Skip to Main Content

Pontio o Flwyddyn 13 i AU: Llyfrgell

This page is also available in English

Darganfyddwch wybodaeth ar-lein

Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar wefan y llyfrgell, gan gynnwys lleoliad ein llyfrgelloedd ac oriau agor. Hefyd mae gennym ganllawiau llyfrgell fesul pwnc sydd yna i’w pori os dymunwch.  Yn y Canllawiau Llyfrgell hyn, a grëwyd gan ein tîm o Lyfrgellwyr Pwnc, ceir llawer o awgrymiadau a fydd yn eich helpu wrth chwilio am wybodaeth dda.

Pan ddechreuwch eich astudiaethau, gall ein Tîm Llyfrgell MyUni cyfeillgar eich helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y llyfrgell. Gweler eu gwefan am ragor o fanylion am y gwasanaethau y maent yn eu cynnig.

Gallwch gysylltu drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:   MyUniLibrary@abertawe.ac.uk    +44(0)1792 606400

Sut i ddod o hyd i, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth ar gyfer eich aseiniadau

Dyma ychydig o ganllawiau a thiwtorialau i’ch helpu i ddarganfod deunydd i’ch helpu gyda’ch aseiniadau.  Bydd aseiniadau academaidd, megis ysgrifennu papurau, yn gofyn i chi chwilio am ffynonellau o safon, a’u gwerthuso.

Chwiliadau llenyddiaeth llwyddiannus

Bydd treulio ychydig amser yn meddwl am eich strategaeth chwilio yn gymorth mawr wrth ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer eich aseiniadau.  Dyma elfennau allweddol strategaeth chwilio dda:

  • Diffinio'ch allweddeiriau
  • Gosod cyfyngiadau (h.y. dyddiad cyhoeddi, iaith)
  • Ble rydych yn bwriadu chwilio? (cronfeydd data, gwefannau etc)
  • Cofnodi eich canlyniadau​

Mae amrywiaeth eang o wybodaeth efallai yr hoffech ei chynnwys yn eich aseiniadau.  Mae'n cynnwys:

  • Llyfrau - Rydym yn argymell eich bod yn dechrau gyda rhestr ddarllen eich modiwl yn Canvas i ddod o hyd i destunau allweddol ar gyfer eich pwnc.
  • Erthyglau mewn cyfnodolion 
  • Llenyddiaeth Lwyd - yn y bôn, popeth nad yw'n cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn, er enghraifft, trafodion cynadleddau, dogfennau'r Llywodraeth, adroddiadau gan sefydliadau.

Mae dewis yr allweddeiriau cywir yn rhan bwysig iawn o'r broses chwilio. Po fwyaf rydych yn darllen am eich pwnc, mwyaf o allweddeiriau a thermau allweddol byddwch yn dod ar eu traws.  Ar ddechrau'ch chwiliad, mae'n bosib mai ychydig yn unig o allweddeiriau fydd gennych. Gyda'r rhain, gallwch gynnal chwiliad cwmpasu (chwiliad eang, cyflym) i gael trosolwg o faint o lenyddiaeth sydd ar gael ar gyfer eich pwnc.  Yn seiliedig ar eich canlyniadau, gallwch fireinio'ch allweddeiriau ac ail-wneud eich chwiliad.

Bydd yn bwysig cyfuno'ch allweddeiriau yn y ffordd gywir gan ddefnyddio gweithredwyr Boolean (AND/OR/NOT).  Rydym wedi creu ffurflen cofnodi chwiliad i'ch helpu i feddwl am allweddeiriau ar gyfer eich chwiliad. 

DS: Bydd rhai o'n cronfeydd data yn cynnwys Penawdau Pwnc/Penawdau Thesawrws hefyd.  Mae defnyddio chwiliadau pennawd pwnc yn ffordd ddatblygedig o chwilio am lenyddiaeth a gall ddarparu set ddefnyddiol a phwrpasol o ganlyniadau.  Bydd gan bob cronfa ddata dudalen cymorth sy'n cynnig rhagor o fanylion.

Mae gwerthuso'ch ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth, a chwestiwn sy'n cael ei ofyn yn aml yw:  Sut rydych yn gwybod bod eich ffynonellau yn:

  • ddibynadwy
  • digon academaidd
  • diduedd

Chwilio Effeithiol gyda Google

Mae Google yn gallu bod yn declyn defnyddiol ar gyfer darganfod gwybodaeth ar-lein. Sut bynnag, gall fod yn anodd iawn darganfod y ffynonellau gwybodaeth mwyaf priodol a dibynadwy ymysg miloedd neu filiynau o ganlyniadau. Peidiwch â chymryd yn ganiataol mai’r canlyniadau ar ben y rhestr fydd y goreuon! Bydd y strategaethau canlynol yn eich helpu i chwilio’n fwy effeithiol gyda Google.

