Skip to Main Content

Amrywio ein casgliadau: Gyda'n Gilydd fe Wnaethom Newid

This page is also available in English

Awgrymiadau myfyrwyr

Mae'r Llyfrgell wedi bod yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr i sicrhau bod ein casgliadau'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymuned. Yn gynharach eleni, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr argymell llyfrau y dylem ni eu hychwanegu at stoc y llyfrgell. O ganlyniad, rydym ni wedi archebu nifer o lyfrau newydd a fydd ar gael i'w benthyg cyn hir. Meddai cyn Swyddog BME Undeb y Myfyrwyr, Travis Brown:

"Mae Prifysgol Abertawe wedi manteisio ar y cyfle i ehangu gorwelion gwybodaeth am ddiwylliannau gwahanol yn y Brifysgol. Ar ôl gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a'r llyfrgelloedd, rwy'n falch o ddweud y bydd casgliad newydd o lyfrau yn y llyfrgelloedd, a fydd yn cynnig ffynhonnell well o wybodaeth i fyfyrwyr er mwyn iddynt eu haddysgu eu hunain."

Dyma restr o’r llyfrau a archebwyd gennym.

Os hoffech chi argymell llyfr i'r llyfrgell, cwblhewch y ffurflen hon ar-lein.

Ychwanegwyd detholiad o lyfrau i’n casgliad