Skip to Main Content

Archifau Richard Burton: Casgliadau Archif Lleol

This page is also available in English

Casgliadau Theatr

Casgliad Ethel Ross

Roedd Ethel Ross yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Abertawe ac yn awdur nifer o weithiau sydd o ddiddordeb yn lleol, ac yn nodedig 'Adventurer radical, the diaries of Robert Morris, 1772-1774 ' (1971) a 'Letters for Swansea' (1969). Roedd ganddi ddiddordeb trwy gydol ei bywyd yn y theatr amatur sy'n cael ei adlewyrchu yn y casgliad, yn enwedig ei chysylltiad â Theatr Fach Abertawe. Mae'r casgliad yn cynnwys deunydd sy'n ymwneud â'i chyfeillgarwch tymor hir gyda'r beirdd Dylan Thomas a Vernon Watkins, a'r cyfansoddwr Daniel Jones. Mae cryn dipyn o ddeunydd hefyd yn ymwneud â chyhoeddiadau Ethel Ross ac i'w ymchwiliad i deulu Morris, Alfred Janes, a gyrfa Noel Desenfans a ffurfio oriel Dulwich.

Casgliad Theatr

Mae ein casgliad theatr yn cynnwys eitemau o'r 18fed ganrif i 1980 ac mae'n ymwneud â Theatr Fach Abertawe, Prifysgol Cymru Abertawe, theatr yn Llundain, theatrau gwledig, theatrau symudol, a chynyrchiadau teledu.

Casgliadau Trafnidiaeth De Cymru (Rheilffordd y Mwmbwls)

Ym 1807, Rheilffordd Abertawe a'r Mwmbwls oedd gwasanaeth rheilffordd teithwyr cyntaf y byd.

Mae casgliadau Rheilffordd y Mwmbwls yn adnodd cynhwysfawr ym maes trafnidiaeth bws, rheilffordd a thramffyrdd yn ne Cymru, yn bennaf ar gyfer Abertawe a'r cyffiniau.

Maent yn cynnwys cofnodion gan yr holl gwmnïau sy'n gysylltiedig â rheilffordd y Mwmbwls-

  • Cwmni Trafnidiaeth De Cymru
  • Rheilffyrdd Abertawe a'r Mwmbwls cyf.
  • Cwmni Rheilffordd a Phier y Mwmbwls
  • Cwmni Gwelliannau a Thramffyrdd Abertawe 

Mae'r casgliadau yn cynnwys nifer sylweddol o eitemau sy'n ymwneud â hanes Pier y Mwmbwls. Mae gweithredoedd eiddo, gohebiaeth a phapurau eraill yn manylu ar ddatblygiad y Pier a'r gweithgareddau a gynhaliwyd.

Sefydliadau crefyddol

Priordy Dewi Sant, yr Eglwys Gatholig Rufeinig

Priordy Dewi Sant yw'r Eglwys Gatholig hynaf yn Abertawe. Fe’i hadeiladwyd yn lle eglwys gynharach a sefydlwyd yn c1808. Adeiladodd y Tad Charles Kavanagh (a fu farw yn 1856) yr eglwys Dewi Sant newydd yn 1847 yn ogystal â'r ysgol Gatholig wrth ymyl yr eglwys. Mae'r cofnodion yn yr archif hon yn cynnwys cofrestri cynnar, cofnodion eglwysig y plwyf ac ysgolion a nifer o eitemau yn ymwneud â hanes yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn Abertawe a De Cymru. Ceir hefyd ddeunydd yn ymwneud â phlwyfi Catholig eraill yn y ddinas, pob un ohonynt yn wreiddiol yn ferch-eglwys i Eglwys Dewi Sant.

Cylchdaith Fethodistaidd Abertawe a'r Gŵyr

Daeth Abertawe yn bennaeth ar gylchdaith gyntaf y Methodistiaid Wesleaidd yng Ngorllewin Morgannwg ym 1795. Roedd cymdeithasau Methodistiaid Gŵyr yn rhan o gylchdaith Abertawe o 1795 tan 1864 pan ffurfiwyd hwy yn gylchdaith Gŵyr ar wahân. Parhaodd y trefniant hwn tan 1907 pan ail-unwyd Gŵyr ag Abertawe. Ym 1940, aeth Gŵyr yn ôl i statws annibynnol ond ailymunodd ag Abertawe yn 1962. Mae'r cofnodion yn yr archif hon yn cynnwys cofnodion gweinyddol sydd wedi goroesi o'r gylchdaith a nifer o'r capeli oedd ynddi. Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg sy'n cadw’r cofrestri.