Ydych chi wedi cymryd rhan yn ein heriau Darllen yn Well? Maent yn ffordd wych o amrywio eich darllen a dod o hyd i awduron a genres newydd. Rydyn ni’n lansio un newydd yr wythnos hon!
Mae’r cynllun yn syml – darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod. (os ydych yn gallu dod o hyd i lyfr sy’n cyd-fynd â mwy nag un categori, mae hawl gwneud hynny!). Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ynghyd ar gyfer pob awgrym. Neu awgrymwch eich llyfrau chi eich hun a rhannu eich syniadau drwy ddefnyddio #paDarllenYnWell.
Cynhelir yr her tan 19 Ebrill. Os nad ydych chi’n llwyddo i ddarllen pob un o’r llyfrau erbyn hynny, peidiwch â phoeni – hwyl yn unig yw hwn, felly gallwch gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch! Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook.
Darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod.
- Mis Hanes LGBT+ 2021 o Wynebau – Llyfr gan neu am Lily Parr, Mark Ashton, Maya Angelou, Michael Dillon neu Mark Weston
- Llyfr Darllen yn Well sy’n Rhoi Hwb i’ch Tymer
- Llyfr ffuglen mewn genre gan awdur Du (gall ffuglen genre gynnwys trosedd, ffantasi, rhamant, ffuglen wyddonol, arswyd...)
- Llyfr gan fenyw a enillodd wobr yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf