Hyfforddiant Eiddo DeallusolMae’r hyfforddiant hwn yn dangos elfennau sylfaenol eiddo deallusol.
Erbyn diwedd yr hyfforddiant byddwch chi’n:
a. Gallu nodi gwahanol fathau o eiddo deallusol
b. Deall swyddogaeth eiddo deallusol yn y maes pwnc yr ydych yn ei ddewis
c. Gwybod sut i ddefnyddio eiddo deallusol i amddiffyn eich gwaith
ch. Ennill sgil newydd y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi ac sy’n ddefnyddiol mewn hunangyflogaeth
d. Cael achrediad gan y Swyddfa Eiddo Deallusol yn nodi eich bod wedi cyflawni’r cwrs hwn. Mae’r hyfforddiant hwn AM DDIM a gellir ei gwblhau mewn 40 munud.
• Dewiswch y modiwl sector sy’n disgrifio’ch cwrs orau. Mae’r adrannau yn cynnwys: Creadigol, Dyniaethau, Busnes, Cyfrifyddu a’r Gyfraith neu Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg.