iFind yw’r man galw cyntaf i ganfod unrhyw beth yn y llyfrgell. Gallwch chwilio am lyfrau, cronfeydd data a rhagor.
Bydd gwefan y Pecyn Cymorth Goroesi Aseiniadau yn eich helpu i drefnu ar gyfer eich aseiniad. Teipiwch ddyddiad dychwelyd eich aseiniad, a chewch linell amser i'ch helpu.
Mae gan gyfrifiaduron personol yn y llyfrgell feddalwedd arbenigol sy'n gallu eich helpu i gynllunio ac ysgrifennu eich aseiniadau. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion o'r hyn sydd ar gael ac i weld sut all technoleg eich cynorthwyo chi i gynllunio eich ymchwil, ysgrifennu eich aseiniadau a strywthuro eich gwaith. Mae nodweddion yn cynnwys opsiynau darlllen yn uchel, teclynnau mapio'r meddwl a gwiriadau sillafu a gramadeg.