan Carruthers i America a'i waith ym mwyngloddiau Colorado rhwng 1920 a 1922, yn ogystal â gohebiaeth a phapurau swyddogol mewn perthynas â thaith ei wraig a'i blant i America tua 1922 (Cyf. SWCC/MNB/PP/4)
  • llythyrau gan Michael D Jones i'r Meistri Ismay Imri ynghylch Patagonia, 1872-1873 (Cyf. LAC/154)
  • cofnod o allfudo Emma ac Elizabeth Price i Ganada yng nghofnodion Pwyllgor y Merched ar gyfer Lloches Cwmdoncyn, 16 Rhagfyr 1889 (Cyf. LAC/22/A/1). Roedd y lloches, a sefydlwyd ym 1887, yn darparu llety dros dro i fenywod a merched yn Abertawe ac roedd yn cynnig lloches i'r rhai mewn sefyllfaoedd agored i niwed. Allfudodd llawer o ferched o'r lloches i Ganada yn y 1890au drwy asiantaeth Miss Maria Rye.

Rhan o lyfr cofnodion Lloches Cwmdoncyn, 16 Rhagfyr 1889, yn cofnodi allfudo Emma ac Elizabeth Price (cyf. LAC/22/A/1)

Ffoaduriaid

Yn ystod y Rhyfel Mawr, daeth ffoaduriaid o Wlad Belg i Abertawe, o bosib oherwydd cysylltiadau blaenorol â'r ardal a'r diwydiant copr. Ceir gwahanol fathau o ddogfen yn y casgliadau sy'n cyfeirio at fewnfudwyr o Wlad Belg yn Abertawe, gan gynnwys:

  • Adroddiad Pwyllgor Gweithredol Abertawe Cronfa Cymorth Genedlaethol Tywysog Cymru ar gyfer 17 Rhagfyr 1914 (Cyf. LAC/64/1)
  • Llyfr cofnodion rheolwyr ysgolion Dewi Sant ac Illtyd Sant sy'n cyfeirio at 'overcrowding: This is due to the presence of several Belgians in the school, together with some children who have come recently from London to escape air-raids', 21 Mawrth 1918 (Cyf. LAC/99/J/7)
  • Hysbysiadau eglwys Priordy Dewi Sant, sy'n cyfeirio at godi arian ar gyfer plant amddifad o Wlad Belg (Cyf. LAC/99/C/13)

Darn ynghylch anrhegion Nadolig ar gyfer ffoaduriaid ifanc o Wlad Belg, o adroddiad Pwyllgor Gweithredol Abertawe Cronfa Cymorth Genedlaethol Tywysog Cymru, 17 Rhagfyr 1914 (Cyf.LAC/64/1)

Croesawodd de Cymru ryw 4,000 o blant oedd yn ffoaduriaid o Wlad y Basg a gyrhaeddodd Brydain drwy sefydliadau cymorth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (am ragor o wybodaeth am adnoddau mewn perthynas â'r gwrthdaro hwn, gweler ein Canllaw i Ryfel Cartref Sbaen). Ceir nifer o ffotograffau a dogfennau eraill sy'n cofnodi cyrhaeddiad y plant a'u hamser yn ne Cymru, gan gynnwys:

  • ffotograff o grŵp dawnsio Basgaidd yn teithio cymoedd Cymru tua 1937-1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)
  • tocyn i gêm pêl-droed i'w chwarae rhwng bechgyn o Wlad y Basg (Caerllion) a Chlwb Bechgyn Pontypridd (Cyf. SC/681/1)
  • llythyr yn apelio am gyfraniadau at Gronfa Plant Gwlad y Basg (Pwyllgor Caerdydd) i'w galluogi i barhau i ariannu Tŷ Cambria, 1938 (Cyf. SC258)

Oriel - Ffoaduriaid o Ryfel Cartref Sbaen

Ffotograff o lowyr o dde Cymru yn ymweld â chartref i blant o Wlad y Basg, ffoaduriaid o Ryfel Cartref Sbaen, 1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/28)

Ffotograff o lowyr o dde Cymru yn ymweld â chartref i blant o Wlad y Basg, ffoaduriaid o Ryfel Cartref Sbaen, 1938 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/28)

Rhan o daflen yn hysbysebu gêm rhwng Tîm Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg a Bechgyn Caerau (Cyf. 616/6/2)

Rhan o daflen yn hysbysebu gêm rhwng Tîm Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg a Bechgyn Caerau (Cyf. 616/6/2)

Ffotograff o Glwb Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg, Caerllion, 1938-1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/31)

Ffotograff o Glwb Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg, Caerllion, 1938-1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/31)

Tocyn ar gyfer gêm rhwng Clwb Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg (Caerllion) a Bechgyn Pontypridd, Caerllion, 1938 (Cyf. SC/681/1)

Tocyn ar gyfer gêm rhwng Clwb Pêl-droed Bechgyn Gwlad y Basg (Caerllion) a Bechgyn Pontypridd, Caerllion, 1938 (Cyf. SC/681/1)

Ffotograff o aelodau grŵp dawnsio Ffoaduriaid o Wlad y Basg a deithiodd y cymoedd, tua 1937-1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)

Ffotograff o aelodau grŵp dawnsio Ffoaduriaid o Wlad y Basg a deithiodd y cymoedd, tua 1937-1939 (Cyf. SWCC/PHO/SCW/52)

Rhan o daflen yn hysbysebu cyngerdd gan blant, ffoaduriaid o Wlad y Basg (cyf. SC616/6/2)

Rhan o daflen yn hysbysebu cyngerdd gan blant, ffoaduriaid o Wlad y Basg (cyf. SC616/6/2)

Ffynonellau Eraill ym Mhrifysgol Abertawe

  • Find My Past - drwy Ifind mae gan staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe fynediad am ddim at Find My Past, sy'n cynnwys rhestrau teithwyr, data cyfrifiadau a ffynonellau perthnasol eraill.
  • Llyfrgell Glowyr De Cymru - Mae'r recordiadau hanes llafar sy'n rhan o Gasgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys cyfweliadau â phobl a oedd wedi ymfudo i Gymru o Sbaen, gan gynnwys Mr a Mrs Nicholas a Casimira Duenos (Cyf. SWCC/AUD/200 - Clipiau sain ar gael ar-lein) a Leo Macho (Cyf. SWCC/VID/38).

Ffynonellau Eraill

Chwiliwch yn yr Hyb Archifau a Discovery yn yr Archifau Cenedlaethol i ddod o hyd i ragor o adnoddau archifol.