Skip to Main Content

Pontio o Flwyddyn 13 i AU: Casgliadau Arbennig

This page is also available in English

Croeso i'n Casgliadau Arbennig

Mae Prifysgol Abertawe yn ffodus i gael nifer o gasgliadau llyfrgell, archifau ac amgueddfeydd sylweddol a ddefnyddir i gefnogi ymchwil, dysgu ac addysgu.  Maent yn agored i fyfyrwyr, ymchwilwyr, academyddion a’r cyhoedd cyffredinol i edrych arnynt a’u defnyddio.   

Mae’r tîm Casgliadau Arbennig yn gofalu am y casgliadau unigryw a gwahanol hyn sydd yn cynnwys archifau, llyfrau prin, hanes llafar, posteri, baneri, a llyfrgelloedd sefydliadau glowyr. Gellir ymweld â’r casgliadau yn Archifau Richard Burton a’r Casgliad Llyfrau Prin yn Llyfrgell Parc Singleton a Llyfrgell  Glowyr De Cymru ar Gampws Hendrefoelan.  

Archwiliwch ychydig o’n Casgliadau Arbennig

Cyflwyno Archifau Richard Burton

Mae Archifau Richard Burton yn dethol ac yn diogelu’r holl gofnodion o werth hanesyddol a grëwyd neu a ddaeth i feddiant y Brifysgol ac maent yn gwneud yn siŵr bod y cofnodion hyn yn hygyrch i bawb. Mae ein casgliadau ar gael i fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr allanol i’w gweld yn ein hystafell ddarllen.  Maent yn rhoi cipolwg diddorol iawn ar hanes diwydiannol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol yng Nghymru a thu hwnt. 

Pam defnyddio’r archifau?

  • Maent yn gyfoes â’r digwyddiadau a ddisgrifiwyd; hanesion  uniongyrchol neu ffynonellau gwreiddiol
  • Maent yn darparu tystiolaeth o’r hyn a ddigwyddodd, crëwyd gan y cyfranogwyr eu hunain fel arfer
  • Byddant yn helpu i ddatblygu’ch sgiliau meddwl beirniadol
  • Bydd archifwyr ar gael i’ch helpu i chwilio am ddeunydd cyffrous, a’i ddefnyddio.

Un o’r casgliadau a gynhelir yn yr Archifau yw casgliad Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.  Fel rhan o ail flwyddyn ei gwrs ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Researching and Re-telling the Past: Swansea Student Union History Project’, defnyddiodd Sion Durham y casglaid yn ei ymchwil.  Gwyliwch y ffilm isod i glywed Sion yn disgrifio sut roedd yn medru archwilio hanes unigryw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe drwy ffynonellau di-rif a gynhelir yn yr Archifau.

Gallwch ddarllen rhagor am gasgliad Undeb y Myfyrwyr a’r prosiect drwy ddarllen y blog hwn.

Er mwyn darganfod mwy am yr holl gasgliadau eraill sydd gennym, ymwelwch â’n gwefan.

 

________________________

Blog Archifau Richard Burton

Cyflwyno Llyfrgell Glowyr De Cymru

Mae Llyfrgell  Glowyr De Cymru yn llyfrgell ymchwil  yn cynnwys ffynonellau cynradd ac eilaidd sydd yn berthnasol i hanes cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yn ne Cymru ddiwydiannol. Hefyd bydd yn darparu gwasanaethau llyfrgell ar gyfer myfyrwyr ar safle pentref myfyrwyr Hendrefoelan.

Mae ein casgliadau ymchwil yn cynnwys llawer o adnoddau anarferol a gwerthfawr. Maent yn cynnwys llyfrau, pamffledi, posteri, toriadau o bapurau newydd a recordiadau sain hanes llafar am ddigwyddiadau hanesyddol o bwys megis: y Chwyldro yn Rwsia; y Rhyfel Byd Cyntaf; y cyfnod rhwng rhyfeloedd;  Cynghrair y Cenhedloedd; Rhyfel Cartref Sbaen; twf ffasgaeth yn Ewrop; yr Ail Ryfel Byd (yn rhyngwladol a’r “ffrynt cartref” ill dau), Streic y Glowyr 1984-85 a llawer iawn mwy.

Gellir ymchwilio i’n casgliadau o lyfrau drwy ddefnyddio catalog llyfrgell Prifysgol Abertawe iFind. Gellir benthyg rhai llyfrau, ond bydd y mwyafrif yn gyfeirlyfrau y gellir eu gweld yn y llyfrgell yn unig.

Er mwyn eich cyflwyno i rai o’n daliadau amrywiol ac unigryw, ceir ychydig o lyfryddiaethau cryno isod sydd yn tanlinellu rhai o’r teitlau sydd gennym, gan gynnwys eu lleoliad yn Llyfrgell y Glowyr.  

Gellir darganfod rhagor o wybodaeth am ein casgliadau ymchwil ar ein gwefan.

_____________________________

Blog Llyfrgell Y Glowyr De Cymru

Ychydig o lyfrau o ddiddordeb

Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Casgliadau Arbennig