Chwiliwch mewn gwefan neu mewn grŵp o wefannau

Defnyddiwch eich geiriau allweddol a’r gorchymyn site:url i ddarganfod canlyniadau o un wefan neu o grŵp o wefannau. Er enghraifft, bydd chwilio am cyfnod sylfaen site:llyw.cymru yn darganfod gwybodaeth am y Cyfnod Sylfaen o wefan Llywodraeth Cymru.

Gallech ddefnyddio:

  • site:ac.uk i chwilio gwefannau academaidd.
  • site:gov.uk am safleoedd Llywodraeth y DU
  • site:nhs.uk neu wales.nhs.uk am wybodaeth swyddogol y GIG

Darganfyddwch fath penodol o ddogfen

Defnyddiwch y gorchymyn filetype: i gyfyngu’ch ymchwiliad i fath penodol o ddogfen. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os rydych yn chwilio am fath penodol o wybodaeth.  Er enghraifft, os bydd yn debygol y cyhoeddir eich dogfennau llywodraeth mewn ffurf pdf, gallech ddefnyddio filetype:pdf er mwyn cyfyngu’ch canlyniadau i ffeiliau PDFs a’i gwneud yn haws darganfod yr hyn sydd ei angen arnoch. Bydd data rhifiadol yn debygol o ymddangos mewn taenlen felly gallech ddefnyddio filetype:xls i chwilio am ddogfennau Excel.

Pecyn Goroesi Aseiniad (ASK)

Assignment Survival Kit

 

 

 

 

 

 

 

Ydych chi erioed wedi pendroni ynghylch sut i ddechrau ysgrifennu'ch traethawd neu'ch aseiniad? Bydd gwefan y Pecyn Cymorth Goroesi Aseiniadau yn eich helpu i roi trefn ar eich meddyliau ac yn darparu canllawiau defnyddiol ar hyd y ffordd.Teipiwch ddyddiad dychwelyd eich aseiniad, a chewch linell amser i'ch helpu i gwblhau'ch aseiniad ar amser.

http://libguides.swansea.ac.uk/rheolaeth/ASK

 

  • Cyfrifwch amserlen yr aseiniad
  • Deall eich aseiniad
  • Sut mae mynd ati gydag aseiniad
  • Cynllunior aseiniad
  • Sut y dylwn ddechrau fy ymchwil?
  • Dod o hyd i ddeunyddia llyfrgell
  • Dod o hyd i gyfnodoliau a'u defnyddio
  • Mathau arbenigol o wybodaeth
  • Sut mae defnyddio fy ymchwil?
  • Llunio drafft gyntaf
  • Ydw i wedi gwneud popeth sy'n angewheidol?
  • Canllaw i eiriau gyfarwyddo

Cyfeirnodi’ch Gwaith

Un o’r gwahaniaethau mwyaf rhwng Blwyddyn 13 a’r Brifysgol yw’r gofyn i chi ymchwilio’n fwy helaeth ar gyfer eich aseiniadau, a’u cyfeirnodi’n addas. Bydd gan fyfyrwyr blwyddyn gyntaf arddull gyfeirnodi i’w dilyn, a fydd yn seiliedig ar eich cwrs.  Mae pedair arddull gyffredin:

Holi Llyfrgellydd

Sut i ddefnyddio ein llyfrgelloedd

Bydd ein Llyfrgelloedd ar agor i chi ddod mewn a’u defnyddio!  

Ceir fideo isod sydd yn dangos sut i ymchwilio’n catalog ar-lein, o’r enw iFind. Gall iFind eich helpu i ddarganfod eitemau sydd gennym yn y Llyfrgell, megis llyfrau a chyfnodolion (cyfnodolion academaidd). 

Gallwch fenthyg eitemau o’n Llyfrgell, ar yr amod bod gennych gerdyn llyfrgell o’r Llyfrgell Gyhoeddus neu o Lyfrgell eich Coleg. Gofynnwch iddynt hwy’n gyntaf, a gallant roi ffurflen i chi ddod â hi i'n Llyfrgell ni a fydd yn caniatáu i chi fenthyg.  Edrychwch ar ein gwefan am Wybodaeth i Ymwelwyr â’r Llyfrgell am ragor o fanylion.  Gallwch fenthyg hyd at 5 eitem fenthyg arferol ar y tro am gyfnod o 4 wythnos.

Newyddion Llyfrgell

Loading ...