Skip to Main Content

Library News. Newyddion y Llyfrgell

Diweddariad Gwasanaethau Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe – Haf 2022

by Philippa Price on 2022-05-31T13:40:36+01:00 | 0 Sylwadau / Comments

Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe’n dymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau diweddar.

I’r rhai hynny ohonoch sy’n gorffen eich astudiaethau ac sy’n gadael Abertawe, pob lwc!

Peidiwch ag anghofio dychwelyd unrhyw eitemau y benthycoch i’r llyfrgell a thalu unrhyw ddirwyon ar eich cyfrif. Caiff eich cyfrif TG ei gau pan ddaw eich cwrs i ben. Cofiwch roi cyfeiriad e-bost arall i’ch cysylltiadau a chadw unrhyw ddata personol y bydd efallai ei angen arnoch yn y dyfodol. Cymerwch olwg ar y rhestr wirio cau cyfrifon.

I’r rhai ohonoch fydd yn dychwelyd ym mis Medi, nodwch:

  • Os bydd gennych lyfrau neu gyfnodolion ar fenthyg dros yr haf, bydd y rhain yn parhau i adnewyddu’n awtomatig ac ni fydd angen i chi boeni amdanynt oni bai fod rhywun arall yn gofyn i’w benthyg. Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn derbyn e-bost yn gofyn i chi ddychwelyd yr eitem(au) o fewn 14 diwrnod. Os ydych yn bwriadu cadw eitemau dros yr haf, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich cyfrif e-bost Prifysgol yn rheolaidd.

  • Gofynnir i chi ddychwelyd gliniaduron sydd dal ar fenthyg yn brydlon i’r cypyrddau clo hunanwasanaeth yn y Llyfrgell o ble fenthycoch chi nhw. Ni fydd y rhain yn adnewyddu’n awtomatig a chodir dirwy o £10.00 y dydd.

  • Os oes gennych unrhyw bryderon am ddychwelyd eitemau, rhowch wybod i’r tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid ar unwaith. Gallwch ddychwelyd llyfrau i ni trwy’r post, os oes angen. Ewch i dudalennau gwe y Llyfrgell am fanylion cyswllt a chyfeiriadau post.

Os ydych yn defnyddio Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe dros yr Haf:

  • O 1 Mehefin tan 29 Awst, bydd oriau agor  yr haf yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a’r Bae o 8am tan hanner nos, ond bydd Llyfrgell Parc Singleton yn cau am 6pm ar ddydd Iau, 2 Mehefin ar gyfer Dawns yr Haf.

  • O 3 Mehefin, bydd Llyfrgelloedd Parc Singleton a’r Bae ar agor o 8am tan hanner nos saith niwrnod yr wythnos.

  • Cewch hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am oriau agor ein holl lyfrgelloedd ar ein tudalennau gwe.

  • Bydd benthyciadau hunanwasanaeth gliniaduron am bythefnos yn parhau i fod ar gael o Lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Nid oes modd adnewyddu’r rhain ac mae’n rhaid eu dychwelyd i’r cwpwrdd clo o ble daethon nhw erbyn y dyddiad dychwelyd.
  • Bydd modd i chi gysylltu â Llyfrgellwyr Pynciol trwy sgwrsio ar-lein neu gellir cael apwyntiadau unigol. Ceir manylion llawn yng Nghanllawiau’r Llyfrgell.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Byddwn yn gwneud gwelliannau i adeilad a mannau astudio Llyfrgell Parc Singleton dros yr haf, ac ymddiheurwn o flaen llaw am unrhyw darfu a diolchwn i chi am eich amynedd a dealltwriaeth wrth i ni gwblhau’r gwaith.

Croesawn eich adborth ac awgrymiadau am sut gallwn wella a byddwn yn ddiolchgar pe byddech yn cysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid i’w rhannu.


 Ychwanegu sylw / Add a comment

0 Sylwadau / Comments.

  Tanysgrifio / Subscribe



Nodwch eich cyfeiriad e-bost i dderbyn hysbysiadau am byst newydd drwy e-bost / Enter your e-mail address to receive notifications of new posts by e-mail


  Archif / Archive



  Follow Us



  Twitter
  Instagram
  Dychwelyd i flog / Return to blog
This post is closed for further discussion.

title
Loading...