Skip to Main Content

Bydwreigiaeth: Sgiliau ysgrifennu a darllen

This page is also available in English

Centre for Academic Success

Mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein am ddim, sydd ar gael i bob fyfyriwr. Gallwch wneud cymaint ag y dymunwch yn ystod eich amser yn y brifysgol. Mae ein cyrsiau ar-lein yn cwmpasu pontio i brifysgol, sgiliau astudio, uniondeb academaidd, darllen, ysgrifennu a mathemateg ac ystadegau.

Sgiliau Astudio Hanfodol

Mae’r cwrs Sgiliau Astudio Hanfodol yn gwrs Canvas sy’n llawn adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol ar gyfer darllen academaidd, ysgrifennu traethodau a sgiliau astudio allweddol eraill. Mae pob adnodd yn gryno a chaiff eich cynnydd ei gadw wrth i chi fynd yn eich blaen felly gallwch chi roi hwb i’ch sgiliau eich hun ar eich cyflymder eich hun. 

Llwyddiant Academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd

Mae Llwyddiant Academaidd yn gwrs Canvas a luniwyd i’ch cefnogi chi wrth i chi ymgartrefu yn y Brifysgol. Bydd yr adrannau’n eich helpu chi i ganolbwyntio ar eich nodau, datblygu dealltwriaeth o werthoedd craidd uniondeb academaidd ac yn addysgu’r sgiliau newydd hanfodol i chi y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo ym myd addysg uwch. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar yr holl wasanaethau sydd ar gael os bydd angen cymorth arnoch chi.

Ysgrifennu traethawd myfyriol

Mae rhan o'r tiwtorial Sgiliau Astudio Hanfodol yn edrych ar ysgrifennu myfyriol. Wedi'i anelu at fyfyrwyr Nyrsio, mae'r tiwtorial hwn yn gweithredu fel canllaw i ysgrifennu aseiniad myfyriol gan ddefnyddio Cylch Myfyriol Gibbs (1988). Cofrestrwch ar gyfer y modiwl ar Canvas, cliciwch ar Ysgrifennu Academaidd ac yna cliciwch ar Ysgrifennu traethawd myfyriol.

Meddwl yn Feirniadol

Bydd y Cwrs Tystysgrifedig hwn yn datblygu'ch sgiliau yn yr agwedd hanfodol hon ar fywyd academaidd. Byddwch yn dysgu sut i adnabod a dadansoddi dadleuon, datgelu tuedd a datblygu eich safbwynt eich hun ar destun.