Proquest Dissertations & Theses Global
Proquest Dissertations & Theses Global

Description

ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.

Librarian Review

Mae Traethodau Hir a Thesisau ProQuest yn gronfa ddata sy’n llawn o Draethodau Hir a Thesisau ar lefel PhD o brifysgolion ar draws y byd ble mae’n bosib chwilio. Mae mwyafrif y Traethodau Hir yn cynnwys y testun llawn ac ar gael i’w lawrlwytho. Mae sgrin chwilio ProQuest yn hynod syml a hawdd ei deall a’i defnyddio. Teipiwch eich geiriau allweddol i’r blwch chwilio er mwyn darganfod canlyniadau. Wrth ddewis yr Opsiwn Testun Llawn ar ochr chwith y sgrin, bydd hyn yn eich galluogi i gyfyngu eich canlyniadau i fersiwn PDF lawn. Mae'n werth defnyddio’r sgrin Chwilio Uwch hefyd o fewn yr adnodd hwn. Gellir dewis opsiynau yma, gan gynnwys cyfyngu i un brifysgol, iaith neu ieithoedd penodol, neu ddarganfod canlyniadau o ystod o ddyddiadau penodol.

title
Loading...