Mae gan staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe fynediad am ddim i’r archifau papur newydd isod yn ychwanegol at y safleoedd sydd ar gael yn unrhyw le arall ar y Rhyngrwyd. Mae dolenni i’r holl adnoddau papur newydd a danysgrifiwn (yn ychwanegol i rai adnoddau am ddim ar y we) yn iFind. Cliciwch ar y tab Adnoddau Allweddol i weld rhestr lawn o’r adnoddau newyddion a phapurau newydd a danysgrifiwn.
Llun drwy garedigrwydd Mass Observation Online
Mae Archif The Times yn cynnwys papur newydd The Times yn ei gyfanrwydd, o'i ddechrau ym 1785 hyd at 2019, gan gynnwys erthyglau, ffotograffau, llythyron a hysbysebion.
Mae’r safle UKPressOnline yn rhoi mynediad i destun llawn (ffacsimilïau tudalen lawn) i'r Daily Express o 1900 hyd heddiw. Mae’n cynnwys hefyd y Sunday Express a Daily Star (o 2000 hyd heddiw) a Star Sunday (o 2002 hyd heddiw). Gellir gweld pob rhifyn fel y byddai wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol (ynghyd â ffotograffau, lluniau, hysbysebion etc.).
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Casgliad Llyfrgell Prydain o bapurau newydd, pamffledi a llyfrau a gasglwyd gan y Parchedig Charles Burney (1757-1817). Gyda mwy na deuddeg cant o deitlau, dyma yw’r casgliad helaethaf a mwyaf cynhwysfawr o gyfryngau newyddion Saesneg.
Mae casgliad y 19th Century British Library Newspapers yn cynnwys cyfresi llawn o 70 papur newydd a ddetholwyd gan y Llyfrgell Brydeinig i gynrychioli Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'n cynnwys papurau newydd cenedlaethol a rhanbarthol, a gall fod yn hynod ddefnyddiol os ydych yn ymchwilio i hanes lleol neu deuluol.
Mae Welsh Newspapers Online yn cynnig mynediad am ddim i thua 120 o bapurau newydd Cymreig gan ddyddio’n ôl i 1919. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o The Cambrian rhwng 1804 a 1910.
Mae’r cynnig yn rhoi mynediad at destun llawn papurau newydd, gwefannau newyddion a blogiau gan gyhoeddwyr blaenllaw drwy’r byd. Mae’n cynnwys ffeil wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, gan ddarparu mynediad at erthyglau, colofnau, erthyglau golygyddol, coflithoedd a nodweddion a gyhoeddwyd ym mhob papur. Mae’r papurau newydd mawr yn cynnwys y New York Times, Wall Street Journal, Chicago Tribune, Washington Post, USA Today, Los Angeles Times, Boston Globe, The Guardian a llawer mwy o deitlau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Mae gwefan ‘Croniclo America’ yn cynnwys dros 10 miliwn o dudalennau o bapurau newydd a ddigideiddwyd yn dyddio rhwng 1836 ac 1922. Mae’n Llyfrgell Gyngres ac yn Waddoliad Cenedlaethol ar gyfer y prosiect Dyniaethau (rhan o Raglen Papurau Newydd Digidol Cenedlaethol –NDNP).
Adnodd sy’n croes chwilio Casgliad Burney o’r 17eg-18fed Ganrif, Cyfnodolion y DU o’r 19eg Ganrif, Papurau Newydd y Llyfrgell Brydeinig, Picture Post ac Archif Ddigidol The Times.