Llongyfarchiadau am wneud y penderfyniad mawr i ddod i’r Brifysgol!
Wrth i chi symud ymlaen o Flwyddyn 13 i’r Brifysgol, bydd eich gwaith cwrs yn fwy heriol. Gallwn dawelu eich meddwl y bydd gennych y gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch er mwyn llwyddo. Bydd ein hadnoddau a’n staff gwasanaethgar yn eich tywys a’ch cefnogi drwy gydol eich amser yn y Brifysgol.
Bydd ein canllawiau i’n Llyfrgelloedd, Diwylliant a’r Celfyddydau yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am sut i ddefnyddio’n Llyfrgelloedd i ddarganfod a defnyddio gwybodaeth a data ar gyfer eich aseiniadau, yn helpu chi i ymchwilio i’n Casgliadau Arbennig yn Archifau Richard Burton ac yn Llyfrgell Glowyr De Cymru, a’ch cyflwyno i’r Ganolfan Eifftaidd gyda’i chasgliad o dros 5000 o wrthrychau sydd yn dyddio o 100,000CC i 500 OC.