Skip to Main Content

Amrywio ein casgliadau: Amrywio eich rhestrau darllen

This page is also available in English

Mae'r canllaw cryno hwn yn helpu i esbonio ystyr 'amrywio' yng nghyd-destun y brifysgol gyfoes, ac mae'n cynnig ychydig o ystyriaethau ymarferol am sut i ddechrau amrywio ein hamgylchedd dysgu ac addysgu.

Pam mae amrywio'n bwysig i'n staff a'n myfyrwyr

Mae myfyrwyr ledled y DU wedi uno eu lleisiau i ddweud wrthym fod y cwricwlwm presennol yn rhwystr go iawn i'w llwyddiant. Rydym am greu amgylcheddau dysgu lle gallant weld bod pobl sy’n debyg iddyn nhw’n gynhyrchwyr awdurdodol o wybodaeth.

Mae cydweithwyr o grwpiau wedi’u hymyleiddio ledled y DU wedi ysgrifennu am yr anawsterau maent yn eu hwynebu yn y brifysgol pan gaiff eu hymchwil ei danbrisio, a'i anwybyddu a phan nad yw'n cael ei ddyfynnu'n aml. Rydym am greu diwylliannau addysgu lle mae ymchwil pawb yn cael ei werthfawrogi.      

Beth yw amrywiaeth mewn cwricwlwm?

Gallai amrywiaeth olygu cynnwys rhagor o ddeunyddiau am bobl wedi'u hymyleiddio yn eich cwricwlwm, a gallai olygu cynnwys mwy o ddeunyddiau gan ysgolheigion wedi'u hymyleiddio yn eich rhestrau darllen. Nid llenwi cwota yn unig yw'r amcan na dilyn rheolau; yn hytrach, y nod yw meithrin amgylchedd dysgu lle mae gwybodusion a mathau o wybodaeth sydd wedi cael eu heithrio o'r gymuned academaidd yn cael eu hail-ymgorffori. Mewn termau bras, mae hyn yn golygu gwybodaeth a gynhyrchir gan bobl sydd wedi'u hymyleiddio oherwydd eu dosbarth, eu tueddfryd rhywiol, eu rhyw, eu hunaniaeth rhywedd, eu hil neu eu gallu.

Beth os yw fy modiwl yn eithriad?

Yn aml iawn, mae'r rhai sy'n addysgu cynnwys sy'n dibynnu'n sylweddol ar rifau yn rhagdybio nad oes modd amrywio eu meysydd llafur. Fodd bynnag, hyd yn oed os na ellir amrywio'r cynnwys, gellir sicrhau bod awduron amrywiol yn cael eu cynnwys yn y rhestr ddarllen.

Beth os mai ysgolheigion gwyn neu ysgolheigion gwrywaidd yw'r rhai sy'n cael eu dyfynnu amlaf (y rhai gorau) yn fy maes? Mae'r syniad bod ansawdd yn dioddef pan roddir sylw i amrywiaeth yn fyth pan ystyriwn sut mae rhwydweithiau ysgolheigaidd, gwerthusiad cyfnodolion a mantais ieithyddol siaradwyr Saesneg yn creu'r amodau sy'n penderfynu gwaith pwy a ddyfynnir amlaf. Nid y gwaith a ddyfynnir amlaf yw'r gwaith gorau. Yn ogystal, dylai myfyrwyr ddysgu sut i chwilio am bob math o ymchwil a'i ddefnyddio i fod yn feddylwyr gwirioneddol feirniadol, yn hytrach na'r gwaith mwyaf hawdd dod o hyd iddo. 

Amrywio eich rhestrau darllen

Does dim un ffordd o amrywio'ch rhestrau darllen oherwydd y berthynas rhwng y deunydd a addysgir gennych a'r myfyrwyr yn eich ystafell ddosbarth sydd wrth wraidd yr atebion penodol.

Cymerwch y cam hawsaf i ddechrau. Mae angen amser i amrywio rhestrau darllen yn drylwyr a bydd rhaid i chi ailgydio yn y dasg hon wrth i fwy o ymchwil gael ei gyhoeddi. Ystyriwch a allwch ddechrau drwy gymryd un o'r camau canlynol:

  • Allwch chi gynnwys mwy o ddeunydd darllen gan ysgolheigion sydd wedi'u hymyleiddio?
    • Os felly, allwch chi sicrhau hefyd nad yw'r gwaith darllen gan ysgolheigion sydd wedi'u hymyleiddio bob amser yn ddewisol (gan roi'r argraff gamsyniol ei fod o safon is)?
    • Os felly, allwch chi sicrhau hefyd nad yw deunydd darllen gan ysgolheigion sydd wedi'u hymyleiddio'n cael ei gyfyngu i bynciau sydd am y grŵp wedi'i ymyleiddio hwnnw.
    • Os na allwch, allwch chi gynnwys deunydd darllen am ddiffyg cynrychiolwyr yn eich maes? Allwch chi drafod y diffyg hwn â'ch myfyrwyr mewn darlithoedd a seminarau?
  • Allwch chi adolygu'r enghreifftiau rydych yn eu defnyddio yn eich sleidiau i sicrhau bod pobl sydd wedi'u hymyleiddio yn cael eu cynrychioli fel mwy na gwrthrychau astudio'n unig. Ystyriwch, er enghraifft, y nifer mawr o fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio graddau rheolaeth a busnes. Ydyn nhw'n gweld gwaith gan ysgolheigion rhyngwladol yn eu maes llafur, neu ydy busnesau yn eu gwledydd yn ddim mwy na chyfle neu 'broblem' i ysgolheictod y gorllewin ei datrys?
  • Allwch chi ad-drefnu'ch maes llafur er mwyn i'r pynciau gynnwys pobl a/neu ysgolheigion sydd wedi'u hymyleiddio a sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael tan ddiwedd y modiwl fel pe baent yn ôl-ystyriaeth. Er enghraifft, mae addysgu cynnwys yn nhrefn amser yn golygu'n aml bod pobl sydd wedi'u ymyleiddio'n cael sylw ar ddiwedd y gronoleg yn unig (e.e. cynnydd = menywod yn hawlio eu lle yn y gweithle cyfoes). Yn aml, gall addysgu deunydd ar sail thematig ganiatáu i chi ymdrin â phobl ac ysgolheigion sydd wedi'u hymyleiddio yn gynt a thrwy gydol cynnwys y cwrs (e.e. drwy ddiffiniad, mae damcaniaethau llafur wedi anwybyddu llawer o'r llafur di-dâl ac atgynhyrchiol a wneir gan fenywod yn bennaf).

Pa gamau eraill y gallwch eu cymryd.

Cam cyntaf yn unig yw amrywio rhestrau darllen yn y broses o ddatblygu amgylchedd dysgu lle gall myfyrwyr a staff sydd wedi'u hymyleiddio eu gweld eu hunain wedi’u hadlewyrchu. Dyma rai camau posib eraill:

  • Ailystyried sut gellid cynllunio dulliau asesu, lleoedd ar y campws a gweithgareddau allgyrsiol i wella amrywiaeth. Er enghraifft, gallech ofyn i fyfyrwyr lunio rhestr ddarllen amrywiol ar bwnc penodol fel aseiniad.
  • Dysgwch o'r hyn mae cydweithwyr ar draws y Brifysgol yn ei wneud eisoes (er enghraifft, y gwaith sy'n cael ei wneud ar amrywio yn yr Adran Astudiaethau Iechyd Rhyngbroffesiynol ac ar ddad-drefedigaethu yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe.)
  • Gallwch ddatblygu fforymau ar gyfer trafod y mathau hyn o faterion yn uniongyrchol â myfyrwyr (er enghraifft, menter ‘Liberating the Curriculum’ UCL https://www.ucl.ac.uk/teaching-learning/research-based-education/liberating-curriculum)
  • Adolygwch gynnydd yn rheolaidd i fyfyrio ar yr hyn sy'n llwyddiannus a lle mae angen datblygiad o hyd. Bob tro rydych yn ysgrifennu adolygiad o fodiwl, mae'n gyfle i fyfyrio am effeithiau amrywio'ch rhestr ddarllen.

Adnoddau ychwanegol